Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN IVCYNLLUNIAU ATODOL

Gwella Ysgolion

29.  Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun atodol gynnwys crynodeb gan yr awdurdod o'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw ddiffygion gwirioneddol neu ddiffygion a ddisgwylir wrth gyflawni ei dargedau yn y cynllun blaenorol, p'un ai cynllun llawn neu gynllun atodol.

Targedau

30.—(1Yn y datganiad o gynigion a gynhwysir mewn cynllun atodol rhaid i'r awdurdod osod targedau mewn cysylltiad â'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), fel a ganlyn—

(a)yn y cynllun atodol cyntaf, targedau ar gyfer yr ail a'r drydedd flwyddyn yng nghyfnod y cynllun llawn;

(b)yn yr ail gynllun atodol, targedau ar gyfer y drydedd flwyddyn yng nghyfnod y cynllun llawn ac ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun llawn dilynol.

(2Dyma'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol dau fel y'u nodir yn rheoliad 12,

(b)cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol tri fel y'u nodir yn rheoliad 13,

(c)cyraeddiadau disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed fel y'u nodir yn rheoliad 14,

(ch)canran y disgyblion na chyflwynwyd eu henwau i sefyll arholiadau fel y'i nodir yn rheoliad 15,

(d)nifer y gwaharddiadau parhaol fel y'i nodir yn rheoliad 16,

(dd)y gwaharddiadau cyfnod penodedig fel y'u nodir yn rheoliad 17, ac

(e)y gyfradd absenoldeb diawdurdod fel y'i nodir yn rheoliad 18,

heblaw bod y geiriau “rheoliad 11” yn cael eu hamnewid am y geiriau “rheoliad 30” ym mhob un o'r rheoliadau y cyfeirir atynt.

Hybu ymwybyddiaeth hiliol

31.  Rhaid i'r datganiad o gynigion a gynhwysir yn y cynllun atodol sy'n ymwneud â'r ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2003—

(a)nodi polisi'r awdurdod ar hybu ymwybyddiaeth hiliol mewn ysgolion; a

(b)nodi strategaeth yr awdurdod i atal a mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion.

Monitro a gwerthuso

32.—(1Rhaid i'r atodiadau i gynllun atodol gynnwys—

(a)asesiad gan yr awdurdod i ba raddau y mae'r canlyniadau ar gyfer y flwyddyn ysgol ddwy flynedd cyn blwyddyn gyntaf y cynllun atodol o dan sylw wedi cyflawni'r targedau terfynol a osodwyd ar gyfer y flwyddyn honno; a

(b)asesiad gan yr awdurdod i ba raddau y mae'r targedau a osodwyd ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun atodol o dan sylw yn wahanol i'r targedau ar gyfer yr un flwyddyn honno fel y cawsant eu gosod yng nghynllun diweddaraf yr awdurdod (p'un ai cynllun llawn neu atodol).

(2Rhaid i'r atodiadau i'r cynllun atodol sy'n ymwneud â'r ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 gynnwys adroddiad ar weithgareddau'r awdurdod i hybu ymwybyddiaeth hiliol mewn ysgolion ac atal a mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion.

(3Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriadau at gynllun yn cynnwys unrhyw addasiadau a wneir i'r cynllun hwnnw o dan adran 7 o Ddeddf 1998.

Disgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig

33.  Rhaid i'r atodiadau i gynllun atodol ddangos—

(a)nifer y disgyblion sy'n destun datganiad a gofrestrwyd fel disgyblion mewn dosbarth prif-ffrwd mewn ysgolion prif-ffrwd a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun;

(b)nifer y disgyblion sy'n destun datganiad naill ai a gofrestrwyd fel disgyblion mewn dosbarth arbennig neu sy'n cael darpariaeth adnoddau arbennig mewn ysgolion prif-ffrwd a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun; ac

(c)nifer y disgyblion a gofrestrwyd mewn ysgolion arbennig a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol sy'n dod i ben yn union cyn cyfnod y cynllun.

Disgyblion o leiafrifoedd ethnig

34.  Rhaid i'r atodiadau i'r cynllun atodol sy'n ymwneud â'r ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 gynnwys, mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2002—

(a)cyfanswm y disgyblion o leiafrifoedd ethnig yr oedd yr awdurdod yn darparu addysg ar eu cyfer yn y flwyddyn ysgol yn union cyn cyfnod y cynllun, a

(b)dadansoddiad o darddiad ethnig y disgyblion hynny,

fel y dangosir hwy yn y ffurflen Gyfrifiad Ysgolion a gyflwynir i'r Cynulliad Cenedlaethol gan yr awdurdod.

Disgyblion sy'n blant i deithwyr

35.  Rhaid i'r atodiadau i'r cynllun atodol sy'n ymwneud â'r ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2003, mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2002—

(a)pennu faint o ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a gofrestrir mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod,

(b)pennu cyfartaledd cyfnod arhosiad disgyblion sy'n blant i deithwyr mewn ysgolion o'r fath, a

(c)nodi'r trefniadau y mae'r awdurdod wedi eu sefydlu ar gyfer monitro faint o ddisgyblion sy'n blant i deithwyr a gofrestrir mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill