- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
AER GLÅN, CYMRU
Wedi'u gwneud
17 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2002
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002 a byddant yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2.—(1) Diwygir Atodlen 1 i Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001(3) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 3(a)—
(a)yn lle “85” rhoddir “95”; a
(b)ar ôl “rhwymwr triagl ac asid ffosfforig” mewnosodir “neu rwymwr organig”.
(3) Ym mharagraff 5(a), dileir “a lleithder (sef gweddill y pwysau)”.
(4) Ar ôl paragraff 10, mewnosodir—
“10A. Brics glo Dragonglow, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—
(a)sy'n cynnwys llwch y tŵr (sef rhyw 95 y cant o gyfanswm y pwysau) a rhwymwr wedi ei seilio ar resin (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;
(c)sydd yn frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd ac sy'n pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac
(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1 y cant o sylffwr o gyfanswm y pwysau.
10B. Brics glo Dragonbrite, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—
(a)sy'n cynnwys llwch y tŵr (sef rhyw 95 y cant o gyfanswm y pwysau) a rhwymwr wedi ei seilio ar resin (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;
(c)sydd yn frics glo ar siâp gobennydd, wedi eu marcio â'r llythyren “T” ar un ochr ac sy'n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac
(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1 y cant o sylffwr o gyfanswm y pwysau.
(5) Ym mharagraffau 14, 27, 28 a 30, yn lle “Shildon, County Durham” rhoddir “Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln”.
(6) Ym mharagraff 14(a) a 28(a) ar ôl “rhwymwr organig”, ac ym mharagraff 27(a) ar ôl “rhwymwr organig sy'n caledu pan fo'n oer”, mewnosodir “neu rwymwr triagl ac asid ffosfforig”.
3. Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan reoliad 2(5) uchod, tanwyddau awdurdodedig o hyd fydd brics glo Homefire, brics glo Supertherm, brics glo Supertherm II a brics glo Thermac a weithgynhyrchwyd gan Coal Products Limited yn Shildon, County Durham cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Rhagfyr 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Pan fo mwg yn cael ei ollwng o simnai mewn ardal rheoli mwg a bod y simnai honno naill ai—
(a)yn simnai adeilad; neu
(b)yn simnai sydd yn gwasanaethu ffwrnais bwyler sefydlog neu beiriannau diwydiannol (heb fod yn simnai adeilad)
mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 yn darparu bod meddiannydd yr adeilad, neu, yn ôl y digwydd, y person sy'n meddu ar y bwyler neu'r peiriannau, yn euog o dramgwydd. Mae'n amddiffyniad os gellir dangos mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.
Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys i Gymru, yn diwygio ymhellach Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/3762 (Cy.311)) (“Rheoliadau 2001”), a gafodd eu diwygio o'r blaen gan Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/3996 (Cy. 327)), fel bod brics glo Dragonglow a Dragonbrite sy'n bodloni'r amodau a bennir yn rheoliad 2(3) yn danwydd awdurdodedig.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau amrywiol i Reoliadau 2001, ac yn adlewyrchu'r newidiadau canlynol—
(a)mae'r gweithgynhyrchwr wedi ychwanegu rhwymwr arall at frics glo Homefire, brics glo Supertherm, a brics glo Supertherm II; a
(b)mae brics glo Homefire, brics glo Supertherm, brics glo Supertherm II a brics glo Thermac erbyn hyn yn cael eu gweithgynhyrchu mewn lleoliad gwahanol.
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.
O.S. 2001/3762 (Cy. 311), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/3996 (Cy. 327).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys