- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
25 Ebrill 2002
Yn dod i rym ar
26 Ebrill 2002
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 26 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru yn unig.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynlluniau llawn 2002—05 a chynlluniau dilynol (p'un ai llawn neu atodol) yn unig.
2.—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 1999(3).
(2) Ni fydd diddymu'r rheoliadau yn (1) uchod yn rhagfarnu dilysrwydd parhaus y cynlluniau sydd eisoes wedi'u gwneud o dan y rheoliadau hynny.
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312(1) o Ddeddf Addysg 1996;
ystyr “atodiadau” (“annexes”) yw atodiadau i ddatganiad o gynigion sy'n ffurfio rhan o gynllun strategol addysg;
ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod addysg lleol;
ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Medi;
ystyr “cwrs byr TGAU” (“GCSE short course”) yw cwrs TGAU a gynlluniwyd i gwmpasu cyfran yn unig (nid llai na hanner) o'r cwrs astudio TGAU llawn cyfatebol, ac y mae'r un safonau graddio yn berthnasol iddo, ac ystyr “arholiad cwrs byr TGAU” (“GCSE short course examination”) yw arholiad y mae'r cwrs sy'n arwain ato yn gwrs byr TGAU;
ystyr “cyflawni'r Dangosydd Pynciau Craidd” (“to achieve the Core Subject Indicator”) yw—
mewn perthynas â disgyblion cyfnod allweddol dau, fod y disgyblion hynny i gael eu hasesu fel pe baent wedi cyrraedd lefel 4 neu'n uwch ym mhrofion y CC ar gyfer y cyfnod allweddol hwnnw mewn Cymraeg (heblaw am Gymraeg fel ail iaith) neu Saesneg ac mewn mathemateg a gwyddoniaeth,
mewn perthynas â disgyblion cyfnod allweddol tri, fod y disgyblion hynny i gael eu hasesu fel pe baent wedi cyrraedd lefel 5 neu'n uwch ym mhrofion y CC ar gyfer y cyfnod allweddol hwnnw mewn Cymraeg (heblaw am Gymraeg fel ail iaith) neu Saesneg ac mewn mathemateg a gwyddoniaeth, a
mewn perthynas â disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol o dan sylw, fod y disgyblion hynny wedi ennill unrhyw radd o A* i C mewn arholiad TGAU mewn Cymraeg (heblaw am Gymraeg fel ail iaith) neu Saesneg ac mewn arholiad TGAU mathemateg ac arholiad TGAU gwyddoniaeth;
ystyr “cyfnod allweddol dau” (“second key stage”) a “cyfnod allweddol tri” (“third key stage”) yw'r cyfnodau a bennir ym mharagraffau (b) ac (c) yn y drefn honno o adran 355(1) o Ddeddf 1996;
ystyr “cyfnod y cynllun” (“period of the plan”) yw'r cyfnod a bennir yn rheoliad 4;
ystyr “cymhwyster galwedigaethol” (“vocational qualification”) yw—
GNVQ Rhan Un,
GNVQ Canolradd,
GNVQ Sylfaen,
Uned Iaith GNVQ, neu
NVQ,
a gymeradwywyd o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000;
ystyr “cynllun atodol” (“supplementary plan”) yw cynllun strategol addysg sy'n ymdrin â'r materion ac sy'n cynnwys y deunydd a bennir yn Rhan IV o'r Rheoliadau hyn, ac ystyr “cynllun atodol cyntaf” (“first supplementary plan”) ac “ail gynllun atodol” (“second supplementary plan”) mewn perthynas â chynllun llawn yw'r cynlluniau atodol a baratoir mewn perthynas â'r cyfnodau a bennir yn rheoliadau 4(3) a 4(4) yn ôl eu trefn;
ystyr “cynllun llawn” (“full plan”) yw cynllun strategol addysg a baratoir gan awdurdod sy'n ymdrin â'r materion ac sy'n cynnwys y deunydd a bennir yn Rhannau II a III o'r rheoliadau hyn, ac ystyr “cynllun llawn 2002—05” (“2002—05 full plan”) yw'r cynllun llawn y cyfeirir ato yn Rheoliad 4(1);
ystyr “cynllun strategol addysg” (“education strategic plan”) yw cynllun datblygu addysg a baratowyd gan awdurdod yn unol ag adran 6(1) o Ddeddf 1998;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(4);
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
mae i “derbyn gofal gan awdurdod lleol” mewn perthynas â phlentyn yr ystyr a roddir i “looked after by a local authority” yn adran 22 o Ddeddf Plant 1989(5), a dehonglir “plant sy'n derbyn gofal” (“looked after children”) yn unol â hynny;
mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996;
ystyr “disgyblion cyfnod allweddol dau” (“second key stage pupils”) a “disgyblion cyfnod allweddol tri” (“third key stage pupils”) yw disgyblion sydd yng nghyfnodau allweddol dau a thri yn y drefn honno;
ystyr “disgyblion sy'n destun datganiad” (“statemented pupils”) yw disgyblion ag anghenion addysgol arbennig y gwnaed datganiad ar eu cyfer o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996 ac ystyr “disgyblion nad ydynt yn destun datganiad” (“non-statemented pupils”) yw disgyblion ag anghenion addysgol arbennig na wnaed datganiad o'r fath ar eu cyfer;
ystyr “diwrnod cyntaf y cynllun” (“the first day of the plan”) mewn perthynas â chynllun strategol addysg yw diwrnod cyntaf y cyfnod y mae'r cynllun hwnnw yn ymwneud ag ef;
“dosbarth prif-ffrwd” (“mainstream class”) yw dosbarth mewn ysgol brif-ffrwd, nas dynodwyd gan yr awdurdod yn ddosbarth arbennig;
ystyr “dyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion” (“Schools' Census enumeration date”) yw'r dyddiad y cyfeirir ato yn flynyddol gan y Cynulliad Cenedlaethol fel y dyddiad y mae'n gofyn i wybodaeth gael ei darparu ar ei gyfer mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn unol ag adran 29(1) o Ddeddf 1996;
ystyr “ELQ” (“ELQ”) yw cymhwyster a ddisgrifir ac sydd wedi'i gymeradwyo fel Cymhwyster Lefel Mynediad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(6);
ystyr “ffurflen Gyfrifiad Ysgolion” (“Schools' Census return”) yw'r ffurflen y mae'n ofynnol i awdurdod ei llenwi bob blwyddyn gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag adran 29(1) o Ddeddf 1996;
ystyr “GNVQ” (“GNVQ”) yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol;
ystyr “lefel 4” (“level 4”) a “lefel 5” (“level 5”) yw lefelau 4 a 5 yn y drefn honno o raddfa lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol fel y'u pennir drwy ganlyniadau profion y CC;
ystyr “NVQ” (“NVQ”) yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol;
ystyr “plant i deithwyr” (“travellers' children”), mewn perthynas â chynllun, yw plant—
sydd oherwydd dull o fyw eu rhieni, naill ai heb gartref sefydlog neu sy'n gadael eu prif breswylfan i fyw yn rhywle arall am gyfnodau arwyddocaol ym mhob blwyddyn; neu
sy'n dod o fewn paragraff (a) uchod o fewn cyfnod o ddwy flynedd yn union cyn diwrnod cyntaf y cynllun;
ystyr “profion y CC” (“NC tests”) yw profion y Cwricwlwm Cenedlaethol a weinyddir i ddisgyblion er mwyn asesu eu lefel cyrhaeddiad mewn Cymraeg, Saesneg, gwyddoniaeth neu fathemateg, sef profion a bennir mewn darpariaethau a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y gorchymyn priodol a wnaed o dan adran 356(2) o Ddeddf 1996 sydd mewn grym pan weinyddir y profion hynny(7);
mae i “y pynciau craidd” yr ystyr a roddir i “the core subjects” yn adran 354(1) o Deddf 1996;
ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Diawdurdod) (Cymru) 1999(8);
ystyr “y Rheoliadau Cyllido” (“the Financing Regulations”) yw Rheoliadau Cyllido Ysgolion a Gynhelir 1999(9);
ystyr “TGAU” (“GCSE”) yw Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd, ac ystyr “arholiad TGAU” (“GCSE examination”) yw arholiad y mae'r cwrs sy'n arwain ato yn gwrs astudio TGAU llawn;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig;
“ysgol brif-ffrwd” (“mainstream school”) yw ysgol nad yw'n ysgol arbennig;
nid yw “ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod” (“schools maintained by the authority”) yn cynnwys ysgolion nad ydynt yn ysgolion a gynhelir fel y diffinnir y rheiny yma.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad—
(a)at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(b)at baragraff â rhif mewn rheoliad neu Atodlen yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno;
onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall.
(3) Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ddisgybl sy'n ennill—
(a)gradd mewn arholiad TGAU,
(b)cymhwyster galwedigaethol, neu
(c)gradd mewn arholiad cwrs byr TGAU,
erbyn diwedd blwyddyn ysgol, fel cyfeiriad at y disgybl hwnnw yn ennill y radd honno neu'r cymhwyster hwnnw yn ystod y flwyddyn ysgol y mae—
(i)yn sefyll yr arholiad hwnnw, neu
(ii)(yn ôl fel y digwydd) yn cwblhau'r cwrs sy'n arwain at ddyfarnu'r cymhwyster hwnnw,
hyd yn oed os yw'r penderfyniad i ddyfarnu'r radd neu'r cymhwyster yn cael ei wneud mewn blwyddyn ysgol ddiweddarach.
4.—(1) Rhaid i'r datganiad o gynigion yn y cynllun llawn cyntaf a baratoir o dan y Rheoliadau hyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “cynllun llawn 2002—05”) ymwneud â chyfnod o dair blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2002.
(2) Raid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn dilynol ymwneud â chyfnod o dair blwyddyn ysgol, sy'n dechrau pan ddaw cyfnod y cynllun llawn blaenorol mwyaf diweddar i ben.
(3) Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun atodol cyntaf ymwneud â chyfnod o ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau pan ddaw'r flwyddyn ysgol gyntaf yng nghyfnod y cynllun llawn mwyaf diweddar i ben.
(4) Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn ail gynllun atodol ymwneud â chyfnod—
(a)mewn perthynas yn unig â gosod targedau a bennir yn rheoliad 30, o ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau pan ddaw'r ail flwyddyn ysgol yng nghyfnod y cynllun llawn mwyaf diweddar i ben;
(b)ym mhob cyswllt arall, un flwyddyn ysgol sy'n dechrau pan ddaw'r ail flwyddyn ysgol yng nghyfnod y cynllun llawn mwyaf diweddar i ben.
5.—(1) Rhaid paratoi cynlluniau strategol addysg bob blwyddyn.
(2) Rhaid i bob awdurdod gyflwyno ei gynllun llawn 2002—05 i'r Cynulliad Cenedlaethol ar neu cyn y 31 Mai 2002.
(3) Rhaid i bob awdurdod gyflwyno cynllun dilynol (p'un ai llawn neu atodol) i'r Cynulliad Cenedlaethol ar neu cyn 30 Ebrill cyn diwrnod cyntaf y cynllun hwnnw.
6.—(1) Rhaid i bob awdurdod gyhoeddi copi llawn o'i gynllun a gymeradwywyd—
(a)drwy sicrhau fod copi electronig neu ysgrifenedig ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd yr awdurdod, a
(b)drwy ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol,
ar neu cyn diwrnod cyntaf y cynllun, neu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi i'r cynllun gael ei gymeradwyo, os yw hynny'n ddiweddarach.
(2) Rhaid i bob awdurdod ddarparu copi o'i gynllun a gymeradwywyd, neu fersiwn cryno ohono—
(a)i bennaeth a chadeirydd corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod; a
(b)i unrhyw berson arall os bydd y person hwnnw yn gwneud cais yn ysgrifenedig.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “cynllun a gymeradwywyd” yw cynllun strategol addysg sy'n gynllun llawn, yn gynllun atodol, neu'n gynllun wedi'i addasu, lle mae'r datganiad o gynigion wedi cael ei gymeradwyo o dan adran 7(2) neu 7(8) o Ddeddf 1998, a rhaid dehongli “a gymeradwywyd” mewn perthynas â chynllun o'r fath yn unol â hynny.
(4) Bernir y bydd y gofyniad ym mharagraff (2)(a) wedi'i fodloni os bydd yr awdurdod wedi hysbysu'r personau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw fod cynllun yr awdurdod a gafodd ei gymeradwyo neu fersiwn gryno ohono ar gael ar wefan y mae'r awdurdod yn ei chynnal neu ar y Rhyngrwyd.
7. Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn—
(a)nodi'r blaenoriaethau a nodwyd gan yr awdurdod ar gyfer codi safonau'r addysg a ddarperir ar gyfer plant yn ardal yr awdurdod yn ystod cyfnod y cynllun ac ar gyfer gwella perfformiad yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn ystod y cyfnod hwnnw, ac unedau cyfeirio disgyblion ac ysgolion meithrin a gynhelir yn ei ardal;
(b)pennu, mewn perthynas â phob un o'r blaenoriaethau a nodir yn unol â pharagraff (a), ar ba sail y cafodd ei nodi a sut y bydd yn cyfrannu at gyflawni'r targedau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11;
(c)rhestru, mewn perthynas â phob un o'r blaenoriaethau a nodir yn unol â pharagraff (a), y gweithgareddau y mae'r awdurdod yn bwriadu ymgymryd â hwy yn ystod cyfnod y cynllun er mwyn mynd i'r afael â'r flaenoriaeth honno;
(ch)cynnwys datganiad yn nodi sut y mae'r awdurdod yn bwriadu monitro'r perfformiad yn ystod cyfnod y cynllun mewn ysgolion a gynhelir, ysgolion meithrin a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion ac yn ei ardal;
(d)cynnwys datganiad yn nodi sut y mae'r awdurdod yn bwriadu nodi a chefnogi ysgolion sy'n achosi pryder;
(dd)gosod targedau cynnydd wedi'u hamseru, yn benodol a mesuradwy o ran pob un o flaenoriaethau'r awdurdod fel y nodir hwy yn unol â pharagraff (a); ac
(e)cynnwys datganiad yn nodi'r camau y mae'r awdurdod yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw ddiffygion gwirioneddol neu ddiffygion a ddisgwylir wrth gyflawni ei dargedau yn y cynllun blaenorol, p'un ai cynllun llawn neu gynllun atodol.
8. Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn—
(a)nodi polisi'r awdurdod ar ddarparu addysg i ddisgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig;
(b)nodi polisi'r awdurdod ar gyfer darparu addysg i ddisgyblion o'r fath mewn ysgolion prif-ffrwd;
(c)pennu cynigion yr awdurdod ar gyfer darparu a gwella cefnogaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn ystod cyfnod y cynllun;
(ch)pennu cynigion yr awdurdod ar gyfer hybu ei bolisi ar gynnwys disgyblion ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion prif-ffrwd yn ystod cyfnod y cynllun; a
(d)gosod targedau cynnydd wedi'u hamseru, yn benodol a mesuradwy o ran pob un o flaenoriaethau'r awdurdod fel y nodir hwy yn unol â pharagraffau (c) ac (ch).
9. Rhaid i'r datganiad o gynigion yn y cynllun llawn sy'n ymwneud â'r tair blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2005 ac mewn cynlluniau llawn dilynol—
(a)nodi polisi'r awdurdod ar hybu ymwybyddiaeth hil mewn ysgolion; a
(b)nodi strategaeth yr awdurdod ar gyfer atal a mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion.
10. Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn—
(a)nodi polisi'r awdurdod ar y ddarpariaeth addysg i ddisgyblion sy'n blant sy'n derbyn gofal; a
(b)pennu safonau addysgol y dylai disgyblion sy'n blant sy'n derbyn gofal yn ardal yr awdurdod fod yn eu cyrraedd yn yr ysgolion a gynhelir ganddo, ac wrth osod safonau o'r fath, rhaid i'r awdurdod roi sylw i dargedau cenedlaethol a osodir gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y safonau addysgol y mae disgyblion o'r fath i'w cyrraedd.
11.—(1) Yn y datganiad o gynigion mewn cynllun llawn rhaid i'r awdurdod osod targedau ar gyfer y flwyddyn gyntaf a'r ail yng nghyfnod y cynllun mewn perthynas â'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).
(2) Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol dau fel y'u nodir yn rheoliad 12;
(b)cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol tri fel y'u nodir yn rheoliad 13;
(c)cyraeddiadau disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed fel y'u nodir yn rheoliad 14;
(ch)canran y disgyblion na chyflwynwyd eu henwau i sefyll arholiadau fel y'i nodir yn rheoliad 15;
(d)nifer y gwaharddiadau parhaol fel y'i nodir yn rheoliad 16;
(dd)nifer y gwaharddiadau cyfnod penodedig fel y'i nodir yn rheoliad 17; ac
(e)cyfradd yr absenoldebau diawdurdod fel y'i nodir yn rheoliad 18.
12.—(1) Cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol dau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw'r cyraeddiadau a nodir ym mharagraff (2) mewn cysylltiad â pherfformiad y grŵp perthnasol o ddisgyblion o'r fath ym mhrofion y CC sydd i'w gweinyddu i'r grŵp hwnnw ar neu yn agos i ddiwedd pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r targed i gael ei osod mewn perthynas â hwy.
(2) Dyma'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a)ar gyfer pob un o'r pynciau craidd, canran y disgyblion sydd i gyrraedd lefel 4 neu'n uwch mewn profion o'r fath yn y pwnc hwnnw;
(b)canran y disgyblion a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath;
(c)canran y merched a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath; ac
(ch)canran y bechgyn a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y grŵp perthnasol o ddisgyblion o'r fath”, mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r holl bersonau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y byddant, yn y flwyddyn ysgol honno—
(a)yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, a
(b)ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol dau.
13.—(1) Cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol tri y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw'r cyraeddiadau a nodir ym mharagraff (2) mewn cysylltiad â pherfformiad y grŵp perthnasol o ddisgyblion o'r fath ym mhrofion y CC sydd i'w gweinyddu i'r grŵp hwnnw ar neu yn agos i ddiwedd pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r targed i gael ei osod mewn perthynas â hwy.
(2) Dyma'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a)ar gyfer pob un o'r pynciau craidd, canran y disgyblion sydd i gyrraedd lefel 5 neu'n uwch mewn profion o'r fath yn y pwnc hwnnw;
(b)canran y disgyblion a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath;
(c)canran y merched a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath; ac
(ch)canran y bechgyn a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “y grŵp perthnasol o ddisgyblion o'r fath”, mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r holl bersonau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y byddant, yn y flwyddyn ysgol honno—
(a)yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, a
(b)ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol tri.
14.—(1) Cyraeddiadau'r disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) mewn perthynas â pherfformiad y grŵp perthnasol o ddisgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed mewn arholiadau erbyn diwedd pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae targedau yn cael eu gosod mewn perthynas â hwy.
(2) Dyma'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a)canran y disgyblion sydd i gyflawni'r dangosydd pynciau craidd;
(b)canran y merched a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd;
(c)canran y bechgyn a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd;
(ch)canran y disgyblion a fydd yn ennill unrhyw radd o A* i C mewn pump neu fwy o bynciau mewn arholiadau TGAU;
(d)canran y disgyblion a fydd yn cyflawni unrhyw radd o A* i G mewn pump neu fwy o bynciau mewn arholiadau TGAU; ac
(dd)canran y disgyblion a fydd yn ymadael â'r ysgol heb naill ai ennill unrhyw radd o A* i G mewn arholiadau TGAU neu basio unrhyw arholiadau ELQ.
(3) O ran y cyfeiriadau at ddisgyblion—
(a)sy'n ennill graddau penodol mewn arholiadau TGAU ym mharagraff (2) (ch), (d) ac (dd), rhaid eu dehongli at ddibenion y darpariaethau hyn fel eu bod yn cynnwys cyfeiriadau at ddisgyblion sy'n ennill dyfarniadau cyfatebol mewn nifer cyfatebol o gymwysterau galwedigaethol neu arholiadau cwrs byr TGAU; a
(b)sy'n ymadael â'r ysgol ym mharagraff 2(dd) nid ydynt yn cynnwys disgyblion sy'n trosglwyddo i sefydliad addysgol arall ar sail llawnamser.
(4) Bydd gan yr Atodlen effaith ar gyfer penderfynu, at ddibenion y rheoliad hwn, ar gwestiynau ynghylch—
(a)pa ddyfarniad cymhwyster galwedigaethol sy'n cyfateb i ba radd arholiad TGAU;
(b)y cyfwerthedd rhwng canlyniadau arholiadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol; ac
(c)y cyfwerthedd rhwng canlyniadau arholiadau TGAU a chanlyniadau arholiadau cwrs byr TGAU.
(5) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 15, ystyr “y grŵp perthnasol o ddisgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed” mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r holl bersonau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y byddant—
(a)ar ddyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion yn y flwyddyn ysgol honno yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, a
(b)yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol honNo.
15. Canran y disgyblion na chyflwynwyd eu henwau i sefyll arholiadau y cyfeirir ati yn rheoliad 11 yw'r ganran o'r grŵp perthnasol o ddisgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed, fel y'i diffinnir yn rheoliad 14, yn ardal yr awdurdod na fydd eu henwau yn cael eu cyflwyno i sefyll unrhyw arholiad TGAU, arholiad cwrs byr TGAU, dyfarniad cymhwyster galwedigaethol neu ELQ.
16.—(1) Nifer y gwaharddiadau parhaol y cyfeirir ato yn rheoliad 11 yw uchafswm nifer yr achlysuron y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y caiff disgyblion eu gwahardd yn barhaol o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, heblaw am unrhyw ysgol a leolir mewn ysbyty.
(2) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 17, dylid dehongli “gwahardd” yn unol ag “excluded” yn adran 64(4) o Ddeddf 1998.
17. Y gwaharddiadau cyfnod penodedig y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw—
(a)uchafswm nifer y diwrnodau, a
(b)uchafswm nifer yr achlysuron,
pryd y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y caiff disgyblion eu gwahardd am gyfnod penodedig o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod heblaw am unrhyw ysgol a leolir mewn ysbyty.
18.—(1) Y gyfradd absenoldeb diawdurdod y cyfeirir ati yn rheoliad 11 yw'r gyfradd absenoldeb diawdurdod ar gyfer pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r targed yn cael ei osod mewn perthynas â hi, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n darparu addysg uwchradd, heblaw am ysgolion arbennig ac unrhyw ysgol a leolir mewn ysbyty.
(2) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “y gyfradd absenoldeb diawdurdod”, mewn perthynas ag awdurdod ac unrhyw flwyddyn ysgol, yw cyfanswm yr absenoldebau diawdurdod o'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn ystod y cyfnod perthnasol yn y flwyddyn honno, wedi'i fynegi fel canran o gyfanswm y presenoldebau posibl yn y cyfnod hwnnw;
(b)ystyr “absenoldeb diawdurdod” yw achlysur pan fo disgybl dydd perthnasol wedi'i gofrestru yn absennol o'r ysgol heb awdurdod yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995(10);
(c)ystyr “cyfanswm y presenoldebau posibl”, mewn perthynas ag awdurdod ac unrhyw flwyddyn ysgol, yw'r nifer a geir yn sgil lluosi nifer y disgyblion dydd perthnasol yn yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gyda nifer y sesiynau ysgol yn y cyfnod perthnasol yn y flwyddyn honno;
(ch)ystyr “disgybl dydd perthnasol”, mewn perthynas ag ysgol a blwyddyn ysgol, yw disgybl a gofrestrwyd yn yr ysgol honno heblaw am—
(i)byrddiwr, neu
(ii)disgybl sydd, cyn dechrau'r flwyddyn ysgol honno, naill ai heb gyrraedd deg oed a chwe mis, neu sydd wedi cyrraedd un ar bymtheg oed;
(d)ystyr “y cyfnod perthnasol”, mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r cyfnod sy'n dechrau ar ddechrau'r flwyddyn honno ac sy'n gorffen gyda diwedd y diwrnod ysgol sy'n disgyn ar y dydd Gwener cyn y dydd Llun olaf ym Mai yn y flwyddyn honno; ac
(dd)mae i “addysg uwchradd” yr ystyr a roddir i “secondary education” yn adran 2(2) o Ddeddf 1996.
19. Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn—
(a)disgrifio sut y bydd pob un o'r targedau ar gyfer unrhyw flwyddyn a osodir gan yr awdurdod yn rhinwedd rheoliad 11 yn ymwneud ag unrhyw dargedau cyfatebol ar gyfer y flwyddyn honno a osodir gan gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw yn rhinwedd Rheoliadau 1999;
(b)disgrifio sut y bydd yr awdurdod yn mynd ati gyda ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod i gynorthwyo cyrff llywodraethu ysgolion o'r fath i osod y targedau y mae gofyn iddynt eu gosod yn rhinwedd Rheoliadau 1999, gan gynnwys disgrifiad o'r wybodaeth a roddir gan yr awdurdod i gyrff llywodraethu o'r fath er mwyn eu cynorthwyo i osod y targedau hynny;
(c)disgrifio sut y bydd pob un o'r targedau ar gyfer unrhyw flwyddyn a osodir gan yr awdurdod yn rhinwedd rheoliad 11 yn ymwneud ag unrhyw dargedau cenedlaethol a osodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru; ac
(ch)crynhoi'r wybodaeth a ddefnyddir gan yr awdurdod wrth osod y targedau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11.
20. Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys datganiad gan yr awdurdod yn rhoi disgrifiad o nodweddion allweddol yr awdurdod sydd ym marn yr awdurdod yn berthnasol i wella ac i godi safonau ysgolion yn ei ardal.
21. Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys tabl yn dangos gwariant cynlluniedig awdurdod a gaiff ei ddidynnu o'i gyllideb ysgolion lleol, ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae diwrnod cyntaf y cynllun yn disgyn ynddi, mewn perthynas â'r blaenoriaethau a nodir yn y datganiad o gynigion yn unol â rheoliad 7(a), wedi'i ddadansoddi, drwy gyfeirio at wariant, yn y categorïau canlynol—
(a)y gwariant y cyfeirir ato ym mharagraffau 1 a 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cyllido (gwariant a gefnogir gan grantiau penodol),
(b)y gwariant y cyfeirir ato ym mharagraffau 3 i 15 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cyllido (darpariaeth o natur arbennig), ac
(c)y gwariant y cyfeirir ato ym mharagraffau 20 i 23 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cyllido (gwella ysgolion).
22.—(1) Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys tabl yn dangos—
(a)nifer y disgyblion sy'n destun datganiad yr oedd yr awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer ym mhob un o'r tair blwyddyn ysgol yn union cyn cyfnod y cynllun;
(b)nifer y disgyblion nad ydynt yn destun datganiad yr oedd yr awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer yn y flwyddyn ysgol yn union cyn cyfnod y cynllun;
(c)nifer y disgyblion sy'n destun datganiad a gofrestrwyd mewn dosbarthiadau prif-ffrwd mewn ysgolion prif-ffrwd a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun;
(ch)nifer y disgyblion sy'n destun datganiad a gofrestrwyd mewn ysgolion prif-ffrwd a gynhelir gan yr awdurdod, naill ai mewn dosbarth arbennig neu gyda darpariaeth adnoddau arbennig, yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun;
(d)nifer y disgyblion a gofrestrwyd mewn ysgolion arbennig a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun;
(dd)cyfanswm y disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun a oedd wedi'u cofrestru fel disgyblion—
(i)mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau eraill, a
(ii)mewn ysgolion annibynnol.
(2) Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys—
(a)disgrifiad o'r trefniadau y mae'r awdurdod wedi eu sefydlu er mwyn sicrhau bod gwasanaethau partneriaeth rieni ar gael;
(b)disgrifiad o'r trefniadau mae'r awdurdod wedi eu sefydlu er mwyn monitro a yw'r ddarpariaeth addysgol ac arall a nodir ym mhob datganiad a wneir o dan adran 324 o Ddeddf 1996 yn cael ei chyflwyno;
(c)datganiad yn disgrifio trefniadau'r awdurdod i fonitro'r safonau addysgol y mae'r disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn eu cyrraedd; ac
(ch)datganiad yn nodi mecanwaith ariannu'r awdurdod ar gyfer darpariaeth anghenion addysgol arbennig.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “cyfanswm y disgyblion” yw cyfanswm y disgyblion y mae'r awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer;
(b)mae pob cyfeiriad at nifer o ddisgyblion mewn perthynas â blwyddyn ysgol yn gyfeiriad at nifer y disgyblion hynny ar ddyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion yn y flwyddyn honno; ac
(c)ystyr “gwasanaethau partneriaeth rieni”, mewn perthynas â phob cynllun llawn heblaw cynllun llawn 2002—05, yw'r trefniadau a wneir gan yr awdurdod o dan adran 332A o Ddeddf 1996(11) i ddarparu cyngor a gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig i rieni plant ag anghenion addysgol arbennig, ond ei ystyr mewn perthynas â chynllun llawn 2002—05 yw unrhyw drefniadau o'r fath a all fod wedi cael eu gwneud neu eu cynllunio gan yr awdurdod.
23.—(1) Rhaid i'r atodiadau i bob cynllun llawn ddisgrifio'r trefniadau ar gyfer darparu Saesneg fel iaith ychwanegol ar gyfer disgyblion nad yw Cymraeg na Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, yn y flwyddyn ysgol yn union cyn blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw.
(2) Rhaid i'r atodiadau i bob cynllun llawn, heblaw cynllun llawn 2002—05, gynnwys mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol yn union cyn blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw—
(a)cyfanswm y disgyblion o leiafrifoedd ethnig yr oedd yr awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer,
(b)dadansoddiad o darddiad ethnig y disgyblion hynny,
fel y dangosir hwy yn y ffurflen Gyfrifiad Ysgolion a gyflwynir i'r Cynulliad Cenedlaethol gan yr awdurdod.
24. Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys datganiad yn disgrifio trefniadau'r awdurdod ar gyfer monitro'r safonau addysgol y mae disgyblion sy'n blant sy'n derbyn gofal yn eu cyrraedd.
25.—(1) Rhaid i'r atodiadau i bob cynllun llawn heblaw cynllun llawn 2002—05, mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol yn union cyn blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw—
(a)pennu faint o ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a gofrestrir mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod,
(b)pennu cyfartaledd cyfnod arhosiad y cyfryw ddisgyblion mewn ysgolion o'r fath, a
(c)nodi'r trefniadau y mae'r awdurdod wedi eu sefydlu ar gyfer monitro faint o ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a gofrestrir mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod.
(2) Rhaid i'r atodiadau ym mhob cynllun llawn mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol yn union cyn blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw nodi'r trefniadau y mae'r awdurdod wedi eu sefydlu i gynorthwyo disgyblion sy'n blant i deithwyr.
26.—(1) Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys—
(a)esboniad o sut y mae'r awdurdod yn bwriadu monitro a gwerthuso—
(i)ei gyraeddiadau mewn perthynas â phob un o'r blaenoriaethau a'r gweithgareddau y cyfeirir atynt yn rheoliad 7, gan gynnwys sut y mae'r awdurdod yn bwriadu monitro a gwerthuso cyraeddiadau'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion ac ysgolion meithrin a gynhelir yn ei ardal,
(ii)ei weithgareddau a'i gyraeddiadau mewn perthynas â gweithredu ei bolisïau a'i gynigion y cyfeirir atynt yn rheoliadau 8 a 10,
(iii)ei weithgareddau a'i gyraeddiadau mewn perthynas â chyrraedd y safonau addysgol y cyfeirir atynt yn rheoliad 10,
(iv)ei weithgareddau a'i gyraeddiadau mewn perthynas â chyflawni'r targedau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11, a
(v)defnydd yr awdurdod o adnoddau i gefnogi'r cynllun;
(b)asesiad gan yr awdurdod—
(i)i ba raddau y mae'r canlyniadau ar gyfer y flwyddyn ysgol ddwy flynedd cyn blwyddyn lawn gyntaf y cynllun o dan sylw wedi cyflawni'r targedau terfynol a osodwyd ar gyfer y flwyddyn honno, a
(ii)i ba raddau y mae'r targedau a osodwyd ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun o dan sylw yn wahanol i'r targedau ar gyfer yr un flwyddyn honno fel y cawsant eu gosod yng nghynllun atodol diweddaraf yr awdurdod;
(c)gwerthusiad gan yr awdurdod o'i weithgareddau a'i gyraeddiadau yn ystod cyfnod y cynllun llawn blaenorol—
(i)mewn perthynas â'r blaenoriaethau a ganfyddir ar gyfer codi safonau addysg, a
(ii)mewn perthynas â'r blaenoriaethau ar gyfer gwella ysgolion a gweithgareddau sy'n ymwneud â hynny,
fel y cawsant eu gosod yn y cynllun llawn blaenorol; ac
(ch)ym mhob cynllun llawn heblaw cynllun llawn 2002—05, i ba raddau y mae'r awdurdod wedi gweithredu'r polisi a'r strategaeth y cyfeirir atynt yn rheoliad 9.
(2) Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriadau at gynllun llawn yn cynnwys unrhyw addasiadau a wneir i'r cynllun hwnnw o dan adran 7 o Ddeddf 1998.
27. Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys disgrifiad o'r ymgynghori a wnaed gan yr awdurdod wrth baratoi'r cynllun gan gynnwys, yn benodol—
(a)nifer y personau a'r math o bersonau yr ymgynghorwyd â hwy;
(b)crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghori; ac
(c)sut y cafodd yr atebion hynny eu hadlewyrchu, os o gwbl, yn y cynllun.
28. Rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn gynnwys disgrifiad—
(a)o strwythur pwyllgorau yr awdurdod sy'n berthnasol ar gyfer darparu'r gwasanaeth addysg; a
(b)o strwythur trefniadol yr awdurdod sy'n berthnasol ar gyfer darparu'r gwasanaeth addysg a chefnogaeth ar gyfer gwella ysgolion.
29. Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun atodol gynnwys crynodeb gan yr awdurdod o'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw ddiffygion gwirioneddol neu ddiffygion a ddisgwylir wrth gyflawni ei dargedau yn y cynllun blaenorol, p'un ai cynllun llawn neu gynllun atodol.
30.—(1) Yn y datganiad o gynigion a gynhwysir mewn cynllun atodol rhaid i'r awdurdod osod targedau mewn cysylltiad â'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), fel a ganlyn—
(a)yn y cynllun atodol cyntaf, targedau ar gyfer yr ail a'r drydedd flwyddyn yng nghyfnod y cynllun llawn;
(b)yn yr ail gynllun atodol, targedau ar gyfer y drydedd flwyddyn yng nghyfnod y cynllun llawn ac ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun llawn dilynol.
(2) Dyma'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a)cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol dau fel y'u nodir yn rheoliad 12,
(b)cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol tri fel y'u nodir yn rheoliad 13,
(c)cyraeddiadau disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed fel y'u nodir yn rheoliad 14,
(ch)canran y disgyblion na chyflwynwyd eu henwau i sefyll arholiadau fel y'i nodir yn rheoliad 15,
(d)nifer y gwaharddiadau parhaol fel y'i nodir yn rheoliad 16,
(dd)y gwaharddiadau cyfnod penodedig fel y'u nodir yn rheoliad 17, ac
(e)y gyfradd absenoldeb diawdurdod fel y'i nodir yn rheoliad 18,
heblaw bod y geiriau “rheoliad 11” yn cael eu hamnewid am y geiriau “rheoliad 30” ym mhob un o'r rheoliadau y cyfeirir atynt.
31. Rhaid i'r datganiad o gynigion a gynhwysir yn y cynllun atodol sy'n ymwneud â'r ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2003—
(a)nodi polisi'r awdurdod ar hybu ymwybyddiaeth hiliol mewn ysgolion; a
(b)nodi strategaeth yr awdurdod i atal a mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion.
32.—(1) Rhaid i'r atodiadau i gynllun atodol gynnwys—
(a)asesiad gan yr awdurdod i ba raddau y mae'r canlyniadau ar gyfer y flwyddyn ysgol ddwy flynedd cyn blwyddyn gyntaf y cynllun atodol o dan sylw wedi cyflawni'r targedau terfynol a osodwyd ar gyfer y flwyddyn honno; a
(b)asesiad gan yr awdurdod i ba raddau y mae'r targedau a osodwyd ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun atodol o dan sylw yn wahanol i'r targedau ar gyfer yr un flwyddyn honno fel y cawsant eu gosod yng nghynllun diweddaraf yr awdurdod (p'un ai cynllun llawn neu atodol).
(2) Rhaid i'r atodiadau i'r cynllun atodol sy'n ymwneud â'r ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 gynnwys adroddiad ar weithgareddau'r awdurdod i hybu ymwybyddiaeth hiliol mewn ysgolion ac atal a mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion.
(3) Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriadau at gynllun yn cynnwys unrhyw addasiadau a wneir i'r cynllun hwnnw o dan adran 7 o Ddeddf 1998.
33. Rhaid i'r atodiadau i gynllun atodol ddangos—
(a)nifer y disgyblion sy'n destun datganiad a gofrestrwyd fel disgyblion mewn dosbarth prif-ffrwd mewn ysgolion prif-ffrwd a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun;
(b)nifer y disgyblion sy'n destun datganiad naill ai a gofrestrwyd fel disgyblion mewn dosbarth arbennig neu sy'n cael darpariaeth adnoddau arbennig mewn ysgolion prif-ffrwd a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun; ac
(c)nifer y disgyblion a gofrestrwyd mewn ysgolion arbennig a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun.
34. Rhaid i'r atodiadau i'r cynllun atodol sy'n ymwneud â'r ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 gynnwys, mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2002—
(a)cyfanswm y disgyblion o leiafrifoedd ethnig yr oedd yr awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer yn y flwyddyn ysgol yn union cyn cyfnod y cynllun, a
(b)dadansoddiad o darddiad ethnig y disgyblion hynny,
fel y dangosir hwy yn y ffurflen Gyfrifiad Ysgolion a gyflwynir i'r Cynulliad Cenedlaethol gan yr awdurdod.
35. Rhaid i'r atodiadau i'r cynllun atodol sy'n ymwneud â'r ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2003, mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2002—
(a)pennu faint o ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a gofrestrir mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod,
(b)pennu cyfartaledd cyfnod arhosiad disgyblion sy'n blant i deithwyr mewn ysgolion o'r fath, a
(c)nodi'r trefniadau y mae'r awdurdod wedi eu sefydlu ar gyfer monitro faint o ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a gofrestrir mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(12).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Ebrill 2002
(Rheoliad 14)
1.—(1) At ddibenion rheoliad 14, bydd cwestiynau ynghylch—
(a)pa ddyfarniad cymhwyster galwedigaethol sy'n cyfateb i ba radd arholiad TGAU,
(b)y cyfwerthedd rhwng canlyniadau arholiadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol, ac
(c)y cyfwerthedd rhwng canlyniadau arholiadau TGAU a chanlyniadau arholiadau cwrs byr TGAU,
yn cael eu penderfynu yn unol ag is-baragraffau (2) i (8).
(2) Caiff GNVQ Canolradd llawn, neu NVQ ar lefel 2, eu trin fel pe baent yn cyfateb i radd A* i C mewn pedwar pwnc TGAU.
(3) Caiff GNVQ Sylfaen llawn, neu NVQ ar lefel 1, eu trin fel pe baent yn cyfateb i radd D i G mewn pedwar pwnc TGAU.
(4) Caiff GNVQ Rhan Un (lefel Canolradd) ei drin fel pe bai'n cyfateb i radd A* i C mewn dau bwnc TGAU.
(5) Caiff GNVQ Rhan Un (lefel Sylfaen) ei drin fel pe bai'n cyfateb i radd D i G mewn dau bwnc TGAU.
(6) Caiff Uned Iaith GNVQ (lefel Ganolradd) ei drin fel pe bai'n cyfateb i radd A* mewn hanner pwnc TGAU.
(7) Caiff Uned Iaith GNVQ (lefel Sylfaen) ei drin fel pe bai'n cyfateb i radd D mewn hanner pwnc TGAU.
(8) Caiff gradd mewn arholiad sy'n gysylltiedig â chwrs byr TGAU ei drin fel pe bai'n cyfateb i'r radd honno mewn hanner pwnc TGAU.
2. At ddibenion gosod y targedau a bennir yn rheoliad 11, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at ennill neu ddyfarnu—
(a)gradd mewn arholiad TGAU,
(b)cymhwyster galwedigaethol, neu
(c)gradd mewn arholiad cwrs byr TGAU,
fel pe bai'n gyfeiriad at ddyfarnu neu ennill gradd neu gymhwyster erbyn diwedd y flwyddyn ysgol y mae gofyn gosod targedau o'r fath yn rhinwedd y rheoliad hwnnw mewn perthynas â hi.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 1999 heblaw am yr eithriad sy'n ymwneud â dilysrwydd y cynlluniau sydd eisoes yn bodoli, ac maent yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.
Mae adran 6 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod addysg lleol baratoi cynllun datblygu addysg (a elwir yng Nghymru yn gynllun strategol addysg) ar gyfer eu hardal.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chynlluniau llawn sy'n cwmpasu cyfnod o 3 blynedd a chynlluniau atodol ar gyfer ail a thrydedd flwyddyn y cynllun llawn, gan gynnwys y cyfnod y mae'n rhaid i'r datganiad o gynigion a gynhwysir yn y cynlluniau ymwneud ag ef (rheoliad 4), y cyfnodau y mae'n rhaid paratoi'r cynlluniau rhyngddynt a'r dyddiad y mae'n ofynnol cyflwyno'r cynlluniau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (rheoliad 5) a darpariaethau ynghylch cyhoeddi'r cynlluniau a chyflenwi copïau (rheoliad 6).
Mae Rhan II o'r Rheoliadau yn nodi materion y mae'n rhaid i'r datganiad o'r cynigion mewn cynllun llawn ymdrin â hwy. Mae'r rhain yn cynnwys blaenoriaethau'r awdurdod ar gyfer codi safonau a'r gweithgareddau y bydd yn ymgymryd â hwy er mwyn mynd i'r afael â'r blaenoriaethau hynny a gosod targedau cynnydd ar gyfer y blaenoriaethau hynny (rheoliad 7); polisi'r awdurdod ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig a gweithgareddau i hybu'r polisïau hynny a gosod targedau cynnydd ar gyfer y blaenoriaethau hynny (rheoliad 8); polisi'r awdurdod ar hybu ymwybyddiaeth hiliol a'i strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion (yn y cynlluniau llawn o 2005 ymlaen) (rheoliad 9); polisi'r awdurdod ar addysg i blant sy'n derbyn gofal (rheoliad 10); pennu targedau ar gyfer blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn y cynllun (rheoliad 11); cyraeddiadau y mae'n rhaid pennu targedau mewn perthynas â hwy ar gyfer disgyblion yng nghyfnodau allweddol dau a thri ac ar gyfer disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed (rheoliadau 12, 13 ac 14); targedau ar gyfer cyflwyno enwau disgyblion fydd yn 16 oed ar gyfer sefyll arholiadau (rheoliad 15); targedau ar gyfer gwahardd yn barhaol ac am gyfnod penodedig ac absenoldebau diawdurdod (rheoliadau 16, 17 a 18); a chrynodeb o'r wybodaeth a defnyddir gan yr awdurdod wrth bennu ei dargedau (rheoliad 19).
Mae Rhan III o'r Rheoliadau yn nodi'r deunydd y mae'n rhaid i'r atodiadau i gynllun llawn eu cynnwys. Mae'r rhain yn cynnwys disgrifiad o nodweddion allweddol yr awdurdod (rheoliad 20); tabl sy'n dangos defnydd yr awdurdod o adnoddau i gefnogi cynllun llawn (rheoliad 21); tabl sy'n dangos gwybodaeth atodol ar blant ag anghenion addysgol arbennig a disgrifiad o drefniadau'r awdurdod ar gyfer monitro safonau addysgol plant o'r fath (rheoliad 22); gwybodaeth ar ddisgyblion o leiafrifoedd ethnig (mewn cynlluniau llawn o 2005 ymlaen) (rheoliad 23); gwybodaeth atodol ar blant sy'n derbyn gofal (rheoliad 24); gwybodaeth ar ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a threfniadau'r awdurdod i gynorthwyo disgyblion o'r fath (mewn cynlluniau llawn o 2005 ymlaen) (rheoliad 25); esboniad o gynigion yr awdurdod ar gyfer monitro ei berfformiad o dan y cynllun (rheoliad 26); disgrifiad o'r ymgynghori a wnaed gan yr awdurdod wrth baratoi'r cynllun (rheoliad 27); a disgrifiad o strwythur pwyllgorau a strwythur trefniadol yr awdurdod (rheoliad 28).
Mae Rhan IV o'r Rheoliadau yn nodi'r anghenion ar gyfer cynlluniau atodol. Mae'r rhain yn cynnwys crynodeb o'r camau a gynigir i fynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion wrth gyflawni targedau (rheoliad 29); datganiad o gynigion sy'n cynnwys diweddariad o holl dargedau'r awdurdod ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol (rheoliad 30); polisi'r awdurdod ar hybu ymwybyddiaeth hiliol a'i strategaeth ar fynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion, mewn perthynas yn unig â'r cynllun atodol ar gyfer 2003—05 (rheoliad 31); atodiad sy'n cynnwys asesiad gan yr awdurdod o'r graddau y mae'r targedau wedi'u cyflawni (rheoliad 32); atodiad sy'n cynnwys gwybodaeth ystadegol ar ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig (rheoliad 33); gwybodaeth ar ddisgyblion o leiafrifoedd ethnig (yn y cynllun atodol ar gyfer 2003—05 yn unig) (rheoliad 34); a gwybodaeth ar ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a threfniadau'r awdurdod i gynorthwyo'r cyfryw ddisgyblion (yn y cynllun atodol ar gyfer 2003—05 yn unig) (rheoliad 35).
1998 p.31. I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 142(1).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Y gorchmynion priodol sydd mewn grym ar hyn o bryd yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 1997, O.S. 1997/2009, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1977 a Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997, O.S. 1977/2010, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1976 ac O.S. 2001/889 (Cy.40).
O.S. 1999/101 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/911 (Cy.40), O.S 2001/495 (Cy.22) ac O.S. 2002/136 (Cy.19).
O.S. 1995/2089, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/2624, O.S. 1999/2267 ac O.S. 2001/1109 (Cy.53).
Mewnosodwyd adran 332A gan adran 2 o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: