Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2000

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 3387 (Cy. 224)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2000

Wedi'u gwneud

29 Rhagfyr 2000

Yn dod i rym

1 Ionawr 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â'r polisi amaethyddol cyffredin, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) a chan adrannau 16(1)(a), (b), (c), (d) ac (f), (2)(a) a (3), 17(1), 19(1)(a), 26 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(3) a pharagraffau 2(1), 3(1), 5 a 6(1)(a) o Atodlen 1 iddi ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(4)), ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2000.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 1 Ionawr 2001.

Diwygiadau i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997

2.—(1Mewn perthynas â Chymru, mae Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997(5) yn cael eu diwygio unol â pharagraff (2) o'r rheoliad hwn.

(2Rhoddir y paragraff canlynol yn lle paragraff (1) o reoliad 4 (deunydd buchol penodedig) —

(1) In these Regulations, “specified bovine material” means —

(a)the intestines from the duodenum to the rectum of any bovine animal which was slaughtered or has died elsewhere than in Australia or New Zealand;

(b)the following material derived from a bovine animal which was slaughtered or has died in the United Kingdom or Portugal at an age greater than 6 months —

(i)the head (excluding the tongue but including the brain, eyes, trigeminal ganglia and tonsils);

(ii)the thymus;

(iii)the spleen; and

(iv)the spinal cord;

(c)in relation to a bovine animal which was slaughtered or has died at an age greater than 30 months, other than one which was accompanied at the time of slaughter by a slaughter certificate issued under the Beef Assurance Scheme as described in Schedule 1 to the Fresh Meat (Beef Controls) (No. 2) Regulations 1996(6)), the vertebral column, including dorsal root ganglia; and

(d)the following material derived from a bovine animal which was slaughtered or has died at an age greater than 12 months elsewhere than in the United Kingdom, Portugal, Australia or New Zealand—

(i)the skull (including the brains and eyes);

(ii)the tonsils; and

(iii)the spinal cord..

Diwygiad i Orchymyn Risg Penodedig 1997

3.—(1Mewn perthynas â Chymru, diwygir Gorchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 (7) yn unol â pharagraff 2 o'r Rheoliad hwn.

(2Rhoddir y paragraff canlynol yn lle paragraff (1) o erthygl 4 (deunydd buchol penodedig) —

(1) In this Order, “specified bovine material” means —

(a)the intestines from the duodenum to the rectum of any bovine animal which was slaughtered or has died elsewhere than in Australia or New Zealand;

(b)the following material derived from a bovine animal which was slaughtered or has died in the United Kingdom or Portugal at an age greater than 6 months —

(i)the head (excluding the tongue but including the brain, eyes, trigeminal ganglia and tonsils);

(ii)the thymus;

(iii)the spleen; and

(iv)the spinal cord;

(c)in relation to a bovine animal which was slaughtered or has died at an age greater than 30 months, other than one which was accompanied at the time of slaughter by a slaughter certificate issued under the Beef Assurance Scheme as described in Schedule 1 to the Fresh Meat (Beef Controls) (No. 2) Regulations 1996), the vertebral column, including dorsal root ganglia; and

(d)the following material derived from a bovine animal which was slaughtered or has died at an age greater than 12 months elsewhere than in the United Kingdom, Portugal, Australia or New Zealand —

(i)the skull (including the brains and eyes);

(ii)the tonsils; and

(iii)the spinal cord..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8).

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

29 Rhagfyr 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2965) (“Rheoliadau 1997”) a Gorchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2964 fel y'i diwygiwyd gan OS 2000/2811) (“Gorchymyn 1997”) yn diffinio deunydd penodol o anifeiliaid buchol, defaid a geifr yn Ddeunydd Risg Penodedig ac yn cyfyngu ar ddefnyddio deunydd o'r fath i bobl ei fwyta. Mae Rheoliadau 1997 a Gorchymyn 1997 yn gymwys i'r Deyrnas Unedig gyfan.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Erthygl 1 o Benderfyniad gan y Comisiwn Ewropeaidd a fabwysiadwyd ar 6 Rhagfyr (“y Penderfyniad”) mewn perthynas â Chymru. Mae Erthygl 1 o'r Penderfyniad yn diwygio Penderfyniad y Comisiwn 2000/418/EC yn rheoli defnyddio deunydd sy'n peri risgiau o ran enseffalopathïau sbyngffurff trosglwyddadwy (OJ Rhif L158, 30.6.2000, t.76) drwy ymestyn y diffiniad o Ddeunydd Risg Penodedig i gynnwys y cyfan o goluddyn anifeiliaid buchol.

Mae Rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 4(1) o Reoliadau 1997, sy'n ymdrin â deunydd buchol penodedig. Yn rhinwedd y diwygiad, bydd paragraff (1) newydd yn disodli paragraff 1 presennol rheoliad 4. Bydd y paragraff (1) newydd yn darparu fel a ganlyn —

Diffinnir y coluddyn o'r dwodenwm i'r rectwm bellach yn ddeunydd buchol penodedig, mewn perthynas ag anifeiliaid buchol sydd wedi'u cigydda neu sydd wedi marw mewn mannau heblaw Awstralia neu Seland Newydd (paragraff 1(a));

Diffinnir y pen, y thymws, y ddueg a'r madruddyn cefn sy'n deillio o anifail buchol sydd wedi'i gigydda neu sydd wedi marw yn y Deyrnas Unedig neu Bortiwgal yn fwy na chwe mis oed yn ddeunydd risg buchol (paragraff (1)(b));

Diffinnir yr asgwrn cefn, gan gynnwys ganglia'r nerf ddorsal, sy'n deillio o anifail buchol sydd wedi'i gigydda neu sydd wedi marw yn y Deyrnas Unedig neu Bortiwgal yn fwy na 30 mis oed, yn ddeunydd risg buchol. Ceir eithriad yn achos anifeiliaid buchol sydd wedi'u hardystio o dan y Cynllun Sicrwydd Eidion (paragraff (1)(c));

Diffinnir y benglog, y tonsilau a'r madruddyn cefn sy'n deillio o anifail buchol sydd wedi'i gigydda neu sydd wedi marw y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu Bortiwgal (heblaw Awstralia neu Seland Newydd) dros 12 mis oed, yn ddeunydd risg buchol (paragraff 1(d)).

Mae Rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio paragraff (1) o Erthygl 4 o Orchymyn 1997 yn yr un modd.

Mae ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 wedi digwydd. Yn unol ag adran 65(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a Rheol Sefydlog 22.3 o Reolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru, penderfynodd Gweinidog y Cynulliad dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol na ddylid cynnal unrhyw arfarniad rheoleiddiol am nad oedd yn rhesymol ymarferol gwneud hynny o fewn yr amser a oedd ar gael, oherwydd y gofyniad i'r Penderfyniad gael ei weithredu erbyn 1 Ionawr 2001.

(4)

Mae swyddogaethau “the Ministers” o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, yn arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).

(6)

OS 1996/2097, a ddiwygiwyd gan OS 1996/2522 ac OS 2000/656.

(7)

OS 1997/2964, fel y'i diwygiwyd gan OS 2000/2811.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill