Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Hysbysebu cais am ganiatâd i ollwng

13.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i berson sy'n gwneud cais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, o fewn deg diwrnod fan bellaf ar ôl iddo anfon y cais hwnnw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, beri i hysbysiad yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol gael ei gyhoeddi mewn cyhoeddiadau sydd i'w pennu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)enw a chyfeiriad y ceisydd,

(b)disgrifiad cyffredinol o'r organeddau sydd i'w gollwng,

(c)lleoliad a diben y gollyngiad,

(ch)dyddiad neu ddyddiadau arfaethedig y gollyngiad,

(d)datganiad y caiff gwybodaeth am y cais ei gosod ar y gofrestr gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn deuddeg diwrnod i'r cais ddod i law,

(dd)drwy ba fodd y gellir archwilio'r gofrestr,

(e)datganiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd iddo mewn perthynas â risgiau o beri niwed i'r amgylchedd a allai ddeillio o ollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig o fewn cyfnod y bydd yn ei bennu yn unol â'r Rheoliadau hyn,

a rhaid iddo anfon copi o'r cyhoeddiad sy'n cynnwys yr hysbyseb yn ddi-oed i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2Nid oes rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) uchod gynnwys yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is-baragraffau (c) ac (ch) o'r paragraff hwnnw i'r graddau nad yw'r Penderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi'i Symleiddio (planhigion cnwd) yn ei gwneud yn ofynnol i'r wybodaeth honno gael ei chyflwyno gyda'r cais ac nad yw'r wybodaeth honno yn cael ei chyflwyno gyda'r cais.

(3Rhaid i geisydd am ganiatâd ddarganfod oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru lefel y manylion ar gyfer y man gollwng a gaiff eu gosod ar y gofrestr a chynnwys yr un lefel o fanylion yn yr hysbysiad sydd i'w gyhoeddi o dan baragraff (1) uchod.

(4Rhaid i berson sy'n gwneud cais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, o fewn deg diwrnod wedi iddo anfon y cais hwnnw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, hysbysu'r personau canlynol yn ysgrifenedig ei fod wedi gwneud y cais a rhaid iddo gynnwys yn yr hysbysiad hwnnw yr wybodaeth a ragnodwyd ym mharagraff (1)(a) i (e), ac eithrio i'r graddau y mae paragraff (2) yn caniatáu i'r fath wybodaeth gael ei heithrio o'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)—

(a)yr awdurdod lleol ac unrhyw gynghorau cymuned ar gyfer ardal neu ardaloedd pob gollyngiad arfaethedig,

(b)perchenog neu berchnogion y safle neu safleoedd pob gollyngiad arfaethedig, os yw'n berson heblaw am y ceisydd,

(c)pob aelod o'r pwyllgor diogelwch addasu genetig a sefydlwyd gan y ceisydd o dan reoliad 16 o Reoliadau Addasu Genetig (Defnydd Amgaeëdig) 2000(1),

(ch)Cymdeithas Awdurdodau Parc Cenedlaethol,

(d)Cyngor Cefn Gwlad Cymru(2),

(dd)Asiantaeth yr Amgylchedd;

a rhaid iddo anfon copïau o'r hysbysiadau yn ddi-oed i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)

Gweler adran 128 Deddf yr Amgylchedd 1990 (p.43).