- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ARDRETHU, CYMRU
Wedi'i wneud
31 Ionawr 2000
Yn dod i rym 1 Ebrill 2000
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymgymerwyr Dŵr (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “blwyddyn” (“year”) yw blwyddyn ariannol daladwy ;
ystyr “blwyddyn berthnasol”(“relevant year”) yw unrhyw flwyddyn y mae gwerth ardrethol i'w benderfynu arno yn unol â'r Gorchymyn hwn ac ystyr “blwyddyn flaenorol berthnasol” yw'r flwyddyn sy'n dod cyn blwyddyn berthnasol;
ystyr “dosbarth ar hereditamentau”(“a class of hereditaments”) yw'r hereditamentau hynny sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu canolog i Gymru yn rhinwedd rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau Rhestr Ganolog a Rhan 6 o'r Atodlen iddynt ac a feddiennir gan unrhyw un o'r personau dynodedig a enwir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn
Ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ;
ystyr “ffactor ailgyfrif”(“recalculation factor”) mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau yw'r ffactor y penderfynir arno mewn perthynas â'r dosbarth hwnnw yn unol ag erthygl 7;
ystyr “y fformwla safonol”(“the standard formula”) yw'r fformwla T + U lle —
T yw'r swm a bennir mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau yn yr Atodlen; a
U yw'r ffactor ailgyfrif cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn berthnasol;
ystyr “person dynodedig”(“designated person”) yw person a ddynodir gan reoliad 3(1) o'r Rheoliadau Rhestr Ganolog ac a enwir yn Rhan 6 o'r Atodlen iddynt; ac mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau, ystyr “person dynodedig perthnasol” yw'r person dynodedig sy'n meddiannu'r dosbarth hwnnw; ac
ystyr “Rheoliadau Rhestr Ganolog”(“Central List Regulations”) yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999(3).
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at hereditamentau a feddiennir gan berson yn cynnwys cyfeiriad, yn achos hereditamentau nas meddiennir, at hereditamentau a berchnogir gan y person hwnnw gan ddehongli cyfeiriadau at feddiannaeth yn unol â hynny.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn, neu yn yr Atodlen, at berson dynodedig wrth ei enw yn gyfeiriad at y cwmni sy'n dwyn yr enw hwnnw ar y dyddiad y cofnodir yr enw hwnnw ar y rhestr ardrethu canolog i Gymru.
3. Pan (ar wahân i'r erthygl hon) fydd unrhyw werth ardrethol y penderfynir arno o dan y Gorchymyn hwn yn cynnwys ffracsiwn o bunt—
(a)rhaid talgrynnu'r ffracsiwn i un bunt, os bydd yn fwy na 50c, a
(b)rhaid anwybyddu'r ffracsiwn os bydd yn 50c neu'n llai.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae Gorchymyn Ymgymerwyr Dŵr (Gwerthoedd Ardrethol) 1994(4) wedi'i ddiddymu gydag effaith o 1 Ebrill 2000 i'r graddau ei fod yn gymwys i Gymru.
(2) Heb ragfarnu adran 16(1) o Ddeddf Ddehongli 1978(5), bydd darpariaethau'r Gorchymyn a grybwyllir ym mharagraff (1) yn parhau'n weithredol ar 1 Ebrill 2000 ac ar ôl hynny, at ddibenion y canlynol ac mewn cysylltiad â'r canlynol—
(a)unrhyw newid ar restr mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2000; neu
(b)unrhyw ddarpariaeth a wneir gan reoliadau a wneir o dan adran 58(6) o'r Ddeddf (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ymlaen) o ran y swm taladwy ar gyfer hereditament am gyfnod perthnasol yn ôl diffiniad yr adran honno.
5. Yn achos pob dosbarth ar hereditamentau, ni fydd paragraffau 2 i 2B o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny a'i werth arderthol fydd–
(a)yn y flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000, y swm a bennir mewn perthynas ag ef yn yr Atodlen ; a
(b)mewn unrhyw flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001 neu ar ôl hynny (yn ddarostyngedig i erthygl 10) y swm a gynhyrchir mewn perthynas â'r flwyddyn honno drwy ddefnyddio'r fformwla safonol mewn perthynas â'r dosbarth hwnnw.
6.—(1) Yn erthygl 7 mewn perthynas â phob dosbarth ar hereditamentau—
(a)mewn unrhyw fformwla—
“y” yw'r cyfaint perthnasol o ddŵr mewn perthynas â'r cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben yn union cyn y flwyddyn berthnasol flaenorol;
“Y”, yn ddarostyngedig i erthygl 7(3), yw'r cyfaint perthnasol o ddŵr mewn perthynas â'r cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 1999; a
Rhif yw “Z” ac iddo'r un gwerth ag “y” yn y flwyddyn flaenorol ddiwethaf y penderfynwyd ar y ffactor ailgyfrif cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw mewn perthynas ag ef yn unol ag erthygl 7(2); a
(b)ystyr “cyfaint perthnasol o ddŵr” mewn perthynas â pherson dynodedig perthnasol ac unrhyw gyfnod o dair blynedd yw'r cyfaint a gyfrifir yn unol â pharagraff (2).
(2) Y cyfaint perthnasol o ddŵr mewn perthynas â pherson dynodedig perthnasol ac unrhyw flwyddyn yw'r cyfartaledd blynyddol, dros y tair blynedd o dan ystyriaeth, wedi'i fynegi mewn megalitrau i'r ddegfed ran agosaf o fegalitr, o'r swm a amcangyfrifir yn unol ag is-baragraff (a) wedi tynnu'r swm a amcangyfrifwyd yn unol ag is-baragraff (b); sef—
(a)y cyfaint blynyddol o ddŵr yr amcangyfrifir iddo gael ei gyflenwi gan y person hwnnw yn ystod y cyfnod o dair blynedd, sef dŵr a gyflenwyd i—
(i)unrhyw berson arall mewn swmp-gyflenwad, sef at ddibenion ffurfio'r cyflenwad sydd i'w roi gan y person hwnnw neu ychwanegu ato; a
(ii)fel arall,
a thynnu hanner y swm blynyddol cyfartalog o ddŵr anyfadwy yr amcangyfrifir ei fod wedi cael ei gyflenwi mewn dull heb fod yn swmp-gyflenwad; a thynnu
(b)hanner y swm blynyddol cyfartalog yr amcangyfrifir ei fod wedi'i gymryd neu wedi'i swmp-gyflenwi yn ystod y cyfnod hwnnw o dair blynedd.
(3) Os na chyflenwodd y person dynodedig perthnasol ddŵr drwy gydol unrhyw flwyddyn mewn cyfnod o dair blynedd, bydd paragraff (2) yn gymwys fel pe rhoddid cyfeiriad at y cyfartaledd blynyddol dros y nifer o flynyddoedd y cyflenwyd y dŵr ynddynt yn lle'r cyfeiriad at y cyfartaledd blynyddol dros dair blynedd; ac at ddibenion y paragraff hwn diystyrir unrhyw doriad dros dro yn y cyflenwad.
7.—(1) Os, mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau ac unrhyw flwyddyn, bydd y gwerth y gellir ei briodoli i “y” yn llai na'r hyn a gynhyrchir drwy gyfrif yn unol â'r fformwla—
Y102100
(“y trothwy uchaf”) ac yn fwy na'r hyn a gynhyrchir drwy gyfrif yn yn unol â'r fformwla—
Y98100
(“y trothwy isaf”), bydd y ffactor ailgyfrif cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw—
(a)yn y flwyddyn gyntaf o'r fath yn 0, a
(b)yn ystod unrhyw flwyddyn ganlynol, yn ffigur hafal i'r ffactor ailgyfrif cymwysadwy yn unol â'r erthygl hon yn y flwyddyn flaenorol berthnasol.
(2) Os, mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn, bydd y gwerth y gellir ei briodoli i “y” mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau yn hafal i'r trothwy uchaf neu'n fwy nag ef neu'n hafal i'r trothwy isaf neu'n is nag ef, bydd y ffactor ailgyfrif cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw yn ystod y flwyddyn honno yn ffigur a gynhyrchir drwy gyfrif yn unol â'r fformwla—
Ty - Y1.5Y
(3) Mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau a blwyddyn sy'n dechrau ar ôl y blwyddyn y bydd paragraff (2) yn gymwys i'r dosbarth hwnnw yn gyntaf, bydd paragraff (1) yn gymwys fel pe rhoddid Z yn lle Y.
8. Mewn perthynas ag erthyglau 9 a 10—
ystyr “cynllun Atodlen 2” (“Schedule 2 scheme”) yw cynllun o dan Atodlen 2 i Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991;
ystyr “hereditamentau Cymru” (“Welsh hereditaments”) yw'r hereditamentau cynllun ac unrhyw hereditamentau eraill a feddiennir gan drosglwyddai cynllun ac a ddangosir yn y rhestr ardrethu canolog i Gymru;
ystyr “hereditamentau cynllun” (“scheme hereditaments”) yw hereditamentau a drosglwyddir gan gynllun Atodlen 2; ac
ystyr “trosglwyddai cynllun”(“scheme transferee”) yw person dynodedig sydd, o ganlyniad i gynllun Atodlen 2, yn meddiannu dosbarth ar hereditamentau sydd, yn union cyn y diwrnod pan ddaw'r cynllun i rym, yn cael ei feddiannu gan berson dynodedig arall.
9. Mae erthygl 10 yn gymwys at ddibenion penderfynu, mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod pan, yn unol â'r Rheoliadau Rhestr Ganolog, y dangosir hereditamentau Cymru a feddiennir gan drosglwyddai cynllun ar y rhestr ardrethu canolog, ar werth ardrethol (cyfan) hereditamentau Cymru.
10.—(1) Rhaid i werth ardrethol (cyfan) hereditamentau Cymru fod yn swm hafal i'r cyfanswm o'r symiau y penderfynasid arnynt, ond am gynllun Atodlen 2, ac yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, yn unol ag erthygl 5 fel gwerth ardrethol yr hereditamentau sy'n ffurfio hereditamentau Cymru.
(2) At ddibenion penderfynu ar y ffactor ailgyfrif sy'n gymwysadwy mewn blwyddyn berthnasol, bydd erthygl 7 yn gymwys fel pe anwybyddid, wrth gyfrif y swm a neilltuir i Y neu, mewn achos pan fydd erthygl 7(3) yn gymwys, y rhif a neilltuir i Z, ddŵr a gyflenwyd gan y trosglwyddai cynllun neu iddo i barti arall i gynllun Atodlen 2 neu ganddo.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)
Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2000D.
Dee Valley Water plc | £1,798,244 |
Dŵ r Cymru Cyfyngedig | £29,730,304 |
North West Water Limited | £874,556 |
Severn Trent Water Limited | £4,048,616 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O ran yr hereditamentau annomestig sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu canolog i Gymru, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol, o dan baragraff 3(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ddarparu, drwy orchymyn, nad yw'r rheolau prisio arferol ar gyfer ardrethu a gynhwysir ym mharagraffau 2 i 2B o'r Atodlen honno yn gymwys i'r hereditamentau hynny. Yn lle hynny, caiff ddarparu y bydd gwerthoedd ardrethol y hereditamentau hynny fel y'u pennir yn y gorchymyn neu fel y penderfynir arnynt yn unol â rheolau rhagnodedig. Breiniwyd y pwerau hyn bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999 yn ei gwneud yn ofynnol i hereditamentau cyflenwi dŵ r a feddiennir (neu, os na feddiennir hwy, a berchnogir) gan ymgymerwyr dŵ r a enwir yn Rhan 6 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hynny gael eu dangos yn y rhestr ardrethu canolog i Gymru. Mae'r Gorchymyn hwn:
* yn darparu na fydd paragraffau 2 i 2B yn gymwys mewn perthynas â'r hereditamentau hynny ,
* yn rhagnodi'r gwerthoedd ar gyfer yr hereditamentau hynny am y flwyddyn ariannol 2000/01 ac
* yn rhagnodi'r rheolau y mae eu gwerthoedd ardrethol i gael eu penderfynu arnynt yn unol â hwy yn y blynyddoedd i ddod.
Mae erthygl 4(1) yn diddymu Gorchymyn Ymgymerwyr Dŵr (Gwerthoedd Ardrethol) 1994, gydag effaith o 1 Ebrill 2000 ymlaen, i'r graddau ei fod yn gymwysadwy i Gymru. Ond mae'r darpariaethau hynny yn parhau i fod yn weithredol at y dibenion a grybwyllir yn erthygl 4(2).
1988 p.41; diwygiwyd 143(2) gan baragraff 72(2) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Diwygiwyd paragraff 3(2) o Atodlen 6 gan baragraff 38(13) o Atodlen 5 i Ddeddf 1989. Gweler adran 146(6) o Ddeddf 1988 am ddiffiniad o “prescribed”.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Diwygiwyd adran 58 gan baragraff 68 o Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1989 (p. 14), adran 2 o Ddeddf Ardrethu Annomestig 1994 (p.3) ac adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p.29).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys