- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
AER GLÅN, CYMRU
Wedi'i wneud
22 Mawrth 2001
Yn dod i rym
1 Ebrill 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i fodloni bod y dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu hesemptio gan y Gorchymyn hwn yn medru cael eu defnyddio i losgi tanwyddau heb fod yn danwyddau awdurdodedig heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 21 o Ddeddf Aer Glân 1993 (1):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2. Mae'r dosbarthiadau o leoedd tân a ddisgrifir yn yr Atodlen, ar yr amodau sy'n cael eu pennu yno, yn cael eu hesemtio o ddarpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (sydd yn gwahardd gollyngiadau mwg mewn ardaloedd rheoli mwg).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (2).
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Mawrth 2001
Erthygl 2
Y “Beech Wood Fired Pizza Oven” sy'n cael ei chynhyrchu gan Beech Wood Fired Ovens, Brisbane, Awstralia.
1. Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i weithredu yn unol â chyfarwydd-iadau'r gwneuthurwyr dyddiedig 3 Mawrth 2000 ac y mae arnynt y cyfeirnod “BBP236UK”
2. Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw pren caled sych sydd heb ei drin.
Y “Morsø 3400 Owl” Cyfres GB ar gyfer llosgi pren sy'n cael ei chynhyrchu gan Morsø Jernstøberi A/S, Denmarc.
1. Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i weithredu yn unol â chyfarwydd-iadau'r gwneuthurwyr dyddiedig 1 Ionawr 2000 ac y mae arnynt y cyfeirnod “72345600”
2. Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw—
(a)pren sych sydd heb ei drin, ac sydd wedi ei hollti, ei stacio a'i sychu yn yr aer; neu
(b)briceti pren sydd wedi eu sychu yn yr aer.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 yn gwahardd yn gyffredinol ollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg. Gall Cynulliad Cenedaethol Cymru trwy orchymyn wedi'i wneud o dan adran 21 o'r Ddeddf esemptio dosbarthiadau penodedig o leoedd tân o ddarpariaethau adran 20, os yw wedi'i fodloni y gellir eu defnyddio i losgi tanwyddau heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn eithrio o ddarpariaethau adran 20 y dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu rhestru yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn, yn ddarostyngedig i'r amodau sy'n cael eu rhestru yn ail golofn yr Atodlen honno.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
1993 p.11 Trosglwyddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau ) 1999 (OS 1999 Rhif 672).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys