Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Diwygio) (Cymru) 2001

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif. 2963 (Cy.245)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

23 Awst 2001

Yn dod i rym

24 Awst 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 83(1) a (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2) a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru bellach i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(3) a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 52(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(4)).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Diwygio) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 24 Awst 2001.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod yng Nghymru

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “awdurdod” yw—

    (a)

    cyngor sir,

    (b)

    cyngor bwrdeistref sirol, ac

    (c)

    cyngor cymuned;

  • ystyr “y Gorchymyn Cymunedau” yw Gorchymyn Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Datganiad Derbyn Swydd) 1990(5);

  • ystyr “y Gorchymyn Prif Gynghorau” yw Gorchymyn Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Datganiad Derbyn Swydd) 1990(6);

  • ystyr “y Gorchymyn Ffurflenni Cymraeg” yw Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Ffurflenni Cymraeg) 1991(7).

Diwygio'r Gorchymyn Cymunedau

3.—(1Mae'r Gorchymyn Cymunedau'n cael ei ddiwygio yn unol â'r paragraffau canlynol yn yr Erthygl hon.

(2Ar ôl Erthygl 1, yn lle “Form of declaration of acceptance of office”, rhowch “Forms of declaration of acceptance of office”.

(3Yn lle Erthygl 2, rhowch—

2.(1) The declaration of acceptance of office by the chairman or a councillor of a community council which has not at the time of declaration adopted a code as regards the conduct which is expected of its members and co-opted members under section 51 of the Local Government Act 2000 for the first time shall be in the form in Schedule 1 to this Order, or a form to the like effect.

(2) The declaration of acceptance of office by the chairman or a councillor of a community council which has at the time of declaration adopted a code as regards the conduct which is expected of its members and co-opted members under section 51 of the Local Government Act 2000 shall be in the form in Schedule 2 to this Order, or a form to the like effect..

(4Ar ôl Erthygl 2,

(a)yn lle “SCHEDULE”, rhowch “SCHEDULE 1”,

(b)yn lle “Article 2”, rhowch “Article 2(1)”, ac

(c)yn lle “DECLARATION OF ACCEPTANCE OF OFFICE”, rhowch “DECLARATION OF ACCEPTANCE OF OFFICE WHERE COMMUNITY COUNCIL HAS NOT AT THE TIME OF DECLARATION ADOPTED A CODE OF CONDUCT UNDER SECTION 51 OF THE LOCAL GOVERNMENT ACT 2000 FOR THE FIRST TIME”.

(5Ar ôl Atodlen 1, rhowch—

Article 2(2)

SCHEDULE 2

DECLARATION OF ACCEPTANCE OF OFFICE WHERE COMMUNITY COUNCIL HAS AT THE TIME OF DECLARATION ADOPTED A CODE OF CONDUCT UNDER SECTION 51 OF THE LOCAL GOVERNMENT ACT 2000

.

Diwygio'r Gorchymyn Prif Gynghorau

4.—(1Mae'r Gorchymyn Prif Gynghorau'n cael ei ddiwygio yn unol â'r paragraffau canlynol yn yr Erthygl hon.

(2Ar ôl Erthygl 1, yn lle “Form of declaration of acceptance of office”, rhowch “Forms of declaration of acceptance of office”.

(3Yn lle Erthygl 2, rhowch—

2.(1) The declaration of acceptance of office by the chairman, vice-chairman, councillor or elected mayor of the council of a county or county borough which has not at the time of declaration adopted a code as regards the conduct which is expected of its members and co-opted members under section 51 of the Local Government Act 2000 for the first time shall be in the form in Schedule 1 to this Order, or a form to the like effect.

(2) The declaration of acceptance of office by the chairman, vice-chairman, councillor or elected mayor of the council of a county or county borough which has at the time of declaration adopted a code as regards the conduct which is expected of its members and co-opted members under section 51 of the Local Government Act 2000 shall be in the form in Schedule 2 to this Order, or a form to the like effect..

(4Ar ôl Erthygl 2,

(a)yn lle “SCHEDULE”, rhowch “SCHEDULE 1”,

(b)yn lle “Article 2”, rhowch “Article 2(1)”, ac

(c)yn lle “DECLARATION OF ACCEPTANCE OF OFFICE”, rhowch “DECLARATION OF ACCEPTANCE OF OFFICE WHERE COUNTY OR COUNTY BOROUGH COUNCIL HAS NOT AT THE TIME OF DECLARATION ADOPTED A CODE OF CONDUCT UNDER SECTION 51 OF THE LOCAL GOVERNMENT ACT 2000 FOR THE FIRST TIME”.

(5Ar ôl Atodlen 1, rhowch—

Article 2(2)

SCHEDULE 2

DECLARATION OF ACCEPTANCE OF OFFICE WHERE COUNTY OR COUNTY BOROUGH COUNCIL HAS AT THE TIME OF DECLARATION ADOPTED A CODE OF CONDUCT UNDER SECTION 51 OF THE LOCAL GOVERNMENT ACT 2000

.

Diwygio'r Gorchymyn Ffurflenni Cymraeg

5.—(1Mae'r Gorchymyn Ffurflenni Cymraeg yn cael ei ddiwygio yn unol â'r paragraffau canlynol yn yr Erthygl hon.

(2Yn lle Erthygl 2, rhowch—

2.(1) The declaration of acceptance of office by the chairman, vice-chairman, councillor or elected mayor of the council of a county or county borough which has not at the time of declaration adopted a code as regards the conduct which is expected of its members and co-opted members under section 51 of the Local Government Act 2000 for the first time may be in the form in Schedule I to this Order, or a form to the like effect, in place of the declaration of acceptance of office set out in Schedule 1 to the Local Elections (Principal Areas) (Declaration of Acceptance of Office) Order 1990.

(2) The declaration of acceptance of office by the chairman, vice-chairman, councillor or elected mayor of the council of a county or county borough which has at the time of declaration adopted a code as regards the conduct which is expected of its members and co-opted members under section 51 of the Local Government Act 2000 may be in the form in Schedule IA to this Order, or a form to the like effect, in place of the declaration of acceptance of office set out in Schedule 2 to the Local Elections (Principal Areas) (Declaration of Acceptance of Office) Order 1990..

(3Yn lle Erthygl 3, rhowch—

3.(1) The declaration of acceptance of office by the chairman or a councillor of a community council which has not at the time of declaration adopted a code as regards the conduct which is expected of its members and co-opted members under section 51 of the Local Government Act 2000 for the first time may be in the form in Schedule II to this Order, or a form to the like effect, in place of the declaration of acceptance of office set out in Schedule 1 to the Local Elections (Parishes and Communities) (Declaration of Acceptance of Office) Order 1990.

(2) The declaration of acceptance of office by the chairman or a councillor of a community council which has at the time of declaration adopted a code as regards the conduct which is expected of its members and co-opted members under section 51 of the Local Government Act 2000 may be in the form in Schedule IIA to this Order, or a form to the like effect, in place of the declaration of acceptance of office set out in Schedule 2 to the Local Elections (Parishes and Communities) (Declaration of Acceptance of Office) Order 1990..

(4Yn Atodlen I—

(a)yn lle “Article 2”, rhowch “Article 2(1)”, a

(b)yn lle “DATGANIAD DERBYN SWYDD”, rhowch “DATGANIAD DERBYN SWYDD OS NAD YW'R CYNGOR SIR NEU'R CYNGOR BWRDEISTREF SIROL AR ADEG Y DATGANIAD WEDI MABWYSIADU COD YMDDYGIAD O DAN ADRAN 51 O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 AM Y TRO CYNTAF”.

(5Ar ôl Atodlen I, rhowch—

Article 2(2)

SCHEDULE IA

DATGANIAD DERBYN SWYDD OS YW'R CYNGOR SIR NEU'R CYNGOR BWRDEISTREF SIROL AR ADEG Y DATGANIAD WEDI MABWYSIADU COD YMDDYGIAD O DAN ADRAN 51 O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

.

(6Yn Atodlen II—

(a)yn lle “Article 3”, rhowch “Article 3(1)”, a

(b)yn lle “DATGANIAD DERBYN SWYDD”, rhowch “DATGANIAD DERBYN SWYDD LLE NAD YW'R CYNGOR CYMUNED AR ADEG Y DATGANIAD WEDI MABWYSIADU AM Y TRO CYNTAF GOD YMDDYGIAD O DAN ADRAN 51 O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000”.

(7Ar ôl Atodlen II, rhowch—

Article 3(2)

SCHEDULE IIA

DATGANIAD DERBYN SWYDD OS NAD YW'R CYNGOR CYMUNED AR ADEG Y DATGANIAD WEDI MABWYSIADU AM Y TRO CYNTAF GOD YMDDYGIAD O DAN ADRAN 51 O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)

Jane. E. Hutt

Ysgrifennydd Cynulliad

23 Awst 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Adran 83(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) yn gwahardd person sydd wedi'i ethol i swydd cadeirydd, is-gadeirydd, cynghorydd neu faer etholedig cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru rhag gweithredu mewn swydd o'r fath oni bai fod y person hwnnw wedi gwneud datganiad ei fod yn derbyn y swydd yn y ffurf a ragnodir gan orchymyn a bod y datganiad hwnnw yn cael ei draddodi i'r swyddog priodol yn y cyngor o fewn dau fis o ddyddiad yr etholiad. Os na chaiff datganiad o'r fath ei wneud a'i draddodi i'r swyddog priodol o fewn yr amser a bennwyd, bydd swydd y person hwnnw yn dod yn wag.

O dan adran 83(4) o Ddeddf 1972, bydd swydd person a etholir i swydd cadeirydd cyngor cymuned neu gynghorydd cymuned yn dod yn wag oni bai fod y person hwnnw yn gwneud datganiad ei fod yn derbyn y swydd yn y ffurf a ragnodir gan orchymyn ar yr adeg briodol yng ngŵ ydd personau priodol ac yn ei drosglwyddo i'r cyngor.

Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2000 (“Deddf 2000”) yn sefydlu fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Mae Adran 51 o Ddeddf 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned (ymysg eraill) fabwysiadu cod ynghylch yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth aelodau ac aelodau cyfetholedig y cynghorau hynny.

Mae adran 52 o Ddeddf 2000 yn ymwneud â'r ddyletswydd sydd ar aelodau ac aelodau cyfetholedig cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned i gydymffurfio â'r cod ymddygiad a fabwysiadwyd gan eu cynghorau o dan adran 51 o Ddeddf 2000.

Mae Adran 52(2) o Ddeddf 2000 yn darparu y gall ffurf datganiad derbyn swydd y gellir ei rhagnodi gan orchymyn o dan adran 83 o Ddeddf 1972 gynnwys ymrwymiad gan y sawl sy'n gwneud datganiad y byddant, wrth gyflwani eu swyddogaethau, yn parchu cod ymddygiad y cyngor sir, y cyngor bwrdeistref sirol neu'r cyngor cymuned perthnasol am y tro o dan adran 51 o Ddeddf 2000.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio tri gorchymyn sydd mewn grym o dan adran 83 o Ddeddf 1972 fel y bydd y sawl sy'n gwneud datganiad, pan fo cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned wedi mabwysiadu cod ymddygiad o dan adran 51 o Ddeddf 2000, yn ymrwymo y byddant wrth gyflawni eu swyddogaethau yn parchu cod ymddygiad y cyngor sydd am y tro yn bodoli o dan yr adran honno.

(3)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill