- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG , CYMRU
Wedi'u gwneud
15 Chwefror 2001
Yn dod i rym
1 Mawrth 2001
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2001.
(2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Ni fydd y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ariannu ysgolion a gynhelir mewn unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2001.
2.—(1) Mae Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999(3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)(b) yn lle “28(a) to (d)” rhowch “28(a), (b) and (d)”.
(3) Yn rheoliad 3, dilëwch yr “and” yn union o flaen paragraff (f) ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosodwch —
“(g)expenditure in connection with the administration of committees dealing with education; and
(h)expenditure in connection with external audit.”.
(4) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 28 hepgorwch is-baragraff (c) ac yn lle is-baragraff (d) rhowch “(d) revenue budget preparation and the production and publication of accounts.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Chwefror 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 (sydd erbyn hyn yn gymwys i Gymru yn unig), a hynny i weithredu penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol nad yw'n briodol i wariant ar weinyddiaeth pwyllgorau addysg na gwariant ar archwiliadau allanol gael eu cynnwys yng nghyllideb ysgolion lleol awdurdod addysg lleol. Gan hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau 1999 (sy'n nodi pa wariant sydd wedi'i gynnwys a pha wariant sydd heb ei gynnwys yn y gyllideb honno) er mwyn adlewyrchu'r penderfyniad hwnnw.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Atodlen 2 i Reoliadau 1999 (sy'n pennu dosbarthiadau a disgrifiadau o wariant a all gael eu tynnu oddi ar gyllideb ysgolion lleol awdurdod addysg lleol er mwyn cyfrif eu cyllideb ysgolion unigol) a hynny i ddileu cyfeiriadau at y ddau gategori gwariant y cyfeirir atynt uchod.
1998 p.31. I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 142(1).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1999/101 a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/911(Cy.40). Yn wreiddiol yr oedd y Rheoliadau hynny yn gymwys i Gymru a Lloegr ill dwy ond cawsant eu diddymu mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2000/478.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: