- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'i wneud
6 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion yn Rhagfyr 1999 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Tor-faen. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion (gyda rhai addasiadau) yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Tor-faen (Newidiadau Etholiadol) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym:
(a)at ddibenion achosion, sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a
(b)at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;
ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Bwrdeistref Sirol Tor-faen fel y'i sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Tor-faen 1994(2);
2.—(1) Mae adrannau etholiadol presennol Bwrdeistref Sirol Tor-faen a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Tor-faen 1994 wedi'u diddymu.
(2) At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Bwrdeistref Sirol Tor-faen, rhennir y fwrdeistref sirol honno yn 24 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno.
(3) Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.
3. Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
E. Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau
6 Rhagyfr 2002
Erthygl 2
(1) | (2) | (3) |
---|---|---|
Enw'r Adran Etholiadol | Ardal yr Adran Etholiadol | Y nifer o gynghorwyr |
Abersychan | Cymuned Abersychan | 3 |
Blaenafon | Cymuned Blaenafon | 3 |
Bryn-wern | Ward Bryn-wern yng Nghymuned Llanfihangel Pont-y-moel | 1 |
Coed Efa | Ward Coed Efa yng Nghymuned Fairwater | 1 |
Gogledd Croesyceiliog | Ward Gogledd Croesyceiliog yng Nghymuned Croesyceiliog | 2 |
De Croesyceiliog | Ward De Croesyceiliog yng Nghymuned Croesyceiliog | 1 |
Cwmynysgoi | Ward Cwmynysgoi yng Nghymuned Llanfihangel Pont-y-moel | 1 |
Fairwater | Ward Fairwater ac Oaksford yng Nghymuned Fairwater | 2 |
Greenmeadow | Ward Greenmeadow yng Nghymuned Fairwater | 2 |
Llantarnam | Cymuned Llantarnam ac ward Southville yng Nghymuned Cwmbrân Canolog | 2 |
Gogledd Llanyrafon | Ward Gogledd Llanyrafon yng Nghymuned Llanyrafon | 1 |
De Llanyrafon | Cymuned Pont-hir ac ward De Llanyrafon yng Nghymuned Llanyrafon | 1 |
New Inn | Cymuned New Inn | 3 |
Panteg | Cymuned Panteg | 3 |
Pontnewydd | Cymuned Pontnewydd ac ward Northville yng Nghymuned Cwmbrân Canolog | 3 |
Pontnewynydd | Ward Pontnewynydd ng Nghymuned Pen Transh | 1 |
Pont-y-pŵl | Ward Pont-y- pŵl yng Nghymuned Llanfihangel Pont-y-moel | 1 |
Snatchwood | Ward Snatchwood yng Nghymuned Pen Transh | 1 |
St Cadocs a Phen-y-garn | Ward St Cadocs a Phen-y-garn yng Nghymuned Trefddyn | 1 |
Llanfihangel Llantarnam | Ward Llanfihangel Llantarnam yng Nghymuned Cwmbrân Canolog | 2 |
Trefddyn | Ward Trefddyn yng Nghymuned Trefddyn | 2 |
Two Locks | Ward Two Locks yng Nghymuned Cwmbrân Canolog ac yng Nghymuned Henllys | 3 |
Cwmbrân | Cymuned Cwmbrân Uchaf | 3 |
Waunfelin | Ward Waunfelin yng Nghymuned Pen Transh | 1 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) yr oedd yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru adolygu'r trefniadau etholiadol cyn gynted â phosibl ar ôl yr etholiadau cyntaf i'r awdurdodau unedol ym Mai 1995.
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi eiu heffaith (gyda rhai addasiadau) i'r cynigion a wnaed yn adroddiad Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru yn Hydref 1999 ar gyfer Bwrdeistref Sirol Tor-faen.
Er bod y Gorchymyn yn diddymu'r holl adrannau etholiadol presennol yn y Fwrdeistref Sirol ac yn eu disodli ag adrannau etholiadol newydd, yn ymarferol bydd y mwyafrif yn aros yr un fath.
Nid oes unrhyw newid i adrannau Abersychan, Blaenafon, Bryn-wern, Coed Efa, Gogledd Croesyceiliog, De Croesyceiliog, Cwmynysgoi, Fairwater, Greenmeadow, Llantarnam, Gogledd Llanyrafon, De Llanyrafon, Pant-eg, Pontnewydd, Pontnewynydd, Pont-y-pŵl, Snatchwood, St Cadocs a Phen-y-garn, Llanfihangel Llantarnam, Trefddyn, Two Locks, Cwmbrân, Waunfelin.
Er hynny bydd adrannau presennol New Inn Isaf a New Inn Uchaf yn cael eu cyfuno i ffurfio etholaeth adran etholiadol New Inn. Bydd yn cynnwys Cymuned New Inn ac yn cael ei chynrychioli gan dri chynghorydd.
Cafodd y Gorchymyn hwn ei wneud ar 19 Rhagfyr 1994 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys