- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliadau 4(1), 9(2), 10(1) a (4), 12(6) a (7)
1.1
Cyfnod Cyfartaleddu | Gwerth terfyn | Goddefiant(1) | Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn | |
---|---|---|---|---|
1. Terfyn gwerth fesul-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl | 1 awr | 350 μg/m3, y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 24 gwaith y flwyddyn galendr | 60 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2005 | 1 Ionawr 2005 |
2. Gwerth terfyn dyddiol ar gyfer diogelu iechyd pobl | 24 awr | 125 μg/m3, y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 3 gwaith y flwyddyn galendr | Dim un | 1 Ionawr 2005 |
3. Gwerth terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau | Y flwyddyn galendr a'r gaeaf (1 Hydref i 31 Mawrth) | 20 μg/m3 | Dim un |
1.2 500 μg/m3 wedi'i fesur dros dair awr o'r bron mewn mannau sy'n gynrychioliadol o ansawdd yr aer dros o leiaf 100 km2 neu barth neu grynhoad cyfan, p'un bynnag yw'r lleiaf.
1.3 Dylai'r manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd gynnwys o leiaf :
dyddiad, awr a lle y digwyddiad a'r rhesymau drosto, os ydynt yn hysbys;
unrhyw ragolygon ar gyfer:
newidiadau mewn crynodiad (gwella, sefydlogi, neu ddirywio), ynghyd â'r rhesymau dros y newidiadau hynny,
yr ardal ddaearyddol o dan sylw,
parhad y digwyddiad;
y math o boblogaeth a allai fod yn sensitif i'r digwyddiad;
rhagofalon sydd i'w cymryd gan y boblogaeth sensitif o dan sylw.
2.1
Cyfnod Cyfartaleddu | Gwerth terfyn | Goddefiant | Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn | |
---|---|---|---|---|
1. Gwerth terfyn fesul-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl | 1 awr | 200μg/m3 o NO2 y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 18 gwaith mewn blwyddyn galendr | 70 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canran flynyddol gyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2010 | 1 Ionawr 2010 |
2. Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl | Y flwyddyn galendr | 40μg/m3 o NO2 | 14 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canran flynyddol gyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2010 | 1 Ionawr 2010 |
3. Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu llystyfiant | Y flwyddyn galendr | 30 μg/m3 o NOx | Dim un |
2.2 400 μg/m3 wedi'i fesur dros dair awr o'r bron mewn lleoliadau sy'n gynrychioliadol o ansawdd yr aer dros o leiaf 100 km2 neu barth neu grynhoad cyfan, p'un bynnag yw'r lleiaf.
2.3 Dylai'r manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd gynnwys o leiaf:
dyddiad, awr a lle y digwyddiad a'r rhesymau drosto, os ydynt yn hysbys;
— unrhyw ragolygon ar gyfer:
newidiadau mewn crynodiad (gwella, sefydlogi, neu ddirywio), ynghyd â'r rhesymau dros y newidiadau hynny,
yr ardal ddaearyddol o dan sylw,
parhad y digwyddiad;
y math o boblogaeth a allai fod yn sensitif i'r digwyddiad;
y rhagofalon sydd i'w cymryd gan y boblogaeth sensitif o dan sylw.
Cyfnod Cyfartaleddu | Gwerth terfyn | Goddefiant | Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn | |
---|---|---|---|---|
1. Gwerth terfyn 24-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl | 24 awr | Rhaid peidio â mynd yn uwch na 50μg/m3 o PM10 fwy na 35 gwaith y flwyddyn galendr | 10 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2005. | 1 Ionawr 2005 |
2. Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl | Blwyddyn galendr | 40 μg/m3 o PM10 | 3.2 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2005. | 1 Ionawr 2005 |
Cyfnod Cyfartaleddu | Gwerth terfyn | Goddefiant | Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn | |
---|---|---|---|---|
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl | Blwyddyn galendr | 0.5 μg/m3 | 0.2 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr bob blwyddyn wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2005. | 1 Ionawr 2005 |
Cyfnod Cyfartaleddu | Gwerth terfyn | Goddefiant | Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn | |
---|---|---|---|---|
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl | Blwyddyn galendr | 5 μg/m3 | 5 μg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng ar 1 Ionawr 2006 a phob 12 mis wedyn gan 1 μg/m3 nes cyrraedd 0 μg/m3 erbyn 1 Ionawr 2010. | 1 Ionawr 2010 |
Cyfnod Cyfartaleddu | Gwerth terfyn | Goddefiant | Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn | |
---|---|---|---|---|
Detholir crynodiad mwyafswm cymedr o 8-awr yn ddyddiol drwy archwilio cyfartaleddau cyfredol 8-awr, wedi'u cyfrifo o ddata fesul awr a'u diweddaru bob awr. Priodolir pob 8-awr gyfartalog a gyfrifir felly i'r diwrnod pan ddaw i ben, h.y. y cyfnod cyfrifo cyntaf ar gyfer unrhyw ddiwrnod fydd y cyfnod o 17:00 ar y diwrnod blaenorol hyd at 01:00 ar y diwrnod hwnnw; y cyfnod cyfrifo olaf ar gyfer unrhyw ddiwrnod fydd y cyfnod o 16:00 hyd at 24:00 ar y diwrnod hwnnw. | ||||
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl | Mwyafswm cymedr o 8-awr yn ddyddiol | 10 mg/m3 | 4 mg/m3 ar 1 Ionawr 2003, gan ostwng pob 12 mis wedyn gan 2 mg/m3 nes cyrraedd 0 mg/m3 erbyn 1 Ionawr 2005. | 1 Ionawr 2005 |
Rheoliadau 6(5) a 7(1)
Bydd y trothwyon asesu uchaf ac isaf canlynol yn gymwys:
Diogelu iechyd | Diogelu ecosystemau | |
---|---|---|
Trothwy asesu uchaf | 60 % o'r gwerth terfyn 24-awr (75 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 3 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr) | 60 % o werth terfyn y gaeaf (12 μg/m3 ) |
Trothwy asesu isaf | 40 % o'r gwerth terfyn 24-awr (50 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 3 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr) | 40 % o werth terfyn y gaeaf (8 μg/m3 ) |
Gwerth terfyn fesul-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl (NO2) | Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl(NO2) | Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu llystyfiant(NOx) | |
---|---|---|---|
Trothwy asesu uchaf | 70 % o'r gwerth terfyn (140 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 18 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr) | 80 % o'r gwerth terfyn (32 μg/m3 ) | 80 % o'r gwerth terfyn (24 μg/m3 ) |
Trothwy asesu isaf | 50 % o'r gwerth terfyn (100 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 18 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr) | 65 % o'r gwerth terfyn (26 μg/m3 ) | 65 % o'r gwerth terfyn (19.5 μg/m3 ) |
(c)
Cyfartaledd 24-awr | Cyfartaledd blynyddol | |
---|---|---|
Trothwy asesu uchaf | 60 % o'r gwerth terfyn (30 μg/m3, y mae'n rhaid peidio mynd yn uwch nag ef fwy na saith gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr) | 70 % o'r gwerth terfyn(14 μg/m3 ) |
Trothwy asesu isaf | 40 % o'r gwerth terfyn (20 μg/m3 , y mae'n rhaid peidio mynd yn uwch nag ef fwy na saith gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr) | 50 % o'r gwerth terfyn (10 μg/m3 ) |
Cyfartaledd blynyddol | |
---|---|
Trothwy asesu uchaf | 70 % o'r gwerth terfyn (0.35 μg/m3 ) |
Trothwy asesu isaf | 50 % o'r gwerth terfyn (0.25 μg/m3 ) |
Cyfartaledd blynyddol | |
---|---|
Trothwy asesu uchaf | 70 % o'r gwerth terfyn (3.5 μg/m3 ) |
Trothwy asesu isaf | 40 % o'r gwerth terfyn (2 μg/m3 ) |
Cyfartaledd wyth-awr | |
---|---|
Trothwy asesu uchaf | 70 % o'r gwerth terfyn (7 mg/m3 ) |
Trothwy asesu isaf | 50 % o'r gwerth terfyn (5 mg/m3 ) |
Rhaid crynhoi gormodeddau sy'n uwch na'r trothwyon asesu uchaf ac isaf ar sail crynodiadau yn ystod y pum mlynedd blaenorol os oes data digonol ar gael. Bernir yr aed yn uwch na'r trothwy asesu os bu gormodedd yn ystod o leiaf tair blwyddyn wahanol allan o'r pum mlynedd flaenorol.
Os oes llai na phum mlynedd o ddata ar gael, gall ymgyrchoedd mesur byr eu parhad yn ystod y cyfnod hwnnw yn y flwyddyn ac yn y mannau sy'n debyg o fod yn nodweddiadol o'r lefelau llygredd uchaf gael eu cyfuno â chanlyniadau a geir o'r wybodaeth o restrau allyriannau a gwaith modelu er mwyn canfod gormodeddau sy'n uwch na'r trothwyon asesu uchaf ac isaf.
Rheoliad 8(3) ac 8(5)
Caiff yr ystyriaethau canlynol eu cymhwyso at fesuriadau sefydlog.
(a)Dylai pwyntiau samplu a gyferir at ddiogelu iechyd pobl gael eu lleoli:
(i)i ddarparu data am yr ardaloedd mewn parthau a chrynoadau lle ceir y crynodiadau uchaf y mae'r boblogaeth yn debyg o gael ei datguddio iddynt yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol am gyfnod sy'n arwyddocaol mewn perthynas â chyfnod cyfartaleddu y gwerth(oedd) terfyn;
(ii)i ddarparu data am lefelau mewn ardaloedd eraill yn y parthau a'r crynoadau sy'n gynrychioliadol o ddatguddiad y boblogaeth gyffredinol.
Yn gyffredinol dylai pwyntiau samplu gael eu lleoli i osgoi mesur micro-amgylcheddau bach iawn yn y cyffiniau. Fel canllaw, dylai pwynt samplu gael ei leoli i fod yn gynrychioliadol o ansawdd yr aer mewn ardal amgylchynol heb fod yn llai na 200 m2 ar safleoedd sy'n ymwneud â thraffig ac o sawl cilometr sgwâr ar safleoedd â chefndir trefol.
Hefyd, os oes modd, dylai'r pwyntiau samplu fod yn gynrychioliadol o fannau tebyg nad ydynt yn eu cyffiniau.
Dylid cymryd i ystyriaeth yr angen i leoli pwyntiau samplu ar ynysoedd, os oes angen gwneud hynny i ddiogelu iechyd pobl.
(b)Dylai pwyntiau samplu sydd wedi'u targedu ar ddiogelu ecosystemau neu lystyfiant gael eu lleoli fwy nag 20 km o grynoadau neu fwy na 5 km o fannau adeiledig eraill, sefydliadau diwydiannol neu draffyrdd. Fel canllaw, dylai pwynt samplu gael ei leoli i fod yn gynrychioliadol o ansawdd yr aer mewn ardal amgylchynol o 1000 km2 o leiaf. Gall pwynt samplu gael ei leoli yn llai pell i ffwrdd neu i fod yn gynrychioliadol o ansawdd aer mewn ardal lai estynedig, gan gymryd yr amodau daearyddol i ystyriaeth.
Dylid cymryd i ystyriaeth yr angen i asesu ansawdd yr aer ar ynysoedd.
Dylid bodloni'r canllawiau canlynol cyn belled ag y bo'n ymarferol:
dylai'r llif o amgylch profiedydd samplu y fewnfa fod yn ddigyfyngiad heb unrhyw rwystrau sy'n effeithio ar lif yr aer yng nghyffiniau'r samplwr (rai metrau i ffwrdd fel rheol o adeiladau, balconïau, coed, a rhwystrau eraill ac o leiaf 0.5m o'r adeilad agosaf yn achos pwyntiau samplu sy'n cynrychioli ansawdd yr aer ar linell yr adeiladau);
yn gyffredinol, dylai pwynt samplu'r fewnfa fod rhwng 1.5 m (y parth anadlu) a 4 m uwchlaw'r ddaear. Gall fod angen safleoedd uwch (hyd at 8 m) o dan rai amgylchiadau. Gall safle uwch fod yn briodol hefyd os yw'r orsaf yn cynrychioli ardal fawr;
ni ddylai profiedydd y fewnfa gael ei leoli yng nghyffiniau ffynonellau er mwyn osgoi mewnlifiad uniongyrchol o allyriannau sydd heb eu cymysgu â'r aer amgylchynol;
dylai allfa wacáu y samplwr gael ei lleoli er mwyn osgoi ailgylchu'r aer o'r allfa i fewnfa'r samplwr;
lleoli samplwr sy'n anelu at draffig:
ar gyfer pob llygryn, dylai'r pwyntiau samplu hyn fod o leiaf 25 m o ymyl cyffyrdd pwysig ac o leiaf 4 m o ganol y lôn draffig agosaf,
ar gyfer nitrogen deuocsid a carbon monocsid ni ddylai'r mewnfeydd fod yn fwy na 5 m o ymyl y cwrbyn,
ar gyfer mater gronynnol beulsen a phlwm, dylid lleoli'r mewnfeydd i fod yn gynrychioliadol o ansawdd yr aer yn ymyl llinell yr adeiladau.
Gall y ffactorau canlynol gael eu cymryd i ystyriaeth hefyd:
ffynonellau sy'n ymyrryd;
diogelwch;
hygyrchedd;
a oes pŵer trydan a chysylltiadau ffôn ar gael;
gwelededd y safle mewn perthynas â'i amgylchoedd;
diogelwch y cyhoedd a'r gweithredwyr;
a yw'n ddymunol cyd-leoli pwyntiau samplu gwahanol lygrynnau;
gofynion cynllunio.
Dylai'r gweithdrefnau ar gyfer dewis safleoedd gael eu dogfennu'n llawn adeg y dosbarthu drwy gyfrwng megis ffotograffau pwynt-cwmpawd o'r ardal amgylchynol a map manwl. Dylid adolygu'r safleoedd yn rheolaidd, gan ailadrodd y gwaith dogfennu, i sicrhau bod y meini prawf dewis yn aros yn ddilys dros amser.
Rheoliad 8(4)
Poblogaeth y crynhoad neu'r parth (miloedd) | Os yw'r crynodiadau yn uwch na'r trothwy asesu uchaf | Os yw'r crynodiadau uchaf rhwng y trothwy asesu uchaf a'r trothwy asesu isaf | Ar gyfer SO2 ac NO2 mewn crynoadau lle mae'r crynodiadau uchaf islaw'r trothwyon asesu isaf |
---|---|---|---|
0—250 | 1 | 1 | ddim yn gymwys |
250—499 | 2 | 1 | 1 |
500—749 | 2 | 1 | 1 |
750—999 | 3 | 1 | 1 |
1 000—1 499 | 4 | 2 | 1 |
1 500—1 999 | 5 | 2 | 1 |
2 000—2 749 | 6 | 3 | 2 |
2 750—3 749 | 7 | 3 | 2 |
3 750—4 749 | 8 | 4 | 2 |
4 750— 5 999 | 9 | 4 | 2 |
> 6 000 | 10 | 5 | 3 |
Ar gyfer NO2 a mater gronynnol: i gynnwys o leiaf un orsaf â chefndir trefol ac un orsaf sy'n cyfeirio at draffig — bydd y gofyniad hwn yn gymwys i bensen a charbon monocsid ar yr amod nad yw'n cynyddu nifer y pwyntiau samplu. |
(b)I asesu llygredd yng nghyffiniau ffynonellau pwynt, dylid cyfrifo nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gan gymryd i ystyriaeth ddwyseddau allyriannau, patrymau dosbarthiad tebygol y llygredd yn yr aer amgylchynol a datguddiad posibl y boblogaeth.
Os yw'r crynodiadau uchaf yn uwch na'r trothwy asesu uchaf | Os yw'r crynodiadau uchaf rhwng y trothwy asesu uchaf a'r trothwy asesu isaf |
---|---|
Mewn parthau ar ynysoedd, dylid cyfrifo nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gan gymryd i ystyriaeth batrymau dosbarthiad tebygol y llygredd yn yr aer amgylchynol a datguddiad posibl yr ecosystemau neu'r llystyfiant. | |
1 orsaf i bob 20,000 km2 | 1 orsaf i bob 40,000 km2 |
Rheoliad 8(5) a (8)
Mae'r amcanion ansawdd-data canlynol ar gyfer y cywirdeb y mae ei angen ar gyfer dulliau asesu, yr isafsymiau amser a'r gwaith cofnodi data yn sgil mesur yn cael eu nodi er mwyn arwain rhaglenni sicrwydd ansawdd.
Sylffwr deuocsid (SO2), nitrogen deuocsid (NO2) ac ocsidau nitrogen (NOx) | Mater gronynnol (PM10) a phlwm (Pb) | |
---|---|---|
Diffinnir cywirdeb y gwaith mesur fel y mae wedi'i nodi yn y “Guide to the Expression of Uncertainty of Measurements” (ISO 1993)(3) neu ISO 5725-1 “Accuracy (trueness and precision) of measurement methods and results” (ISO 1994)(4). Mae'r canrannau yn y tabl yn cael eu rhoi ar gyfer mesuriadau unigol wedi'u cyfartaleddu, dros y cyfnod a ystyrir, gan y gwerth terfyn, i gael cyfwng hyder o 95% (bias + dwy waith y gwyriad safonol). Dylai'r cywirdeb ar gyfer mesuriadau di-dor gael ei ddehongli fel pe bai'n gymwysadwy yng nghyffiniau'r gwerth terfyn priodol. Mae'r cywirdeb ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol wedi'i ddiffinio fel yr uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod a ystyrir gan y gwerth terfyn, heb gymryd amseriad y digwyddiadau i ystyriaeth. Nid yw'r gofynion ar gyfer isafsymiau cofnodi data ac isafsymiau amser yn cynnwys colli data wrth i'r offer gael eu calibradu neu eu cynnal-a-chadw fel rhan o'r drefn. Gall y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu gwneud mesuriadau ar hap yn lle mesuriadau di-dor ar gyfer mater gronynnol a phlwm drwy ddulliau y dangoswyd bod eu cywirdeb o fewn y cyfwng hyder 95% mewn perthynas â monitro di-dor wedi bod o fewn 10%. Rhaid i samplu ar hap gael ei gynnal yn gyson dros y flwyddyn. | ||
Mesur di-dor | ||
Cywirdeb | 15 % | 25 % |
Isafswm ar gyfer cofnodi data | 90 % | 90 % |
Mesur dangosol | ||
Cywirdeb | 25 % | 50 % |
Isafswm ar gyfer cofnodi data | 90 % | 90 % |
Isafswm amser | 14 % (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn, neu wyth wythnos wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn.) | 14 % (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn, neu wyth wythnos wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn.) |
Modelu | ||
Cywirdeb: | ||
Cyfartaleddau fesul-awr | 50 %—60 % | |
Cyfartaleddau dyddiol | 50 % | |
Cyfartaleddau blynyddol | 30 % | 50 % |
Amcangyfrif gwrthrychol | ||
Cywirdeb: | 75 % | 100 % |
Mae'r amcanion ansawdd-data canlynol ar gyfer yr ansicrwydd a ganiateir ar gyfer dulliau asesu, yr isafsymiau amser a'r gwaith cofnodi data yn sgil mesur yn cael eu nodi er mwyn arwain rhaglenni sicrwydd ansawdd.
Bensen (C6H6) | Carbon monocsid (CO) | |
---|---|---|
Caiff ansicrwydd (mewn cyfwng hyder o 95%) y dulliau asesu eu gwerthuso yn unol â'r “Guide to the Expression of Uncertainty of Measurements” (ISO 1993)(5) neu fethodoleg ISO 5725:1994(6). Mae'r canrannau ar gyfer ansicrwydd yn y tabl uchod yn cael eu rhoi ar gyfer mesuriadau unigol wedi'u cyfartaleddu dros y cyfnod a ystyrir gan y gwerth terfyn, i gael cyfwng hyder o 95%. Dylai'r ansicrwydd ar gyfer y mesuriadau sefydlog gael ei ddehongli fel pe bai'n gymwysadwy yng nghyffiniau'r gwerth terfyn priodol. Mae'r ansicrwydd ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol wedi'i ddiffinio fel yr uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod a ystyrir, gan y gwerth terfyn, heb gymryd amseriad y digwyddiadau i ystyriaeth. Nid yw'r gofynion ar gyfer isafsymiau cofnodi data ac isafsymiau amser yn cynnwys colli data wrth i'r offer gael eu calibradu neu eu cynnal-a-chadw fel rhan o'r drefn. Gall y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu gwneud mesuriadau ar hap yn lle mesuriadau di-dor ar gyfer bensen os yw'r ansicrwydd, gan gynnwys yr ansicrwydd oherwydd samplu ar hap, yn cyrraedd yr amcan ansawdd o 25%. Rhaid i samplu ar hap gael ei gynnal yn gyson dros y flwyddyn. | ||
Mesuriadau sefydlog | ||
Ansicrwydd | 25 % | 15 % |
Isafswm ar gyfer cofnodi data | 90 % | 90 % |
Isafswm amser | 35% cefndir trefol a safleoedd traffig (a ddosbarthwyd dros y flwyddyn i gynrychioli amgylchia dau amrywiol mewn tywydd a thraffig) 90% safleodd diwydiannol | |
Mesuriadau dangosol | ||
Ansicrwydd | 30 % | 25 % |
Isafswm ar gyfer cofnodi data | 90 % | 90 % |
Isafswm amser | 14 % (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn, neu wyth wythnos wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn.) | 14 % (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn, neu wyth wythnos wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn.) |
Modelu | ||
Ansicrwydd: | ||
Cyfartaleddau wyth-awr | — | 50% |
Cyfartaleddau blynyddol | 50 % | — |
Amcangyfrif gwrthrychol | ||
Ansicrwydd: | 100 % | 75 % |
Dylai'r wybodaeth ganlynol gael ei llunio ar gyfer parthau neu grynoadau y defnyddir ffynonellau heblaw mesuriadau ynddynt i gydategu'r wybodaeth o fesuriadau neu fel yr unig ddull o asesu ansawdd yr aer:
disgrifiad o'r gweithgareddau asesu a wnaed;
y dulliau penodol a ddefnyddiwyd, gan gyfeirio at ddisgrifiadau o'r dull;
y ffynonellau data a gwybodaeth;
disgrifiad o'r canlyniadau, gan gynnwys y cywirdebau ac, yn benodol, hyd a lled unrhyw ardal neu, os yw'n berthnasol, hyd y ffordd yn y parth neu'r crynhoad lle mae'r crynodiadau'n uwch na'r gwerth(oedd) terfyn neu, yn ôl fel y digwydd, y gwerth(oedd) terfyn plws goddefiant/goddefiannau cymwysadwy a hyd a lled unrhyw ardal lle mae'r crynodiadau'n uwch na'r trothwy asesu uchaf neu'r trothwy asesu isaf;
ar gyfer gwerthoedd terfyn sy'n anelu at ddiogelu iechyd pobl, y boblogaeth a allai gael ei datguddio i grynodiadau sydd yn uwch na'r gwerth terfyn.
Os oes modd rhaid llunio mapiau sy'n dangos dosbarthiadau'r crynodiadau ym mhob parth a chrynhoad.
Rheoliad 8(6)
ISO/FDIS 10498 (Safon ar ffurf drafft) Ambient air — determination of sulphur dioxide — ultraviolet fluorescence method(7).
ISO 7996: 1985 Ambient air — determination of the mass concentrations of nitrogen oxides — chemiluminescence method.(8)
Y dull cyfeirio ar gyfer samplu plwm fydd y dull a ddisgrifir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 82/884/EEC(9) nes yr amser pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, pryd y bydd y dull cyfeirio yr un fath ag ar gyfer PM10 sydd wedi'i nodi yn Rhan IV o'r Atodlen hon.
ISO 9855: 1993 Ambient air — Determination of the particulate lead content of aerosols collected in filters. Atomic absorption spectroscopy method(10).
Y dull cyfeirio ar gyfer samplu a mesur PM10 fydd y dull a ddisgrifir yn EN 12341 “Air Quality — Field Test Procedure to Demonstrate Reference Equivalence of Sampling Methods for the PM10 fraction of particulate matter”(11). Mae'r egwyddor fesur wedi'i seilio ar gasglu'r gyfran PM10 o fater gronynnol amgylchynol ar hidlwr a darganfod y màs grafimetrig.
Y dull cyfeirio ar gyfer samplu bensen fydd samplu pwmpio ar getrisen sorbent a ddilynir gan benderfyniad cromatograffig nwy.
Y dull cyfeirio ar gyfer mesur bensen fydd dull wedi'i seilio ar y dull sbectrometrig anwasgarol is-goch (NDIR).
Rheoliad 10(6)
1. rhanbarth
dinas (map)
gorsaf fesur (map, cyfesurynnau daearyddol).
2. y math o barth (dinas, ardal ddiwydiannol neu wledig)
amcangyfrif o'r ardal lygredig (km2) ac o'r poblogaethau sydd wedi'u datguddio i'r llygredd
data defnyddiol am yr hinsawdd
data perthnasol am y dopograffeg
digon o wybodaeth am y math o dargedau y mae angen eu diogelu yn y parth.
3. Enwau a chyfeiriadau'r personau sy'n gyfrifol am ddatblygu cynlluniau gwella a'u rhoi ar waith.
4. y crynodiadau a welwyd dros y blynyddoedd blaenorol (cyn gweithredu'r mesurau gwella)
y crynodiadau a fesurwyd ers dechrau'r project
y technegau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr asesu.
5. rhestr o'r prif ffynonellau allyrru sy'n gyfrifol am y llygredd (map)
cyfanswm yr allyriannau o'r ffynonellau hyn (tunelli y flwyddyn)
gwybodaeth am lygredd sydd wedi'i fewnforio o ranbarthau eraill.
6. manylion y ffactorau hynny sy'n gyfrifol am y gormodedd (trafnidiaeth, gan gynnwys trafnidiaeth ar draws ffiniau, ei ffurfiant)
manylion y mesurau posibl ar gyfer gwella ansawdd yr aer.
7. mesurau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol, rhyngwladol
yr effeithiau a welwyd yn sgil y mesurau hynny.
8. rhestr a disgrifiad o'r holl fesurau a nodwyd yn y project
amserlen ar gyfer gweithredu
amcangyfrif o'r gwelliant y bwriedir ei gael yn ansawdd yr aer ac o'r amser y disgwylir y bydd ei angen i gyrraedd yr amcanion hynny.
Mae'r ffigurau ar gyfer Goddefiannau ar gyfer pob un o'r llygrynnau perthnasol a roddir yn yr Atodlen hon wedi'u cyfrifo o'r rhai a roddir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 99/30/EC ac Atodiadau I a II o Gyfarwyddeb 2000/69/EC.
Mae'r trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer PM10 wedi'u seilio ar y gwerthoedd terfyn dangosol ar gyfer 1 Ionawr 2010, a gaiff eu hadolygu yng ngoleuni gwybodaeth bellach am yr effeithiau ar iechyd a'r amgylchedd, ymarferoldeb technegol a phrofiad wrth gymhwyso gwerthoedd terfyn presennol “Cyfnod 1”. Gweler Erthygl 10 o Gyfarwyddeb 99/30/EC.
Gellir prynu copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain “BSI” naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.
Gellir prynu copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain “BSI” fel yn nhroednodyn (a) uchod.
Gellir prynu copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain “BSI” naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.
Gellir prynu copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain “BSI” fel yn nhroednodyn (a) uchod
Gellir prynu copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain “BSI” naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.
Gellir prynu copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain “BSI” fel yn nhroednodyn (a) uchod.
OJ L378, 31.12.1982, p.15.
Gellir prynu copiau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain “BSI” naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.
Cyhoeddiad y “CEN”, Sefydliad Safonau Ewrop, cyfeirnod BSEN 12341, sydd ar gael oddi wrth Sefydliad Safonau Prydain “BSI” fel ar gyfer troednodyn (b) uchod.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys