- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Wedi'u gwneud
19 Gorffennaf 2000
Yn dod i rym
1 Awst 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58 a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2)
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Diwygio) (Cymru) 2000, a deuant i rym ar 1 Awst 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Cymru) 1999(3)
3.—(1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Yn Rheoliad 2(1), ar ôl y diffiniad o “person dynodedig” rhowch —
“ystyr “Rheoliadau 1993” yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) 1993; (4)”
(3) Yn Rheoliad 3(1), yn lle “ac 1 Ebrill 2002”, rhowch —
“, 1 Ebrill 2002, 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004.”.
(4) Yn Rheoliad 8, ar ôl paragraff (4), rhowch —
“(5) Yn y blynyddoedd perthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004, cyfrifir y swm y gellir ei godi yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf.”.
(5) Yn Rheoliad 10, ar ôl paragraff (3), rhowch —
“(4) Os yw'r swm a geir drwy gymhwyso'r fformwla a nodir ym mharagraffau (2) a (3) yn llai na'r swm a geid drwy gyfrifo'r swm y gellir ei godi am ddosbarth perthnasol ar gyfer yr hereditament hwnnw yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf, y swm a gyfrifir yn unol â Rhan III o'r Ddeddf fydd y swm y gellir ei godi am ddiwrnod perthnasol ar gyfer yr hereditament hwnnw.
(5) Yn y blynyddoedd perthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004 cyfrifir y swm y gellir ei godi yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf.”.
(6) Ar ôl Rheoliad 10, rhowch –
“10A. Mae Rheoliad 10B yn gymwys i hereditament diffiniedig os yw'r amod yn Rheoliad 9 wedi'i fodloni ac nad yw adrannau 43(5), 43(6A) neu 45 o'r Ddeddf yn gymwys ar 31 Mawrth 2000.
10B.—(1) Os elusen neu ymddiriedolwyr elusen sy'n talu'r ardrethi a bod yr hereditament diffiniedig yn cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu yn bennaf at ddibenion elusennol, ceir y swm y gellir ei godi drwy rannu'r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 10 â 5.
(2) Os yw adran 43(6B) o'r Ddeddf (siopau cyffredinol etc. mewn aneddiadau gwledig) yn gymwys mewn perthynas â'r hereditament diffiniedig, ceir y swm y gellir ei godi drwy rannu'r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 10 â 2.
(3) Os yw'r amodau yn adran 45(1) o'r Ddeddf (eiddo nad yw wedi'i feddiannu) wedi'u bodloni mewn perthynas â'r hereditament diffiniedig, ceir y swm y gellir ei godi drwy rannu'r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 10 â 2, neu mewn achos lle mae adran 45(6) (hereditamentau elusennau nad ydynt wedi'i meddiannu) yn gymwys, â 10.”.
(7) Yn Rheoliad 12(2), yn lle “2001” rhowch –“2005”.
(8) Ar ôl Rheoliad 12, rhowch —
“13. Pan wneir newid yn y gwerth ardrethol a ddangosir mewn rhestr ar 1 Ebrill 2000, a bod y newid hwnnw yn effeithiol o ddyddiad diweddarach yn unol â darpariaethau Rheoliad 13A(2) o Reoliadau 1993, yna bydd darpariaethau Rheoliad 11(1) yn gymwys.” (5)
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)
D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Gorffennaf 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Cymru) 1999 (“y prif Reoliadau”) yn gwneud darpariaeth, mewn perthynas ag ardrethi annomestig o dan Ran III o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ar gyfer y symiau y gellir eu codi ac y mae'r sawl sy'n talu'r ardrethi yn atebol i'w talu o dan amgylchiadau penodol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn y cyfnod pryd y mae'r prif Reoliadau'n gymwys i gynnwys y blynyddoedd ariannol a fydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004 ac yn pennu'r rheolau ar gyfer penderfynu ar y swm y gellir ei godi yn y blynyddoedd hynny.
Maent hefyd yn diwygio Rheoliad 10 o'r prif Reoliadau er mwyn cyfyngu ar y gostyngiad yn y swm y gellir ei godi o dan rai amgylchiadau .
Mae'r cyfnod ar gyfer cyflwyno apelau yn erbyn ardystio o dan y prif Reoliadau wedi'i ymestyn o 1 Ebrill 2001 i 1 Ebrill 2005.
Pennir y dyddiadau effeithiol ar gyfer penderfynu ar y symiau y gellir eu codi yn unol â Rheoliadau 8 a 10 o'r prif Reoliadau drwy gyfeirio at Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 1993 lle gwneir newidiadau i'r gwerth ardrethol a ddangosir mewn rhestr yn unol â'r Rheoliadau hynny.
1988 p.41. Diwygiwyd adran 143(2) gan baragraff 72(2) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Diwygiwyd paragraff 3(2) o Atodlen 6 gan baragraff 38(13) o Atodlen 5 i Ddeddf 1989.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Diwygiwyd O.S. 1993/291 gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/792 (Cy.29)).
Mewnosodwyd Rheoliad 13A gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/792 (Cy.29)).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys