- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
16 Gorffennaf 2002
Yn dod i rym
1 Awst 2002
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education” yn adran 2(3) o Ddeddf 1996;
mae i “addysg uwch” yr ystyr a roddir i “higher education” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
ystyr “awdurdod addysg” (“education authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben â 31 Mawrth;
ystyr “Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad” (“Assembly Learning Grant Scheme”) yw'r Cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, ac sy'n nodi'r amodau ynghylch gwneud grant gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn, i ad-dalu gwariant a gymeradwywyd yr aiff awdurdodau addysg iddo wrth dalu Grantiau Dysgu'r Cynulliad o dan Reoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) (Cymru) 2002(3);
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedalethol Cymru;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
ystyr “grant” (“grant”) yw grant taladwy o dan adran 484 o Ddeddf 1996 yn unol â'r Rheoliadau hyn;
ystyr “gwariant a gymeradwywyd” (“approved expenditure”) yw unrhyw wariant a ragnodwyd ac a gymeradwywyd yn ôl y ddarpariaeth yn rheoliad 3;
ystyr “gwariant a ragnodwyd” (“prescribed expenditure”) yw gwariant gan awdurdod addysg at ddiben neu yng nghyswllt diben a bennir yn yr Atodlen;
ystyr “penderfynu” (“determine”) yw penderfynu drwy hysbysiad ysgrifenedig.
(2) Yn y Rheoliadau hyn y mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir ynddynt, y mae cyfeiriad mewn rheoliad at baragraff yn gyfeiriad at baragraff yn y rheoliad hwnnw, ac y mae cyfeiriad at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
3. Ni fydd grant ond yn daladwy mewn perthynas â gwariant a ragnodwyd yr aed iddo neu yr eir iddo mewn blwyddyn ariannol i'r graddau bod y gwariant hwnnw wedi ei gymeradwyo ar gyfer y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn.
4. Os—
(a)bydd awdurdod addysg yn mynd i wariant wrth wneud taliadau i unrhyw gorff neu bersonau eraill (gan gynnwys awdurdod addysg arall) sy'n mynd i wariant at neu yng nghyswllt dibenion addysgol, a
(b)y byddai'r gwariant gan dderbynnydd y taliadau neu unrhyw ran ohonynt yn wariant a ragnodwyd petai'n wariant yr awdurdod,
rhaid i daliadau o'r fath i'r graddau hynny gael eu trin fel gwariant a ragnodwyd at ddiben y Rheoliadau hyn.
5. Mae grant mewn perthynas â gwariant a gymeradwywyd i gael ei dalu ar gyfradd o 100 y cant o'r cyfryw wariant a gymeradwywyd.
6.—(1) Nid yw grant i gael ei dalu ac eithrio fel ymateb i gais ysgrifenedig oddi wrth awdurdod addysg i'r Cynulliad Cenedlaethol, wedi'i ddilysu gan swyddog yr awdurdod ac sy'n gyfrifol am weinyddu eu materion ariannol neu ddirprwy y swyddog hwnnw.
(2) Rhaid i geisiadau am dalu grant ymwneud â gwariant dros un neu ragor o gyfnodau sy'n dechrau ar neu wedi i'r Rheoliadau hyn ddod i rym a rhaid iddynt bennu'r gwariant a gymeradwywyd y gwneir cais mewn perthynas ag ef ac yr aeth neu yr amcangyfrifir yr aiff yr awdurdod addysg iddo yn ystod pob cyfnod o'r fath.
(3) Pan gyflwynir cais sy'n ymwneud â gwariant a gymeradwywyd yr aed iddo neu yr amcangyfrifir yr eir iddo yn ystod unrhyw un neu ragor o gyfnodau mewn unrhyw flwyddyn ariannol o dan baragraff (1) caiff y cyfryw daliad ag y penderfyna'r Cynulliad Cenedlaethol arno wneud yn ddi-oed.
(4) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud taliad o dan baragraff (3), nid yw grant pellach i gael ei dalu mewn perthynas â'r gwariant yr eir iddo yn ystod y cyfnod hwnnw neu'r cyfnodau hynny hyd nes i ddatganiad—
(a)am bob cyfnod o'r fath, neu
(b)am y flwyddyn ariannol y mae pob cyfnod o'r fath yn syrthio o'i mewn,
gael ei gyflwyno yn unol â pharagraff (6)(a).
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu bod rhaid i unrhyw dandaliad neu ordaliad o grant sy'n aros yn weddill wedi iddo dderbyn datganiad yr awdurdod addysg ac y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(a) (heb ragfarnu addasiad unrhyw dandaliad neu ordaliad o dan unrhyw ddarpariaeth arall) gael ei addasu naill ai drwy daliad rhwng yr awdurdod a'r Cynulliad Cenedlaethol neu drwy gael ei gymryd i ystyriaeth mewn unrhyw daliad canlynol o grant i'r awdurdod addysg.
(6) Rhaid i bob awdurdod addysg sydd wedi cael neu sy'n ceisio cael taliad grant mewn perthynas â gwariant yr aed iddo neu yr eir iddo yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol neu gyfnod ohoni, cyn 31 Hydref yn y flwyddyn ariannol ganlynol neu cyn gynted ag sy'n ymarferol wedi'r dyddiad hwnnw—
(a)gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatganiad y mae'n rhaid iddo bennu'r gwariant a gymeradwywyd y gwnaed cais neu y gwneir cais am grant mewn perthynas ag ef, ac yr aeth yr awdurdod addysg iddo yn ystod y flwyddyn honno neu gyfnod ohoni; a
(b)sicrhau cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol dystysgrif a lofnodwyd gan yr archwilydd a benodir gan y Comisiwn Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd cymwys i'r cyfryw benodiad yn rhinwedd adran 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998(4) ac sy'n ardystio bod y manylion a nodwyd yn y datganiad neu'r datganiadau a gyflwynwyd gan yr awdurdod yn unol â'r paragraff hwn yn ei farn ef wedi'u nodi'n deg a bod y gwariant yr aed iddo yn wariant a gymeradwywyd at ddiben y Rheoliadau hyn.
(7) Ac eithrio'r flwyddyn gyntaf wedi i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, nid yw grant i gael ei dalu mewn perthynas â gwariant yr aed iddo neu'r eir iddo gan awdurdod addysg yn y cyfnod 1 Ionawr i 31 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn ariannol neu unrhyw gyfnod canlynol os talwyd grant i'r awdurdod mewn perthynas â gwariant mewn blwyddyn ariannol flaenorol ac nid yw'r Cynulliad Cenedlaethol eto wedi cael tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (6)(b) am y flwyddyn honNo.
(8) Rhaid i unrhyw dandaliad neu ordaliad o grant sy'n aros yn weddill, wedi cael tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mahragraff (6)(b) gael ei addasu drwy daliad rhwng yr awdurdod addysg a'r Cynulliad Cenedlaethol, ond os nad yw'r awdurdod yn cydymffurfio gellir ei addasu mewn unrhyw daliad o grant a wneir i'r awdurdod wedi hynny.
(9) Yn y rheoliad hwn ystyr “cyfnod” yw un o'r cyfnodau canlynol—
(a)1 Ebrill i 31 Gorffennaf;
(b)1 Awst i 31 Rhagfyr;
(c)1 Ionawr i 31 Mawrth.
7. Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol, adeg cymeradwyo'r gwariant at ddiben y Rheoliadau hyn, yn gofyn am wybodaeth mewn perthynas â'r diben hwnnw, bydd talu grant yn amodol ar gynnwys yr wybodaeth honno yng nghais yr awdurdod addysg am dalu'r grant.
8.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, wedi ymgynghori â'r awdurdod addysg, o bryd i'w gilydd benderfynu ar amodau pellach y bydd gwneud unrhyw daliad o dan y Rheoliadau hyn yn ddibynnol ar eu cyflawni.
(2) Pan fydd amodau wedi eu penderfynu arnynt o dan y rheoliad hwn ni ellir talu grant oni bai i'r cyfryw amodau gael eu cyflawni neu eu tynnu o dan baragraff (3).
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu tynnu neu, wedi ymgynghori â'r awdurdod addysg, amrywio amodau y penderfynwyd arnynt o dan y rheoliad hwn.
9. Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y gwnaed taliad grant iddo, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn, roi iddo'r cyfryw wybodaeth bellach ag y gall fod ei hangen arno i'w alluogi i wirio bod unrhyw grant a dalwyd wedi cael ei dalu yn briodol o dan y Rheoliadau hyn.
10.—(1) Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y gwnaed taliad grant iddo gydymffurfio â'r cyfryw ofynion ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt yn yr achos dan sylw.
(2) Caiff gofynion y penderfynir arnynt o dan y rheoliad hwn gynnwys yn benodol ofynion o ran—
(a)ad-dalu'r grant; neu
(b)talu llog ar symiau sy'n ddyledus i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2002
Rheoliadau 2, 3 a 7
Gwneud dyfarndaliadau addysg ôl-orfodol o'r enw Grantiau Dysgu'r Cynulliad o dan Reoliadau Awdurdodau Llywodraeth Leol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol)(Cymru) 2002 i bersonau—
(a)sy'n dilyn cwrs o addysg bellach neu addysg uwch a ddynodwyd at ddibenion Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad,
(b)nad yw eu hadnoddau ariannol, fel y'u haseswyd yn unol â darpariaethau'r Cynllun hwnnw, yn uwch na lefel yr adnoddau ariannol a bennir yn yr amodau cymhwyster ar gyfer y Cynllun hwnnw, ac
(c)sy'n bodloni amodau cymhwyster eraill (os oes rhai) ar gyfer y Cynllun hwnnw,
mewn perthynas â'u costau byw a chostau eraill (ond gan eithrio costau sy'n cynnwys cost ffioedd mewn perthynas â neu yng nghyswllt cyrsiau).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 484 o Ddeddf Addysg 1996 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i wneud rheoliadau sy'n darparu ar gyfer talu grant mewn perthynas â gwariant yr aed iddo neu yr eir iddo gan awdurdodau addysg lleol at ddibenion neu yng nghyswllt dibenion addysgol yr ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol y dylai'r awdurdodau gael eu hannog i fynd iddynt er budd addysg yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu'r cyfryw grant.
Mae Rheoliad 3 yn darparu nad yw grant yn daladwy ond mewn perthynas â'r diben a bennir yn yr Atodlen, a dim ond i'r graddau y cymeradwyir y gwariant gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae Rheoliad 4 yn darparu ar gyfer talu grant mewn perthynas â gwariant yr aed iddo neu yr eir iddo gan awdurdodau addysg lleol wrth dalu i drydydd partïon ac a fyddai'n gymwys ar gyfer grant petai'n wariant gan yr awdurdod.
Mae Rheoliad 5 yn darparu bod grant yn daladwy ar gyfradd o 100%.
Mae Rheoliadau 6 i 8 yn nodi'r amodau sy'n gymwys mewn perthynas â thalu grant, gan gynnwys gofynion archwilio. Mae Rheoliad 9 yn nodi nifer o ofynion eraill y mae'n rhaid i'r awdurdodau addysg lleol, y gwnaed y taliadau grant iddynt, gydymffurfio â hwy. Mae Rheoliad 10 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol osod gofynion ychwanegol.
Mae'r Atodlen yn nodi at ba ddiben neu yng nghyswllt pa ddiben y ceir talu grant, sef i wneud dyfarndaliadau addysg ôl-orfodol yng nghyswllt y cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o'r enw Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad. O dan y Cynllun caiff awdurdodau addysg lleol dalu dyfarndaliadau i bobl sy'n dilyn cyrsiau addysg bellach neu addysg uwch ac a ddynodwyd at ddibenion y Cynllun, ac sy'n bodloni'r amodau o ran adnoddau ariannol a meini prawf cymhwyster eraill y Cynllun. Diben y Cynllun yw galluogi pobl sy'n brin eu hadnoddau ariannol i gymryd mantais o gyfleoedd addysgol sydd ar gael iddynt, drwy leihau caledi ariannol.
1996 p.56; diwygiwyd adrannau 484 a 489 gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraffau 125 a 126 o Atodlen 30 iddi. Am ystyr “regulations” gweler adran 579(1).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys