- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
24.—(1) Ar ôl cael cais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—
(a)hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig o'r dyddiad y daeth y cais i law;
(b)sicrhau bod crynodeb o'r cais hwnnw ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 13(2)(h) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol yn cael ei anfon yn ddi-oed i'r Comisiwn ac awdurdodau cymwys yr Aelod-wladwriaethau;
(c)archwilio'r cais i weld a yw'n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn ac, os yw hynny'n angenrheidiol, gofyn i'r ceisydd gyflenwi gwybodaeth ychwanegol;
(ch)cyn diwedd y cyfnod o 90 diwrnod, gan ddechrau â'r diwrnod y daeth y cais i'w law, naill ai—
(i)anfon at y ceisydd adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy'n nodi y dylai'r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu marchnata ac o dan ba amodau, neu
(ii)wrthod y cais, gan ddatgan y rhesymau dros ei benderfyniad, a hynny wedi'i ategu gan adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy'n nodi na ddylid marchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig;
(d)sicrhau bod copi o'r cais yn cael ei anfon i'r Comisiwn pan gaiff ei fodloni ei fod yn cydymffurfio â'r gofynion a ragnodwyd yn rheoliad 15 a hynny heb fod yn hwyrach na phan y bydd yn anfon ei adroddiad asesu yn unol â pharagraff (ch).
(2) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod—
(i)ei adroddiad asesu,
(ii)unrhyw wybodaeth bellach y mae wedi'i chael oddi wrth y ceisydd yn unol â chyflwyno hysbysiad o dan adran 111(6) o'r Ddeddf,
(iii)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae wedi seilio'i adroddiad asesu arni,
yn cael eu hanfon ymlaen i'r Comisiwn o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn rheoliad 24(1)(ch)(i), cyn pen diwedd cyfnod o naw deg diwrnod gan ddechrau â'r diwrnod pan ddaeth y cais i law, ac, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn rheoliad 24(1)(ch)(ii), heb fod yn gynt na phymtheg diwrnod o'r dyddiad pan anfonodd yr adroddiad asesu at y ceisydd a heb fod yn hwyrach na chant a phum diwrnod o'r dyddiad y daeth y cais i law.
(3) Ni chaiff y cyfnodau o naw deg diwrnod a ragnodwyd ym mharagraffau (1) a (2) gynnwys unrhyw gyfnod sy'n dechrau â'r diwrnod y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi rhybudd ysgrifenedig o dan adran 111(6) o'r Ddeddf fod angen gwybodaeth bellach mewn perthynas â'r cais a chan ddiweddu ar y diwrnod y daeth yr wybodaeth i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(4) Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu cyflwyno i'r Comisiwn adroddiad asesu sy'n nodi y dylid caniatáu i'r organeddau a addaswyd yn enetig y mae'r cais yn ymwneud â hwy gael eu marchnata, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymgynghori'n gyntaf â'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch a rhaid iddo beidio ag anfon barn ffafriol ymlaen ar y cais fel y mae'n ymwneud â diogelu iechyd dynol os yw'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch wedi hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru nad yw'n cyflawni gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys