Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Gwybodaeth i'w chynnwys mewn cais am ganiatâd i ollwng

12.—(1Rhaid i gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig gynnwys—

(a)yr wybodaeth a ragnodir yn—

(i)Atodlen 1 pan fo'r cais am ganiatâd i ollwng unrhyw uwchblanhigyn a addaswyd yn enetig, neu

(ii)Atodlen 2 mewn unrhyw achos arall,

i'r graddau y bo gwybodaeth o'r fath yn briodol i natur a graddfa'r gollyngiad neu'r cais,

(b)gwybodaeth am ddata neu ganlyniadau o unrhyw ollyngiad blaenorol o'r organeddau, neu o'r un cyfuniad o organeddau, a gynhaliwyd gan y ceisydd, a gwybodaeth o unrhyw gais blaenorol ar gyfer gollwng yr organeddau, neu'r un cyfuniad o organeddau, y mae'r ceisydd wedi'i wneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â'r Ddeddf neu i unrhyw awdurdod cymwys arall yn unol ag Erthygl 6 o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol,

(c)asesiad risg amgylcheddol, a baratowyd yn unol â rheoliad 7,

(ch)crynodeb ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 11(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol, o'r wybodaeth a gynhwyswyd yn y cais.

(3Caiff y cais gynnwys—

(a)data neu ganlyniadau o gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig a wnaed yn flaenorol gan rywun arall, ar yr amod bod copi o gytundeb ysgrifenedig y person hwnnw yn cael ei gynnwys yn y cais, a

(b)mynegiad o'r wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno yn y cais, y gallai ei datgelu niweidio safle cystadleuol y ceisydd ac y dylid felly ei thrin yn gyfrinachol, ac

(c)unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol ym marn y ceisydd.

(3Rhaid i gyfiawnhad y gellir ei ddilysu gyd-fynd ag unrhyw fynegiad yn unol â pharagraff (2)(b).