- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
Wedi'u gwneud
23 Ionawr 2001
Yn dod i rym
28 Chwefror 2001
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Cartrefi Plant (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Plant 1989.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant 1991(3) drwy fewnosod y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 3A—
3B.—(1) Subject to section 63(12) and Schedule 7 to the Act (Foster parents: limits on number of foster children), any home in which a child is cared for and accommodated by a person who—
(a)is a local authority foster parent in relation to the child; or
(b)is a foster parent with whom the child has been placed by a voluntary organisation; or
(c)fosters the child privately,
is so far as the provision of care and accommodation for that child is concerned, exempt from the definition of a “children’s home” in section 63(3) of the Act.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Ionawr 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant 1991 mewn perthynas â Chymru o ganlyniad i ddwyn i rym, hefyd ar 28 Chwefror 2001, adran 40 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (2000 p.14). Mae adran 40 yn diwygio adran 63(3)(a) o Ddeddf Plant 1989 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gartrefi plant sy'n cael eu rhedeg yn breifat ac sy'n lletya a gofalu am lai na phedwar o blant i gael eu cofrestru gyda'r awdurdod lleol y lleolir hwy yn ei ardal yn yr un modd â chartrefi mwy i blant. Effaith y Rheoliadau hyn, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau presennol ar berson sy'n maethu mwy na thri o blant, yw esemptio cartrefi y caiff plant eu lletya ynddynt fel plant maeth o'r gofyniad i gofrestru fel cartref plant.
Yn gyffredin â holl swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru trosglwyddwyd y pŵ er hwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mewn perthynas â Lloegr mae'r pŵ er yn arferadwy o hyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
O.S. 1991 Rhif 1506. Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1993 Rhif 3069.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: