Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) Diwygio (Cymru) 2000

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.  

(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(1).

(3Mae'r Rheoliadu hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Diwygio rheoliad 1 o'r prif Reoliadau

2.  Ym mharagraff (2) o reoliad 1 o'r prif Reoliadau (dehongli) yn y diffiniad o “NHS sight test fee”, yn lle'r swm “£40.33” amnewidier “£41.54” ac yn lle'r swm “£14.57” amnewidier “£15.01”.

Diwygio rheoliad 15 o'r prif Reoliadau

3.  Ym mharagraff (1)(b) o reoliad 15 o'r prif Reoliadau (cymhwyster – ailosod neu drwsio), ar ôl “regulation 8(2)” mewnosoder “(b)”.

Diwygio rheoliad 19 o'r prif Reoliadau

4.  Yn rheoliad 19 o'r prif Reoliadau (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio)–

(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “£42.00” amnewidier “£42.80”; a

(b)ym mharagraff (3), yn lle “£10.80”, amnewidier “£11.00”.

Diwygio'r Atodlenni i'r prif Reoliadau

5.  

(1Yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (codau llythrennau taleb a gwerthoedd ar yr wyneb – cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) (gwerth taleb ar yr wyneb), am bob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod amnewidier y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw

TABL

(1)(2)
Hen swmSwm newydd
£ 28.70£ 29.30
£ 43.60£ 44.50
£ 59.40£ 60.60
£ 134.20£ 136.90
£ 49.50£ 50.50
£ 63.00£ 64.30
£ 75.80£ 77.30
£ 147.50 (yn y ddau fan lle mae'n ymddangos)£ 150.50
£ 42.00£ 42.80

(2Yn Atodlen 2 i'r prif Reoliadau (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectol bach ac arbennig a theclynnau cymhleth)–

(a)ym mharagraff 1(1)(a) (prism – lens golwg unigol), yn lle “£6.00” amnewidier “£6.10”;

(b)ym mharagraff 1(1)(b) (prism – lens arall), yn lle “£6.90” amnewidier “£7.00”;

(c)ym mharagraff 1(1)(c) (lens arlliw golwg unigol), yn lle “£3.00” amnewidier “£3.10”;

(ch)ym mharagraff 1(1)(d) (lens arlliw arall), yn lle “£3.50” amnewidier “£3.60”;

(d)ym mharagraff 1(1)(e) (sbectol bach), yn lle “£47.30” amnewidier “£48.20”, yn lle “£42.00” amnewidier “£42.80”, ac yn lle “£22.70” amnewidier “£23.20”;

(dd)ym mharagraff 1(1)(g) (fframiau a weithgynhyrchwyd yn arbennig), yn lle “£47.30” amnewidier “£48.20”;

(e)ym mharagraff 2 (a) (isafswm taliad am declyn cymhleth-lensys golwg unigol), yn lle “£10.00” amnewidier “£10.20”;

(f)ym mharagraff 2(b) (isafswm taliad am declyn cymhleth-lensys eraill), yn lle “£25.40” amnewidier “£25.90”.

(3Yn lle Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (gwerthoedd talebau – trwsio), amnewidier yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Defnydd o'r Rheoliadau hyn

6.  Dim ond mewn perthynas â thaleb a dderbyniwyd neu a ddefnyddiwyd yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o'r prif Reoliadau ar 1 Ebrill 2000 neu wedyn y mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaetho

27 Mawrth 2000

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill