- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
GWASANAETHAU LLES CYMDEITHASOL, CYMRU
Wedi'i wneud
12 Mehefin 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (1):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000.
2. Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o'r Tabl a gynhwysir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Gorffennaf 2001, ond lle mae dibenion penodol yn cael eu pennu mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaeth yng ngholofn 2 o'r Tabl, dim ond at y dibenion hynny y daw'r ddarpariaeth i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mehefin 2001
Erthygl 2(1)
Colofn 1 – y ddarpariaeth yn y Ddeddf | Colofn 2– at ba ddiben y mae'r ddarpariaeth i ddod i rym |
---|---|
Adrannau 1 (Cartrefi plant), 2 (Ysbytai annibynnol etc.), 3 (Cartrefi gofal), 4 (Diffiniadau sylfaenol eraill), 5 (Yr awdurdodau cofrestru), a 7(7) (Dyletswyddau cyffredinol y Comisiwn). | |
Adran 8 (Swyddogaethau cyffredinol y Cynulliad). | Er mwyn galluogi is ddeddfwriaeth i gael ei gwneud odani. |
Adran 9(3)–(5) (Gweithio ar y cyd). | |
Adrannau 11 (Y gofyniad i gofrestru), 12 (Ceisiadau am gofrestru), 14 (Dileu cofrestriadau), 15 (Ceisiadau gan bersonau cofrestredig). | Er mwyn galluogi is— ddeddfwriaeth i gael ei gwneud odanynt. |
Adrannau 16 (Rheoliadau ynghylch cofrestru), 22 (Rheoli sefydliadau ac asiantaethau), 23 (Y safonau cenedlaethol gofynnol), 25 Torri rheoliadau, 33 (Ffurflenni blynyddol), 34 (Datodwyr etc) a 35 (Marwolaeth person cofrestredig). | |
Adran 36 (Darparu copïau o gofrestrau). | Er mwyn galluogi is— ddeddfwriaeth i gael ei gwneud odani. |
Adrannau 38 (Trosglwyddo staff o dan Ran II), 42 (Y pŵer i estyn cymhwysiad Rhan II), 43 (Rhagarweiniol), 48 (Rheoli gwaith arfer swyddogaethau maethu perthnasol), 49 (Y safonau cenedlaethol gofynnol), 50 (Ffurflenni blynyddol), 51 (Ffi flynyddol), 52 (Torri rheoliadau). | |
Adran 79(1) (Diwygio Deddf Plant 1989 (p.41)). | Er mwyn galluogi is— ddeddfwriaeth i gael ei gwneud o dan ddarpariaeth sy'n cael ei mewnosod ganddi yn Neddf Plant 1989. |
Adran 79(1). | Er mwyn mewnosod y darpariaethau canlynol yn Neddf Plant 1989; adran 79B(2) (Diffiniadau eraill etc); ac adran 79B(9) (sy'n cyflwyno Atodlen 9A i Ddeddf Plant 1989), ond dim ond i'r graddau y mae'n angenrheidiol er mwyn galluogi is-ddeddfwriaeth i gael ei gwneud o dan Atodlen 9A i Ddeddf Plant 1989 (sy'n cael ei mewnosod gan Atodlen 3 i'r Ddeddf). |
Adran 79(2) (sy'n cyflwyno Atodlen 3 i'r Ddeddf). | Er mwyn galluogi is— ddeddfwriaeth i gael ei gwneud o dan ddarpariaeth sy'n cael ei mewnosod yn Neddf Plant 1989 gan Atodlen 3 i'r Ddeddf . |
Adrannau 79(3) a (4) “(cynlluniau ar gyfer trosglwyddo staff)”, 107 (Ysgolion preswyl: y safonau cenedlaethol gofynnol), 108 (Ffi flynyddol am arolygiadau ysgolion preswyl), 112 (Y taliadau sy'n cael eu codi am wasanaethau lles awdurdodau lleol), 114 (Cynlluniau ar gyfer trosglwyddo staff) a 115 (Effaith y cynlluniau). | |
Adran 116 (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) (sy'n cyflwyno Atodlen 4 i'r Ddeddf). | Er mwyn dod â'r darpariaethau yn Atodlen 4 a bennir isod i rym. |
Adran 117(1) (Darpariaethau trosiannol, eithriadau a diddymiadau) (sy'n cyflwyno Atodlen 5 i'r Ddeddf). | Er mwyn dod â'r darpariaethau yn 5 a bennir isod i rym. |
Atodlen 3. | Er mwyn galluogi is-ddeddfwriaeth i gael ei gwneud o dan ddarpariaeth a fewnosodwyd ganddi yn Neddf Plant 1989. |
Paragraff 5(6) o Atodlen 4 (sy'n diwygio Deddf Mabwysiadu 1976). | |
Paragraff 1 o Atodlen 5. | |
Paragraff 2 o Atodlen 5. | Er mwyn galluogi is-ddeddfwriaeth i gael ei gwneud odano. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu diwrnod i rai o ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) ddod i rym.
Mae'n dwyn i rym, ar 1 Gorffennaf , bob pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, ac i baratoi safonau cenedlaethol gofynnol a safonau eraill, sef pwerau sy'n cael eu rhoi i'r Cynulliad gan y Rhannau canlynol o'r Ddeddf (a'r Atodlenni sy'n gysylltiedig â'r Rhannau hynny): Rhan I (Rhagarweiniol); Rhan II (Sefydliadau ac Asiantaethau); Rhan III (Gwasanaethau Awdurdodau Lleol); a Rhan VI (Gwarchod Plant a Gofal Dydd).
Yn ychwanegol mae'n dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym ar y diwrnod hwn. Mae'n dod ag adran 5(b) i rym a'r rhan honno o adran 79 sy'n mewnosod adran 79B(2) newydd yn Neddf Plant 1989 (ac effaith y darpariaethau hyn yw datgan mai'r Cynulliad fydd yr awdurdod cofrestru gofal cymdeithasol dros Gymru). Bydd hyn yn hwyluso gweithgareddau sy'n paratoi ar gyfer dyfodiad i rym y darpariaethau hynny yn y Ddeddf sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad gofrestru'r gofal cymdeithasol sy'n cael ei ddarparu yng Nghymru.
Mae'n dod ag adran 112 i rym hefyd (sy'n diwygio Deddf Awdurdodau Lleol a Gwasanaethau Cymdeithasol 1970 i wneud y pwerau sy'n cael eu rhoi ganddi yn arferadwy mewn perthynas â swyddogaethau awdurdodau lleol o dan adran 17 o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983). Bydd hyn yn caniatáu i'r Cynulliad roi canllawiau a chyfarwyddiadau i awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas â'u pŵer i godi taliadau am y gwasanaethau lles y maent yn eu darparu.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau'r Ddeddf y mae cofnod wedi'i wneud mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru. Daethpwyd â'r darpariaethau hynny ag “(a)” ar eu hôl i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93), a'r rhai â “(b)” ar eu hôl gan O.S. 2001/139 (Cy.5)(C.7).
Y ddarpariaeth | Y dyddiad mewn grym |
---|---|
Adran 40 (yn rhannol) (b) | 1 Chwefror 2001 |
Adran 40 (y gweddill) (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adran 41 (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adran 54(1), (3)–(7) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 55 ac Atodlen 1 (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 72 ac Atodlen 2 (a) | 13 Tachwedd 2000 |
Adran 113 (2)–(4) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (yn rhannol) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (y ddwy yn rhannol) (b) | 28 Chwefror 2001 |
Mae darpariaethau'r Ddeddf y mae cofnod wedi'i wneud ar eu cyfer yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru, yn ogystal â Lloegr, gan O.S. 2000/2544 (C.72).
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn |
---|---|
Adran 80(8) | 2 Hydref 2000 |
Adran 94 | 2 Hydref 2000 |
Adran 96 (yn rhannol) | 15 Medi 2000 |
Adran 96 (y gweddill) | 2 Hydref 2000 |
Adran 99 | 15 Medi 2000 |
Adran 100 | 2 Hydref 2000 |
Adran 101 | 2 Hydref 2000 |
Adran 103 | 2 Hydref 2000 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (y ddwy yn rhannol) | 2 Hydref 2000 |
Adran 117(2) ac Atodlen 6 (y ddwy yn rhannol) | 2 Hydref 2000 |
Yn ychwanegol, mae amryw o ddarpariaethau eraill y Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr yn unig gan yr offerynnau canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys