- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
15 Mai 2001
Yn dod i rym
1 Awst 2001
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Estyn Addysg Gyrfaoedd) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.
(2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Bydd adrannau 43 a 44 o Ddeddf Addysg 1997 yn cael effaith fel petai'r cyfnod canlynol wedi'i roi yn lle'r cyfnod a bennir yn adran 43(5) fel y rhan berthnasol o addysg disgybl, sef y cyfnod—
(a)sy'n dechrau yr un pryd â'r flwyddyn ysgol y mae'r mwyafrif o'r disgyblion yn ei ddosbarth yn cyrraedd 14 oed; a
(b)sy'n gorffen pan ddaw'r flwyddyn ysgol y mae'r mwyafrif o'r disgyblion yn ei ddosbarth yn cyrraedd 19 oed i ben.
3.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phersonau sy'n mynychu sefydliadau o fewn y sector addysg bellach (p'un a ydynt yn eu mynychu'n amser llawn neu'n rhan amser) ac sydd wedi cyrraedd 16 oed ond nad ydynt wedi cyrraedd 20 oed.
(2) Rhaid i gyrff llywodraethu'r sefydliadau hynny a phrifathrawon neu benaethiaid eraill y sefydliadau hynny sicrhau bod rhaglen addysg gyrfaoedd yn cael ei darparu ar gyfer y personau hynny y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt.
(3) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “addysg gyrfaoedd” (“careers education”) yw addysg sydd wedi'i llunio i baratoi personau ar gyfer gwneud penderfyniadau am eu gyrfaoedd a'u helpu i weithredu'r penderfyniadau hynny;
mae i “sefydliadau o fewn y sector addysg bellach” yr un ystyr ag “institutions within the further education sector” yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(3);
mae “gyrfaoedd” (“careers”) yn cynnwys ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant, cyflogaeth neu alwedigaeth neu unrhyw gwrs addysg.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
15 Mai 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gwneud darpariaeth ar gyfer estyn y gofyniad i ddarparu rhaglen addysg gyrfaoedd i gynnwys disgyblion sydd dros oedran ysgol gorfodol a myfyrwyr rhwng 16 a 19 oed sy'n mynychu sefydliadau o fewn y sector addysg bellach.
Mae Rheoliad 2 yn estyn y gofyniad yn adran 43 o Ddeddf Addysg 1997 i ddarparu rhaglen addysg gyrfaoedd i gwmpasu disgyblion rhwng 14 a 19 oed, yn hytrach na 14—16 oed yn ôl gofyniad presennol adran 43.
Mae Rheoliad 3 yn gosod gofyniad hollol newydd ar gyfer darparu rhaglen addysg gyrfaoedd i fyfyrwyr 16—19 oed sy'n mynychu sefydliadau addysg bellach.
1997 p.44. I gael ystyr “regulations” gweler adran 56(1), ac i gael ystyr “specified” gweler adran 46(5).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys