- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'i wneud
27 Mawrth 2000
Yn dod i rym
1 Ebrill 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 137(4AA) a (5) ac adran 137A(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru(2).
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Terfynau Gwariant Dewisol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
2.—(1) At ddibenion adran 137(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 pennir y swm o £5.00 fel y swm sy'n briodol ar gyfer prif gyngor neu gyngor cymuned yng Nghymru.
(2) At ddibenion adran 137A(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 pennir y swm o £5000 fel yr isafswm perthnasol ar gyfer cymorth ariannol a ddarperir gan awdurdod lleol yng Nghymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn galluogi awdurdod lleol i dynnu gwariant at ddibenion penodol na fyddai wedi'i hawdurdodi fel arall ar yr amod nad yw'r gwariant hwnnw yn fwy na'r swm a geir drwy luosi swm penodedig â phoblogaeth berthnasol ardal yr awdurdod. Yn achos prif gyngor yng Nghymru, £3.80 yw'r swm hwnnw, neu unrhyw swm arall y gellir ei bennu drwy gyfrwng gorchymyn. Yn achos cyngor cymuned, £3.50 yw'r swm hwnnw neu unrhyw swm arall y gellir ei bennu drwy gyfrwng gorchymyn.
Mae adran 137A o Ddeddf 1972 yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol, sydd mewn unrhyw flwyddyn ariannol yn rhoi cymorth ariannol i fudiad gwirfoddol neu i gorff neu gronfa o fath penodedig, a chyfanswm y cymorth hwnnw yn hafal i, neu yn fwy na, £2000 neu unrhyw swm uwch y gellir ei bennu drwy gyfrwng gorchymyn (“yr isafswm perthnasol”), yn ei gwneud yn ofynnol i'r mudiad, y corff neu'r gronfa roi gwybod i'r awdurdod, fel un o amodau'r cymorth, i ba ddiben y mae wedi'i ddefnyddio.
Mae'r Gorchymyn hwn yn cynyddu'r swm a bennwyd at ddibenion adran 137(4)(a) o Ddeddf 1972 i £5.00 ar gyfer prif gynghorau a chynghorau cymuned yng Nghymru, a'r isafswm perthnasol at ddibenion adran 137A(1) o'r Ddeddf honno i £5000 ar gyfer yr awdurdodau lleol yng Nghymru.
1972 p.70. Mewnosodwyd adran 137(4AA) gan adran 36 a mewnosodwyd adran 137A gan adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys