Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2281 (Cy. 171 )

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

21 Mehefin 2001

Yn dod i rym

28 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd iddo gan adran 73(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1) yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

(2Mae'r Rheoliadau yn gymwys i awdurdodau perthnasol yng Nghymru yn unig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

DehongliLL+C

2.  Yn y Rheoliadau hyn:

  • ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw:

    • cyngor sir,

    • cyngor bwrdeistref sirol,

    • cyngor cymuned(2),

    • [F1awdurdod tân ac achub a ffurfiwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo.], F2...

    • awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd [F31995, a] [F4chyd-bwyllgor corfforedig;]

  • [F5ystyr “cyd-bwyllgor” (“joint committee”) yw pwyllgor a sefydlir gan ddau awdurdod perthnasol neu ragor o dan adran 53(1) o Ddeddf 2000;]

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.

  • [F5ystyr “is-bwyllgor adran 54A” (“section 54A sub-committee”) yw is-bwyllgor a benodir gan Bwyllgor Safonau o dan adran 54A(1) o Ddeddf 2000;

  • ystyr “is-bwyllgor cymunedol” (“community sub-committee”) yw is-bwyllgor a benodir gan Bwyllgor Safonau awdurdod lleol o dan adran 56 o Ddeddf 2000;

  • ystyr “Pwyllgor Safonau” (“Standards Committee”) yw—

    (a)

    Pwyllgor Safonau awdurdod perthnasol;

    (b)

    cyd-bwyllgor;

    (c)

    is-bwyllgor adran 54A; neu

    (d)

    is-bwyllgor cymunedol;]

Swyddogaethau swyddogion monitroLL+C

3.—(1Pan fydd unrhyw fater yn cael ei gyfeirio at swyddog monitro awdurdod perthnasol o dan adran 70(4) o Ddeddf 2000, rhaid i'r swyddog monitro mewn perthynas â'r mater hwnnw:

(a)cynnal ymchwiliad; a

(b)cyflwyno adroddiad ac, os yw'n briodol, gwneud argymhellion i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol.

(2Pan fydd unrhyw fater yn cael ei gyfeirio at swyddog monitro awdurdod perthnasol o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000, rhaid i'r swyddog monitro ystyried unrhyw adroddiad sy'n cael ei anfon ato gan Gomisiynydd Lleol yng Nghymru ac, os yw'n briodol, gwneud argymhellion i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol.

[F6(2A) Pan fo’r awdurdod perthnasol dan sylw yn gyd-bwyllgor corfforedig, yn achos aelod neu aelod cyfetholedig sydd hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—

(a)cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;

(b)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

rhaid i swyddog monitro’r cyd-bwyllgor corfforedig hefyd anfon copi o unrhyw adroddiad ac unrhyw argymhellion a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(b) neu unrhyw argymhellion a wnaed o dan baragraff (2) at swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw.]

[F7(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff swyddog monitro awdurdod perthnasol wneud trefniadau i lunio adroddiad, neu i wneud argymhellion, yn unol â pharagraffau (1)(b) a (2), i Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall.

(4) Ni chaiff swyddog monitro awdurdod perthnasol (“A”) wneud trefniadau o dan baragraff (3) i lunio adroddiad, neu i wneud argymhellion, i Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall (“B”) oni bai bod cadeirydd Pwyllgor Safonau A wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i hynny.]

YmchwiliadauLL+C

4.—(1Wrth gynnal ymchwiliad o dan Reoliad 3(1)(a) uchod caiff y swyddog monitro ddilyn unrhyw weithdrefnau y mae'n barnu eu bod yn briodol yn amgylchiadau'r achos ac yn benodol fe gaiff:

(a)holi unrhyw berson ynghylch unrhyw beth y mae'n credu ei fod yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r ymchwiliad,

(b)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth, esboniad neu ddogfennau iddo y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol,

(c)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw aelod neu aelod cyfetholedig neu swyddog awdurdod perthnasol ymddangos ger ei fron at ddibenion paragraff (a) a (b) uchod.

(2Wrth gynnal yr ymchwiliad, gall y swyddog monitro gael ei gynorthwyo gan unrhyw berson.

(3Caiff y swyddog monitro sicrhau cyngor arbenigol neu gyngor arall hefyd pan fydd eu hangen oddi wrth unrhyw berson sy'n arbennig o gymwys ym marn y swyddog i'w gynorthwyo wrth gynnal yr ymchwiliad.

(4Pan fydd person wedi dod gerbron y swyddog monitro neu wedi rhoi gwybodaeth neu gymorth at ddibenion yr ymchwiliad yn unol â pharagraffau (1) neu (2) uchod, caiff y swyddog monitro, yn ddarostyngedig i awdurdodiad y Pwyllgor Safonau, dalu i'r person hwnnw:

(a)unrhyw symiau ar gyfer treuliau a dynnwyd yn briodol ganddo, a

(b)unrhyw lwfansau i'w ddigolledu am ei golled amser,

a bennir [F8gan Weinidogion Cymru] .

(5Pan fydd person wedi rhoi cyngor yn unol â pharagraff (3) uchod, caiff y swyddog monitro dalu unrhyw ffioedd neu lwfansau a dynnwyd i'r person hwnnw yn ddarostyngedig i'r uchafsymiau a nodir yng nghynllun lwfansau'r awdurdod perthnasol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaethLL+C

5.—(1Rhaid peidio â datgelu gwybodaeth a sicrhawyd gan swyddog monitro wrth gynnal ymchwiliad oni bai:

(a)bod y datgelu yn cael ei wneud er mwyn galluogi swyddog monitro neu bwyllgor safonau i gyflawni eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;

(b)bod y datgelu yn cael ei wneud er mwyn galluogi Comisiynydd Lleol yng Nghymru i gyflawni ei swyddogaethau;

(c)bod y person y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef wedi cydsynio i'w datgelu;

(ch)bod yr wybodaeth wedi'i datgelu o'r blaen i'r cyhoedd gydag awdurdod cyfreithlon;

(d)mai datgelu at ddibenion achos troseddol mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig yw'r datgelu ac na chafwyd yr wybodaeth o dan sylw o ganlyniad i ymholiadau personol i'r person sy'n destun achos troseddol o dan Reoliad 4 uchod; [F9neu] F10...

F11(dd). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F12(e)bod y datgelu yn cael ei wneud i Archwilydd Cyffredinol Cymru at ddibenion unrhyw swyddogaeth ganddo neu gan archwilydd o dan Ran 2 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004]

(2Yn y Rheoliad hwn, a Rheoliad 4 uchod, mae unrhyw gyfeiriad at ddogfennau yn cynnwys cyfeiriad at wybodaeth a ddelir trwy gyfrwng cyfrifiadur neu ar unrhyw ffurf electronig arall.

AdroddiadauLL+C

6.  Ar ôl cwblhau ymchwiliad, rhaid i'r swyddog monitro:

(a)lunio adroddiad ar gasgliadau ei ymchwiliad ac, os yw'n briodol, caiff wneud argymhellion i Bwyllgorau Safonau'r awdurdod perthnasol o dan sylw, [F13neu, yn unol â threfniadau a wneir o dan reoliad 3(3), i Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall]

[F14(aa)pan fo unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—

(i)cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

anfon copi o’r adroddiad ac unrhyw argymhellion at swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;]

(b)anfon copi o'r adroddiad at unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad, ac

(c)cymryd camau rhesymol i anfon copi o'r adroddiad at unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad.

Swyddogaethau'r Pwyllgor SafonauLL+C

[F157.(1) Ar ôl cael adroddiad ac unrhyw argymhellion oddi wrth swyddog monitro, neu adroddiad oddi wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghyd ag unrhyw argymhellion gan swyddog monitro, rhaid i Bwyllgor Safonau ddyfarnu naill ai:

(a)nad oes dim tystiolaeth o unrhyw fethiant i gydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol o dan sylw a rhoi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i:

[F16(ia)pan fo’r person sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—

(aa)cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;

(bb)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;]

(i)y person sy’n destun yr ymchwiliad;

(ii)y person neu’r personau sy’n gwneud yr honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad; a

(iii)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; neu

(b)bod rhaid i berson sy’n destun yr ymchwiliad gael ei wahodd i gyflwyno sylwadau, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig, mewn perthynas â chasgliadau’r ymchwiliad ac unrhyw honiad ei fod wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol.

(2) Caiff Pwyllgor Safonau wneud trefniadau i’r swyddogaethau a bennir ym mharagraff (1) gael eu harfer gan Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall.]

[F17Adroddiadau neu Argymhellion a atgyfeirir at Bwyllgor Safonau arallLL+C

7A.(1) Pan fo swyddog monitro o dan reoliad 6 (adroddiadau) neu Bwyllgor Safonau o dan reoliad 7 (swyddogaethau’r Pwyllgor Safonau) yn gwneud trefniadau o dan reoliad 3(3) neu 7(2), rhaid i’r swyddog monitro neu’r Pwyllgor Safonau sy’n gwneud y trefniadau hynny roi’r hysbysiad a ddisgrifir ym mharagraff (2) i:

(a)y person neu’r personau sy’n destun ymchwiliad;

[F18(aa)pan fo testun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—

(i)cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;]

(b)y person neu’r personau sy’n gwneud yr honiad o gamymddygiad sy’n arwain at yr ymchwiliad; ac

(c)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

(2) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gynnwys y canlynol:

(a)datganiad bod y mater wedi ei atgyfeirio i Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall iddo ddyfarnu arno;

(b)enw’r awdurdod perthnasol arall; ac

(c)y rheswm pam y mae’r mater wedi ei atgyfeirio i Bwyllgor Safonau yr awdurdod perthnasol arall.]

Gweithdrefn a Phwerau Pwyllgorau SafonauLL+C

8.—(1Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth bendant yn y Rheoliadau hyn neu yn Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001(3), mater i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol fydd penderfynu ar yr arferion a'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

[F19(2) Mae paragraffau (3) i (3CH) yn gymwys—

(a)mewn cysylltiad ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn achos o ymchwiliad yr ymgymerir ag ef gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac a gyfeiriwyd at swyddog monitro'r awdurdod perthnasol o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000; a

(b)mewn cysylltiad â swyddog monitro'r awdurdod perthnasol mewn achos o ymchwiliad a gyfeiriwyd at y swyddog monitro o dan adran 70(4) o Ddeddf 2000.

(3) Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r swyddog monitro yr hawl i fod yn bresennol gerbron y Pwyllgor Safonau at ddibenion—

(a)cyflwyno'r adroddiad a/neu esbonio unrhyw un neu unrhyw rai o'r materion sydd ynddo; a

(b)fel arall chwarae'r cyfryw ran neu gynorthwyo'r Pwyllgor Safonau ag y mae'r Pwyllgor Safonau yn ystyried ei bod yn briodol.

(3A) Caniateir i'r Pwyllgor Safonau wneud cais i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu'r swyddog monitro fod yn bresennol ger ei fron at ddibenion—

(a)cyflwyno'r adroddiad a/neu esbonio unrhyw un neu unrhyw rai o'r materion sydd ynddo; a

(b)fel arall chwarae'r cyfryw ran neu gynorthwyo'r Pwyllgor Safonau ag y mae'r Pwyllgor Safonau yn ystyried ei bod yn briodol.

(3B) Rhaid peidio â gwrthod yn afresymol gais a wneir o dan baragraff (3A) ac os gwrthodir cais o'r fath rhaid i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu'r swyddog monitro roi rhesymau ysgrifenedig i'r Pwyllgor Safonau am beidio â chydymffurfio â'r cais i fod yn bresennol.

(3C) Bydd y presenoldeb hwnnw'n digwydd pan fydd Pwyllgor Safonau awdurdod perthnasol yn ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan y person sy'n destun yr ymchwiliad neu, os na wnaed sylwadau o'r fath, ar unrhyw adeg resymol.

(3CH) Caniateir i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r swyddog monitro gael eu cynrychioli gan gwnsler neu gan gyfreithiwr.]

(4Os nad yw unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad yn cyflwyno sylwadau yn unol â [F20rheoliad 7(1)(b)] uchod, fe all y Pwyllgor Safonau:

(a)oni bai ei fod wedi'i fodloni bod rheswm digonol dros y methiant hwnnw, ystyried adroddiad y swyddog monitro a gwneud dyfarniad yn absenoldeb y person hwnnw; neu

(b)rhoi cyfle ychwanegol i'r person hwnnw gyflwyno sylwadau.

(5Pan fo'n briodol, ac yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hyn, mae gan y Pwyllgor Safonau bŵ er i geryddu unrhyw aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) [F21o awdurdod perthnasol] , neu i atal neu i atal yn rhannol aelod neu aelod cyfetholedig am gyfnod heb fod yn fwy na chwe mis.

(6Rhaid i unrhyw gyfnod atal neu atal yn rhannol ddechrau ar y diwrnod:

(a)ar ôl i'r amser a ganiateir i gyflwyno hysbysiad apêl o dan Reoliad 10(2) isod ddod i ben,

(b)ar ôl i hysbysiad ynghylch casgliad unrhyw apêl yn unol â [F22rheoliad 12(1)(a)(i)] F23...isod ddod i law, neu

(c)ar ôl dyfarniad pellach gan y Pwyllgor Safonau a wnaed ar ôl cael argymhelliad gan dribiwnlys apelau o dan [F24reoliad 12(1)(a)(ii)] isod,

p'un bynnag sy'n digwydd olaf.

Dyfarniadau'r Pwyllgor SafonauLL+C

9.—(1Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau, rhaid i Bwyllgor Safonau ddyfarnu:

(a)nad oes dim tystiolaeth o unrhyw fethu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol ac felly nad oes angen cymryd dim camau mewn perthynas â'r materion sy'n destun yr ymchwiliad;

(b)bod aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol ond nad oes angen cymryd dim camau mewn perthynas â'r methiant hwnnw;

(c)bod aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) [F25o awdurdod perthnasol] wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod ac y dylai gael ei geryddu; neu

(ch)bod aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod ac y dylai gael ei atal neu ei atal yn rhannol rhag bod yn aelod neu'n aelod cyfetholedig o'r awdurdod hwnnw am gyfnod heb fod yn fwy na chwe mis [F26neu am weddill cyfnod y person hwnnw yn y swydd, os yw’n gyfnod byrrach] .

(2Pan fydd tribiwnlys apelau a dynnir o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru yn gwneud argymhelliad yn unol â [F27rheoliad 12(1)(a)(ii)] isod y dylid gosod cosb wahanol, rhaid i'r Pwyllgor Safonau ddyfarnu hefyd a ddylai gadarnhau ei ddyfarniad gwreiddiol neu beidio, neu dderbyn yr argymhelliad.

[F28(3) Ar ôl gwneud dyfarniad yn unol â pharagraff (1) neu (2) rhaid i’r Pwyllgor Safonau hysbysu:

(a)y person neu’r personau sy’n destun yr ymchwiliad;

[F29(aa)pan fo testun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—

(i)cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;]

(b)y person neu’r personau sy’n gwneud yr honiad o gamymddygiad sy’n arwain at yr ymchwiliad;

(c)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; ac

(d)pan fo’r Pwyllgor Safonau wedi gwneud ei ddyfarniad yn unol â threfniadau â swyddog monitro neu Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall, Bwyllgor Safonau’r awdurdod hwnnw.]

(4Ar ôl gwneud dyfarniad yn unol â pharagraff (2) uchod rhaid i'r Pwyllgor Safonau hefyd hysbysu llywydd Panel Dyfarnu Cymru.

[F30(5) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraffau (3) a (4) gynnwys y rhesymau dros y dyfarniad.]

Yr hawl i apelioLL+C

10.—(1Pan fydd Pwyllgor Safonau yn dyfarnu o dan Reoliad 9(1) uchod fod person wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol o dan sylw, caiff y person hwnnw [F31ofyn am ganiatâd i] apelio yn erbyn y dyfarniad i dribiwnlys a dynnir o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru

(2Rhaid cychwyn [F32y cais am ganiatâd i apelio] drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig cyn pen 21 diwrnod ar ôl cael hysbysiad am ddyfarniad y Pwyllgor Safonau [F33i lywydd Panel Dyfarnu Cymru]

(3Rhaid i'r [F34hysbysiad yn gofyn am ganiatâd i apelio] nodi:

(a)y seiliau dros yr apêl; a

[F35(b)pa un a roddir caniatâd i apelio ai peidio, bod y person sy’n gofyn am ganiatâd i apelio yn cydsynio i’r apêl gael ei chynnal drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig.]

[F36(4) Mae cais am ganiatâd i apelio i’w benderfynu gan lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu gan aelod o’r panel a enwebir gan lywydd y Panel Dyfarnu i arfer y swyddogaeth hon.

(5) Oni bai bod y llywydd neu’r person a enwebir yn ystyried bod amgylchiadau neilltuol yn golygu bod gwrandawiad yn ddymunol, mae’r penderfyniad ynghylch a ddylid rhoi caniatâd i apelio i’w wneud heb i’r partïon fod yn bresennol.

(6) Caiff llywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel wneud cais ysgrifenedig am wybodaeth bellach gan y partïon.

(7) Rhaid i’r wybodaeth bellach y gwneir cais amdani ym mharagraff (6) gael ei chyflwyno i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu i’r aelod enwebedig o’r panel o fewn cyfnod o 14 diwrnod i’r dyddiad y ceir y cais am wybodaeth bellach.

(8) Wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatâd i apelio, rhaid i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel roi sylw i ba un a oes gobaith rhesymol i’r apêl neu ran ohoni lwyddo.

(9) Rhaid i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel benderfynu a ddylid rhoi caniatâd i apelio a rhoi hysbysiad am y penderfyniad yn ddim hwyrach na 21 diwrnod ar ôl cael y cais am ganiatâd i apelio, neu pan wnaed cais am wybodaeth bellach o dan baragraff (6), yn ddim hwyrach na 14 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (7).

(10) Rhaid i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel hysbysu’r canlynol am y penderfyniad ym mharagraff (8):

(a)y person sy’n gofyn am ganiatâd i apelio;

[F37(aa)pan fo’r person sy’n ceisio caniatâd i apelio yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—

(i)cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;]

(b)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; ac

(c)y Pwyllgor Safonau a wnaeth y dyfarniad sy’n destun y cais am ganiatâd i apelio.

(11) Os gwrthodir caniatâd i apelio rhaid i’r hysbysiad a roddir o dan baragraff (9) hefyd gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(12) Os rhoddir caniatâd i apelio rhaid i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel atgyfeirio’r mater i dribiwnlys apelau.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

ApelauLL+C

11.—(1Bydd apelau sy'n deillio o ddyfarniad Pwyllgor Safonau yn cael eu cynnal:

(a)gan dribiwnlys apelau sy'n cynnwys o leiaf dri aelod o Banel Dyfarnu Cymru,

(b)drwy gyfrwng gwrandawiad llafar oni bai bod pob person sydd wedi rhoi hysbysiad apêl yn cydsynio i'r apêl gael ei chynnal drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig yn unol â Rheoliad 10(3)(b) uchod.

(2Mae llywydd Panel Dyfarnu Cymru (neu yn ei absenoldeb [F38aelod enwebedig o’r panel] ) i benodi aelodau unrhyw dribiwnlys apelau, ac fe gaiff y llywydd [F39neu’r aelod enwebedig o’r panel] fod yn aelod o dribiwnlys.

(3Ni chaiff aelod o Banel Dyfarnu Cymru fod yn aelod o dribiwnlys apelau a dynnwyd o blith y Panel sydd i ddyfarnu ar fater sy'n ymwneud ag aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o awdurdod perthnasol ar unrhyw adeg, os yw'r aelod o'r Panel o fewn y cyfnod o bum mlynedd sy'n dod i ben bryd hynny, wedi bod yn aelod neu'n swyddog o'r awdurdod neu'n aelod o unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i'r awdurdod.

(4Rhaid i aelod o Banel Dyfarnu Cymru y mae ganddo fuddiant uniongyrchol neu anuniongyrchol mewn unrhyw fater sy'n destun apêl sy'n cael ei chynnal gan dribiwnlys apelau, neu'n debyg o fod yn destun apêl o'r fath:

(a)datgelu natur ei fuddiant i lywydd y Panel, a

(b)peidio â bod yn aelod o'r tribiwnlys apelau sy'n ystyried apêl mewn perthynas â'r mater hwnnw.

(5Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth bendant yn y Rheoliadau hyn, bydd yr arferion a'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan dribiwnlysoedd apelau a dynnir o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru yn rhai y bydd llywydd y Panel, ar ôl [F40ymgynghori â Gweinidogion Cymru] , yn penderfynu arnynt.

Casgliadau tribiwnlys apelauLL+C

12. [F41(1)]  Rhaid i dribiwnlys apelau:

(a)cadarnhau dyfarniad Pwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol fod unrhyw berson a oedd yn destun yr ymchwiliad wedi torri'r cod ymddygiad a naill ai:

(i)cymeradwyo unrhyw gosb a osodwyd, neu

(ii)cyfeirio'r mater yn ôl i'r Pwyllgor Safonau gydag argymhelliad bod cosb wahanol yn cael ei gosod;

neu,

(b)gwrth-droi dyfarniad Pwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol bod unrhyw berson wedi torri'r cod ymddygiadF42...

[F43(2) Ar ôl gwneud penderfyniad yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r tribiwnlys apelau roi hysbysiad o’r penderfyniad hwnnw ynghyd â’r rhesymau dros y penderfyniad i:

(a)unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad,

(b)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,

(c)Pwyllgor Safonau’r awdurdod perthnasol, a

(d)pan fo unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—

(i)cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw.]

CyhoeddiLL+C

13.—(1Rhaid i Bwyllgor Safonau drefnu bod y canlynol yn cael ei wneud o fewn 14 diwrnod:

(a)ar ôl i'r amser a ganiateir i gyflwyno hysbysiad apêl o dan Reoliad 10(2) uchod ddod i ben,

(b)ar ôl i hysbysiad o gasgliad unrhyw apêl yn unol â [F44rheoliad 12(1)(a)(i) neu (b)] uchod ddod i law, neu

(c)ar ôl dyfarniad pellach gan y Pwyllgor Safonau a wnaed ar ôl cael argymhelliad gan dribiwnlys apelau o dan [F45reoliad 12(1)(a)(ii)] uchod,

p'un bynnag sy'n digwydd olaf, adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad F46....

[F47(1A) Rhaid i’r Pwyllgor Safonau anfon copi o’r adroddiad at:

(a)unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad,

(b)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,

(c)swyddog monitro’r awdurdod perthnasol dan sylw, a

(d)pan fo unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig, a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—

(i)cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw.

(1B) Rhaid i’r Pwyllgor Safonau hefyd gymryd camau rhesymol i anfon copi o’r adroddiad at unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad.]

(2Ar ôl i adroddiad y Pwyllgor Safonau ddod i law, rhaid i swyddog monitro'r awdurdod perthnasol [F48dan sylw]:

(a)am gyfnod o 21 diwrnod gyhoeddi'r adroddiad ar wefan yr awdurdod perthnasol a threfnu bod copïau ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd yn ddi-dâl ar bob adeg resymol mewn un neu ragor o swyddfeydd yr awdurdod, lle bydd gan unrhyw berson hawl i gymryd copïau o'r adroddiad pan drefnir iddo fod ar gael felly, neu i gymryd detholiadau ohono,

(b)darparu copi o'r adroddiad i unrhyw berson ar gais os bydd yn talu unrhyw dâl y bydd yr awdurdod perthnasol yn gofyn yn rhesymol amdano, ac

(c)erbyn saith diwrnod fan bellaf ar ôl i'r adroddiad dod i law oddi wrth y Pwyllgor Safonau, rhoi hysbysiad cyhoeddus, drwy hysbyseb mewn papurau newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal ac mewn unrhyw ffyrdd arall sy'n ymddangos iddo eu bod yn briodol, y bydd copïau o'r adroddiad ar gael fel y darperir ar ei gyfer gan is-baragraffau (a) a (b) uchod, a rhaid iddo bennu'r dyddiad (sef dyddiad nad yw'n fwy na saith diwrnod ar ôl i'r hysbysiad cyhoeddus gael ei roi gyntaf) pan fydd y cyfnod o 21 diwrnod yn dechrau.

CynrychiolaethLL+C

14.  Caiff person sy'n cyflwyno sylwadau llafar i Bwyllgor Safonau neu sy'n apelio yn erbyn penderfyniad gan Bwyllgor Safonau i dribiwnlys apelau sy'n cael ei dynnu o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru ymddangos gerbron y Pwyllgor neu'r tribiwnlys yn bersonol neu gael ei gynrychioli —

(a)gan gwnsler neu gyfreithiwr, neu

(b)gan unrhyw berson arall y mae'n ei ddymuno.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

CostauLL+C

15.—(1Ni fydd gan Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol unrhyw bŵ er i ddyfarnu unrhyw gostau neu dreuliau sy'n codi o unrhyw un o'i achosion.

(2Fel rheol rhaid i dribiwnlys apelau beidio â gwneud gorchymyn yn dyfarnu costau neu dreuliau, ond, yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff wneud gorchymyn o'r fath:

(a)yn erbyn person os yw o'r farn fod y person hwnnw wedi gweithredu'n wacsaw neu'n flinderus, neu fod ei ymddygiad wrth fynd ar drywydd apêl yn hollol afresymol;

(b)oherwydd gohirio gwrandawiad.

(3Rhaid peidio â gwneud unrhyw orchymyn o dan baragraff (2)(a) uchod yn erbyn person heb roi cyfle i'r person hwnnw gyflwyno sylwadau yn erbyn gwneud gorchymyn o'r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i fabwysiadu codau ynghylch yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth eu haelodau a'u haelodau cyfetholedig.

O dan adran 69 o Ddeddf 2000 caiff Comisiynydd Lleol yng Nghymru ymchwilio i unrhyw doriad honedig gan aelodau neu aelodau cyfetholedig (neu gyn-aelodau neu gyn-aelodau cyfetholedig) o god ymddygiad awdurdod lleol yng Nghymru.

Pan fydd Comisiynydd Lleol yng Nghymru yn rhoi'r gorau i ymchwiliad o'r fath cyn iddo gael ei gwblhau (o dan adran 70(4) o Ddeddf 2000) gall gyfeirio'r mater sy'n destun yr ymchwiliad at swyddog monitro'r awdurdod lleol perthnasol.

Fel arall, pan fydd Comisiynydd Lleol yng Nghymru yn dyfarnu ar ôl ymchwiliad (o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000) ei bod yn briodol, rhaid iddo gyfeirio'r mater at swyddog monitro'r awdurdod perthnasol, llunio adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad a'i anfon at y swyddog monitro a Phwyllgor Safonau'r awdurdod.

Mae adran 73 o Ddeddf 2000 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau sy'n pennu sut y dylid ymdrin â materion o'r fath sy'n cael eu cyfeirio.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd swyddog monitro'r awdurdod perthnasol:

(a)yn ymchwilio i'r materion a gyfeirir o dan adran 70(4) cyn cyflwyno adroddiad ac, os yw'n briodol, gwneud argymhellion i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol, neu

(b)os bydd mater wedi'i gyfeirio o dan adran 71(2), bydd yn ystyried adroddiad y Comisiynydd Lleol yng Nghymru cyn gwneud argymhellion, os yw'n briodol, i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol.

Bydd y Pwyllgor Safonau yn gwneud dyfarniad cychwynnol wedyn naill ai:

(a)nad oes dim tystiolaeth o fethu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad, neu

(b)bod rhaid rhoi cyfle i unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad ymateb, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig.

Ar ôl ystyried unrhyw ymateb a wneir gan unrhyw berson o'r fath rhaid i'r Pwyllgor Safonau ddod i'r casgliad:

(a)nad oes dim tystiolaeth o fethu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad ac na ddylid cymryd dim camau pellach,

(b)bod yna dystiolaeth o fethu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad ond na ddylid cymryd dim camau pellach, neu

(c)bod yna dystiolaeth o fethu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad ac y dylai aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) gael ei geryddu neu ei atal,

a chymryd unrhyw gamau o'r fath yn unol â hynny.

Mae penderfyniad y Pwyllgor Safonau yn ddarostyngedig i hawl i apelio i dribiwnlys apelau a dynnir o blith Panel Dyfarnu Cymru.

Caiff tribiwnlys apelau gadarnhau dyfarniad y Pwyllgor Safonau, cyfeirio mater yn ôl iddo gan argymell y dylai osod cosb wahanol, neu wrth-droi'r dyfarniad.

Mae'r Rheoliadau yn darparu hefyd fod adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad yn cael ei lunio a'i gyhoeddi.

(2)

Yn rhinwedd adran 56(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 mae unrhyw swyddogaeth sy'n arferadwy yn rhinwedd darpariaethau'r Rheoliadau hyn gan Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol neu mewn perthynas ag ef, sef awdurdod perthnasol sy'n gyngor cymuned i gael ei harfer gan neu mewn perthynas â'r canlynol; pwyllgor safonau'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol y mae'r cyngor cymuned wedi'i leoli yn ei ardal; neu pan fydd pwyllgor safonau'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol hwnnw wedi penodi is-bwyllgor, yr is-bwyllgor hwnnw.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill