- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Wedi'u gwneud
14 Rhagfyr 2000
Yn dod i rym
1 Ionawr 2001
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Modwleiddio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2001.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
(2) Mewn perthynas à thaliadau i ffermwr o dan unrhyw gynllun cymorth ACS, bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r graddau, a dim ond i'r graddau, mai'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys perthnasol mewn perthynas à daliad y ffermwr.
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn –
ystyr “atodiad ALlFf” (“LFA supplement”) yw taliad sy'n cael ei wneud o dan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1323/1990 yn sefydlu cymorth penodol ar gyfer ffermio defaid a geifr yn rhai o ardaloedd llai ffafriol y Gymuned(3), fel atodiad i daliad premiwm i gynhyrchydd cig dafad neu gig gafr;
ystyr “awdurdod cymwys perthnasol” (“relevant competent authority”) yw'r awdurdod sy'n awdurdod cymwys perthnasol o fewn ystyr y Rheoliadau System Integredig Gweinyddu a Rheoli 1993(4);
ystyr “blwyddyn gynllun” (“scheme year”) yw'r deuddeng mis y gwneir taliadau ar eu cyfer yn unol à'r cynllun cymorth o dan sylw;
ystyr “blwyddyn gynllun berthnasol” (“relevant scheme year”) yw'r flwyddyn gynllun sy'n dechrau yn 2001 neu mewn unrhyw flwyddyn ddilynol hyd at a chan gynnwys 2006;
ystyr “Bwrdd Ymyrraeth” (“Intervention Board”) yw'r Bwrdd Ymyrraeth ar gyfer Cynhyrchion Amaethyddol a sefydlwyd o dan adran 6(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972;
ystyr “cynllun cymorth” (“support scheme”) yw unrhyw gynllun cymorth a restrir yn yr Atodlen i Reoliad y Cyngor;
ystyr “cynllun cymorth IACS” (“IACS support scheme”) yw –
unrhyw gynllun cymorth a bennir yn Erthygl 1 o Reoliad y Cyngor 3508/92, fel y mae'r cynllun hwnnw'n effeithiol ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn;
unrhyw gynllun sy'n darparu ar gyfer atodiadau ALlFf; ac
unrhyw gynllun ar gyfer talu cymorth fel iawndal amaeth-ariannol;
Ystyr “cynlluniau'r Bwrdd” (“Board Schemes”) yw cynlluniau cymorth y mae'r Bwrdd Ymyrraeth yn gyfrifol am wneud taliadau mewn perthynas a hwy;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
mae I “daliad” yr ystyr a roddir i “holding” gan Erthygl 1(4) o Reoliad y Cyngor 3508/92;
ystyr “dibenion perthnasol” (“relevant purposes”) yw dibenion unrhyw daliad a wneir yn unol ag unrhyw fesur sy'n gweithredu unrhyw un o ddarpariaethau Erthyglau 13 i 24 (yn gynhwysol) neu Erthygl 31 o'r Rheoliad Datblygu Gwledig;
mae i “ffermwr” yr ystyr a roddir i “farmer” gan Erthygl 1(4) o Reoliad y Cyngor 3508/92;
ystyr “iawndal amaeth-ariannol” (“agrimonetary compensation”) yw taliad sy'n cael ei wneud yn unol ag Erthyglau 4 neu 5 o'r Rheoliad Amaeth-ariannol fel atodiad i daliad (“y prif daliad”) sy'n cael ei wneud yn unol à chynllun cymorth;
ystyr “y Rheoliad Amaeth-ariannol” (“the Agrimonetary Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2799/98 sy'n sefydlu trefniadau amaeth-ariannol ar gyfer yr ewro(5);
ystyr “y Rheoliad Datblygu Gwledig” (“the Rural Development Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999(6) ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) ac sy'n diwygio a diddymu Rheoliadau penodol;
ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1259/1999(7) sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan bolisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd;
ystyr “Rheoliad y Cyngor 3508/92” (“Council Regulation 3508/92”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) 3508/92 sy'n sefydlu system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer rhai o gynlluniau cymorth y Gymuned(8); ac
ystyr “y swm perthnasol” (“the relevant amount”) yw unrhyw swm a fyddai'n daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu, yn òl fel y digwydd, y Bwrdd Ymyrraeth, yn unol à'r cynllun cymorth o dan sylw, pe na bai rheoliad 4 yn gymwys.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae taliad yn cael ei wneud yn unol à chynllun cymorth os yw'r canlynol yn wir—
(a)ei fod yn cael ei wneud yn unol à gofynion y cynllun hwnnw; neu
(b)i'r graddau y mae'n cael ei ariannu gan adran Warantu Cronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop, ei fod yn cael ei wneud yn unol ag unrhyw benderfyniad a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol i weithredu'r cynllun hwnnw.
4.—(1) Er mwyn cyfrifo swm unrhyw daliad y mae gan unrhyw berson hawl i'w gael yn unol ag unrhyw gynllun cymorth ar gyfer blwyddyn gynllun berthnasol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, neu y Bwrdd Ymyrraeth (yn achos taliadau o dan gynlluniau'r Bwrdd), dynnu o'r swm perthnasol y gyfran benodedig o'r swm hwnnw, a rhaid iddo ddefnyddio'r swm a dynnir felly fel arian at un neu ragor o'r dibenion perthnasol.
(2) At ddibenion paragraff (1), ymdrinnir à thaliad iawndal amaeth-ariannol fel petai wedi'i wneud ar gyfer y flwyddyn gynllun y gwnaed y prif daliad y mae'n atodiad iddo ar ei chyfer.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gyfran benodedig” yw –
(a)2.5% ar gyfer y flwyddyn gynllun sy'n dechrau yn 2001;
(b)3.0% ar gyfer y flwyddyn gynllun sy'n dechrau yn 2002;
(c)3.5% ar gyfer y blynyddoedd cynllun sy'n dechrau yn 2003 a 2004; ac
(ch)4.5% ar gyfer y blynyddoedd cynllun sy'n dechrau yn 2005 a 2006;
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9).
John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Rhagfyr 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Ionawr 2001, yn gweithredu Erthyglau 4 a 5 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1259/1999 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan bolisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd (OJ Rhif L160, 26.6.1999, t. 113) (“Rheoliad y Cyngor”).
Maent yn gymwys i Gymru, ac eithrio mewn perthynas à thaliadau o dan gynllun cymorth IACS, pan fyddant yn gymwys dim ond i'r graddau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn “awdurdod cymwys perthnasol” o fewn ystyr Rheoliadau System Integredig Gweinyddu a Rheoli 1993 (O.S. 1993/1317, fel y'i diwygiwyd olaf gan O.S. 2000/2573).
Mae Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor yn caniatáu i'r Aelod-wladwriaethau ostwng symiau'r taliadau o dan y cynlluniau cymorth a restrir yn yr Atodlen i'r Rheoliad hwnnw lle (ymhlith pethau eraill) y mae cyfansymiau'r taliadau a roddir o dan gynlluniau cymorth o'r fath ar gyfer blwyddyn galendr yn fwy na'r terfynau sydd i'w penderfynu gan yr Aelod-wladwriaeth o dan sylw. Yn y Deyrnas Unedig dim yw'r terfyn sydd wedi'i osod, ac mae'r gostyngiad felly'n gymwys i bob taliad o dan y cynlluniau cymorth a bennwyd. Mae'n ofynnol trefnu bod symiau'r gostyngiadau ar y taliadau ar gael fel cymorth Cymunedol ychwanegol ar gyfer unrhyw un o'r mesurau datblygu gwledig a bennir yn Erthygl 5(2) o Reoliad y Cyngor, i'r graddau y maent yn gymwys i'r Aelod-wladwriaeth berthnasol.
Mae'r Rheoliadau hyn felly yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, neu, yn òl fel y digwydd, y Bwrdd Ymyrraeth, dynnu cyfran benodedig (2.5% yn y flwyddyn 2001, 3.0% yn y flwyddyn 2002, 3.5% yn y blynyddoedd 2003 a 2004, a 4.5% yn y blynyddoedd 2005 a 2006) o unrhyw daliad y maent yn ei wneud yn unol ag unrhyw un o'r cynlluniau cymorth a enwyd, ac mae'r symiau a dynnir felly i'w defnyddio yn unol à'r Erthygl 5(2) a enwyd (rheoliad 4).
Mae Arfarniad Rheoleiddio wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Adran Amaethyddiaeth, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (OS 1999/2788) (“y Gorchymyn”). Darperir pŵer y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'I ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, I wneud rheoliadau sy'n ymestyn I ddaliadau sy'n cynnwys tiroed y tu allan I Gymru gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 I'r Gorchymyn.
OJ Rhif L132, 22.5.90, t. 17.
OJ Rhif L349, 24.12.98, t. 1.
OJ Rhif L160, 26.6.1999, t. 80.
OJ Rhif L160, 26.6.1999, t. 113.
OJ Rhif L355, 5.12.92, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cygnor (EC) Rhif 1036/1999.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys