Nodyn Esboniadol
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau hynny yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2001. Mae hefyd yn dod â'r darpariaethau hynny yn y Ddeddf honno a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn i rym, a hynny ar 1 Medi 2001. Ceir darpariaethau trosiannol ac mewn un achos mae yna eithriad yn gysylltiedig â'r cychwyn.
Esbonnir effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen isod.
Mae adrannau 31 a 32 yn nodi prif ddyletswyddau Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant i bersonau 16 i 19 oed, a'r rhai sydd dros 19 oed, yn eu tro. Mae adran 33 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor annog unigolion a chyflogwyr i ymgymryd ag addysg a hyfforddiant ar ôl 16 oed, cymryd rhan ynddynt a chyfrannu at eu costau. Yn adrannau 34, 35 a 37 nodir pŵ er y Cyngor i sicrhau y darperir adnoddau ariannol ar gyfer darparwyr penodol addysg a hyfforddiant ar ôl 16 oed, rhoddir pŵ er i'r Cyngor osod amodau mewn cysylltiad â darpariaeth o'r fath ac i ddatblygu cynlluniau ar gyfer asesu perfformiad a chynnal profion moddion. Mae adran 38 yn rhoi pŵ er i'r Cyngor hybu Cyfrifon Dysgu Unigol ac mae adrannau 39 a 40 yn rhoi pŵ er iddo benodi aelodau i gyrff llywodraethu sefydliadau addysg bellach penodol, ac i wneud ymchwil ynghylch unrhyw fater sy'n berthnasol i'w swyddogaethau. Mae adran 41 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor roi sylw i anghenion personau ag anawsterau dysgu wrth gyflawni dyletswyddau penodol ac mae adran 45 yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi sylw i wybodaeth a roddir iddo gan unrhyw gorff a ddynodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at y diben hwnnw. Mae adran 50 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor baratoi adroddiad blynyddol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol ac anfon copi o'r adroddiad hwnnw i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Yn adran 74 diffinnir termau sy'n berthnasol i arolygu. Mae adrannau 75 a 76 yn nodi cylch gwaith estynedig a swyddogaethau ychwanegol Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru. Mae adran 77 yn gosod dyletswydd ar y Prif Arolygydd i arolygu addysg a hyfforddiant y deuir â hwy o fewn cylch gwaith y Prif Arolygydd gan adran 75 ac mae adran 78 yn rhoi amryw byd o bwerau cyffredinol ynglŷn â chynghori a chyflwyno adroddiadau. Ymdrin â hawl mynediad y Prif Arolygydd y mae adran 79 ac mae adran 80 yn ei gwneud yn ofynnol bod darparydd addysg yn cynhyrchu cynllun gweithredu yn sgil cyhoeddi adroddiad ar arolygiad.
Mae adran 81 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Arolygydd, ar gais Cynulliad Cenedlaethol Cymru, arolygu gwasanaethau addysgu, hyfforddi neu gynghori os yw'r rheiny'n cael eu darparu gan gyrff sydd hefyd yn darparu'r gwasanaeth gyrfaoedd yng Nghymru. Mae adran 82 yn rhoi pŵer i'r Prif Arolygydd, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth neu'r Arolygiaeth Dysgu Oedolion yn Lloegr, arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru a ddarperir yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973.
Mae adran 83 yn gwneud darpariaeth ar gyfer arolygiadau ardal, adran 84 yn ymdrin â chynlluniau gweithredu yn sgil arolygiadau o'r fath ac adran 85 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo'r Prif Arolygydd i ymgymryd ag astudiaethau ar draws Cymru, neu y tu allan i Gymru, ar faterion sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant ar ôl 16 oed.
Mae adran 86 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Arolygydd gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac mae adran 88 yn rhoi braint amodol i rannau penodol o adroddiad y Prif Arolygydd.
Yn adran 91 darperir ar gyfer diddymu Cyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru ac ar gyfer breinio'i holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yn y Cyngor. Gan hynny, 1 Ebrill 2001 yw'r ‘diwrnod penodedig' (‘appointed day') y cyfeirir ato yn adran 91.
Mae adran 99 yn awdurdodi'r Cynulliad Cenedlaethol i gymeradwyo cymwysterau allanol, neu i gadarnhau'r gymeradwyaeth y mae corff dynodedig wedi'i rhoi iddynt.
Mae adran 103(4) yn diwygio Deddf Addysg 1997 i ganiatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol roi pwerau i Awdurdod Cwricwlwm, Cymwysterau ac Asesu Cymru mewn perthynas â datblygu, gosod a gweinyddu profion sy'n arwain at ennill cymwysterau allanol penodol. Mae hefyd yn dileu pwerau penodol nad ydynt yn berthnasol mwyach.
Mae adran 110 yn ailddiffinio addysg uwchradd i ganiatáu i sefydliad sy'n darparu addysg chweched dosbarth yn unig gael ei gynnal fel ysgol. Yn adrannau 111 a 112 diwygir y darpariaethau presennol i atal dod ag ysgolion chweched dosbarth i mewn i'r sector addysg bellach heb gydsyniad y corff llywodraethu a'r awdurdod addysg lleol.
Mae adrannau 123-129 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaeth cymorth ieuenctid yng Nghymru. Mae adran 123 yn rhoi pwerau newydd i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo'r awdurdodau lleol yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid ar gyfer pob person 11-25 oed, i sicrhau y cânt eu darparu, neu i gymryd rhan wrth eu darparu. Mae adran 124 yn nodi'r dyletswyddau a'r pwerau y mae eu hangen er mwyn galluogi'r awdurdodau lleol i gydymffurfio â'r cyfarwyddiadau hynny. Yn adran 125 gosodir dyletswydd ar yr awdurdodau lleol i ymgynghori cyn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd. Mae adran 126 yn gosod dyletswyddau ar amryw byd o sefydliadau addysgol i roi gwybodaeth i ddarparwyr gwasanaethau cymorth ieuenctid a chaniatáu cyfle i weld disgyblion a myfyrwyr. Yn adrannau 127 a 128 nodir trefniadau arolygu ac yn adran 129 ceir darpariaethau atodol.
Mae adran 137 yn diwygio adran 508 o Ddeddf Addysg 1996 i ddileu dyletswydd yr awdurdodau addysg lleol i ddarparu gwasanaethau sy'n atodol i'w darpariaeth addysg bellach, gan roi pŵ er yn ei lle. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod dyletswydd i ddarparu addysg bellach benodol wedi'i rhoi i Gyngor Cenedlaethol Addysg a Hyfforddiant Cymru yn lle'r awdurdodau addysg lleol.
Mae adran 138 yn galluogi cyrff cyhoeddus penodol sydd wedi'u rhestru i roi gwybodaeth am berson ifanc i awdurdod lleol neu i gorff sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau cymorth ieuenctid, hyfforddiant neu yrfaoedd yng Nghymru.
Mae adran 140(3) yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu ar gyfer asesu'r rhai o dan 25 oed y mae ganddynt anawsterau dysgu ac sy'n derbyn addysg neu hyfforddiant ar ôl 16 oed, neu addysg uwch neu'n debyg o'u derbyn.
Mae adran 142 yn galluogi corfforaethau addysg bellach i ddarparu addysg uwchradd. Yn adran 143 darperir ar gyfer ymgorffori cyrff llywodraethu sefydliadau dynodedig. Mae adran 144 yn gosod gofynion ar sefydliadau dynodedig mewn perthynas â chael gwared ar dir.
Mae Atodlenni 9 ac 11 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol a diddymiadau yn y drefn honno.
Esbonnir effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen isod.
Mae adran 96, ar y cyd ag adran 103(5), yn atal cyrff awdurdodedig (a ddiffinnir yn adran 100 i gynnwys awdurdodau addysg lleol a Chyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant) rhag ariannu cyrsiau sy'n arwain at gymwysterau allanol, oni bai bod y cymwysterau hynny wedi'u cymeradwyo. Mae'r cyfyngiad hwn yn gymwys i gyrsiau i'r rhai o dan 19 oed a ddarperir gan ysgol, sefydliad neu gyflogydd. (Mae'r cyfyngiad y mae'n disodli'n gymwys i gyrsiau i'r rhai sydd o oedran ysgol gorfodol ac a ddarperir gan ysgol yn unig.) Ceir darpariaethau ynghylch gorfodi yn adran 102.
Mae adran 148 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau addysg lleol, penaethiaid a chyrff llywodraethu i roi sylw i ganllawiau'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch addysg rhyw. Mae adran 148 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi canllawiau sydd wedi'u cynllunio i sicrhau bod plant yn dysgu am bwysigrwydd priodas ac yn cael eu hamddiffyn rhag deunyddiau addysgu amhriodol.
Ceir diwygiad canlyniadol a diddymiadau yn y drefn honno yn Atodlenni 9 ac 11.