Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Penderfyniadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar geisiadau am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig

25.—(1Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno ar gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig ond os yw wedi paratoi adroddiad asesu sy'n dangos y dylid caniatáu i'r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu marchnata a naill ai—

(a)nad oes unrhyw wrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn yn ystod y cyfnod o 60 diwrnod gan ddechrau â'r dyddiad pan ddosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu

(b)bod gwrthwynebiad wedi'i godi neu wrthwynebiadau wedi'u codi gan naill ai awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn ond bod pob un o'r materion a oedd heb ei benderfynu wedi cael ei ddatrys yn unol ag Erthygl 15(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o fewn cyfnod o 105 diwrnod gan ddechrau â'r diwrnod pan ddosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu

(c)os oes gwrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth neu'r Comisiwn a bod y Comisiwn wedi mabwysiadu penderfyniad yn unol ag Erthygl 18(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o blaid rhoi caniatâd.

(2Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu awdurdod neu awdurdodau cymwys pob Aelod-wladwriaeth a'r Comisiwn o'i benderfyniad i roi caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o fewn tri deg diwrnod o roi ei ganiatâd.

(3At y diben o gyfrifo'r cyfnod o bedwar deg pum diwrnod terfynol y cant a phum diwrnod yn is-baragraff (1)(b) uchod, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw gyfnod pan ddisgwylir gwybodaeth bellach gan y ceisydd.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), caiff caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig ei roi am uchafswm cyfnod o ddeng mlynedd gan ddechrau â'r diwrnod pan roddwyd y caniatâd.

(5At y diben o roi caniatâd i farchnata organedd a addaswyd yn enetig neu epil o'r organedd hwnnw a addaswyd yn enetig a'r epil hwnnw wedi'i gynnwys mewn amrywiad planhigyn lle mae'r amrywiad planhigyn wedi'i fwriadu ar gyfer marchnata ei hadau yn unig o dan ddarpariaethau perthnasol y Gymuned bydd cyfnod y caniatâd cyntaf yn dod i ben fan bellaf ddeng mlynedd ar ôl y dyddiad y cynhwyswyd am y tro cyntaf yr amrywiad planhigyn cyntaf sy'n cynnwys yr organedd a addaswyd yn enetig ar gatalog cenedlaethol swyddogol o'r amrywiadau planhigion yn unol â Chyfarwyddebau 2002/53/EC(1) a 2002/55/EC(2) fel y'u diwygiwyd.

(6At y diben o roi caniatâd i farchnata organedd a addaswyd yn enetig sydd wedi'i gynnwys mewn deunydd fforest atgynhyrchiol, bydd cyfnod y caniatâd cyntaf yn dod i ben fan bellaf ddeng mlynedd ar ôl dyddiad y cynhwyswyd am y tro cyntaf y deunydd sylfaenol sy'n cynnwys yr organedd a addaswyd yn enetig ar gofrestr genedlaethol swyddogol o ddeunydd sylfaenol yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 1999/105/EC(3).

(1)

O.J. Rhif L193, 20.7.2002, t1.

(2)

O.J. Rhif L193, 20.7.2002, t33.

(3)

Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/105/EC ar farchnata deunydd atgenhedlu fforest OJ Rhif L11 15.1.2000 t. 17.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill