Rheoliadau Addysg (Estyn Addysg Gyrfaoedd) (Cymru) 2001

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1987 (Cy. 138)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Estyn Addysg Gyrfaoedd) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

15 Mai 2001

Yn dod i rym

1 Awst 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 46(1) a (3) a 54(3) a (4) o Ddeddf Addysg 1997(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Estyn Addysg Gyrfaoedd) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.

(2Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Estyn darpariaethau adran 43(5) o Ddeddf Addysg 1997

2.  Bydd adrannau 43 a 44 o Ddeddf Addysg 1997 yn cael effaith fel petai'r cyfnod canlynol wedi'i roi yn lle'r cyfnod a bennir yn adran 43(5) fel y rhan berthnasol o addysg disgybl, sef y cyfnod—

(a)sy'n dechrau yr un pryd â'r flwyddyn ysgol y mae'r mwyafrif o'r disgyblion yn ei ddosbarth yn cyrraedd 14 oed; a

(b)sy'n gorffen pan ddaw'r flwyddyn ysgol y mae'r mwyafrif o'r disgyblion yn ei ddosbarth yn cyrraedd 19 oed i ben.

Y gofyniad i ddarparu addysg gyrfaoedd mewn sefydliadau yn y sector addysg bellach

3.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phersonau sy'n mynychu sefydliadau o fewn y sector addysg bellach (p'un a ydynt yn eu mynychu'n amser llawn neu'n rhan amser) ac sydd wedi cyrraedd 16 oed ond nad ydynt wedi cyrraedd 20 oed.

(2Rhaid i gyrff llywodraethu'r sefydliadau hynny a phrifathrawon neu benaethiaid eraill y sefydliadau hynny sicrhau bod rhaglen addysg gyrfaoedd yn cael ei darparu ar gyfer y personau hynny y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt.

(3Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “addysg gyrfaoedd” (“careers education”) yw addysg sydd wedi'i llunio i baratoi personau ar gyfer gwneud penderfyniadau am eu gyrfaoedd a'u helpu i weithredu'r penderfyniadau hynny;

  • mae i “sefydliadau o fewn y sector addysg bellach” yr un ystyr ag “institutions within the further education sector” yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(3);

  • mae “gyrfaoedd” (“careers”) yn cynnwys ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant, cyflogaeth neu alwedigaeth neu unrhyw gwrs addysg.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

15 Mai 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gwneud darpariaeth ar gyfer estyn y gofyniad i ddarparu rhaglen addysg gyrfaoedd i gynnwys disgyblion sydd dros oedran ysgol gorfodol a myfyrwyr rhwng 16 a 19 oed sy'n mynychu sefydliadau o fewn y sector addysg bellach.

Mae Rheoliad 2 yn estyn y gofyniad yn adran 43 o Ddeddf Addysg 1997 i ddarparu rhaglen addysg gyrfaoedd i gwmpasu disgyblion rhwng 14 a 19 oed, yn hytrach na 14—16 oed yn ôl gofyniad presennol adran 43.

Mae Rheoliad 3 yn gosod gofyniad hollol newydd ar gyfer darparu rhaglen addysg gyrfaoedd i fyfyrwyr 16—19 oed sy'n mynychu sefydliadau addysg bellach.

(1)

1997 p.44. I gael ystyr “regulations” gweler adran 56(1), ac i gael ystyr “specified” gweler adran 46(5).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).