- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
26 Mawrth 2002
Yn dod i rym
1 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(9) a 66(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1) ac sydd wedi'i freinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2):
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) 1990 (3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2) (dehongli), ar ôl y diffiniad o “gilt-edged securities”, mewnosodwch y diffiniadau canlynol—
““highest possible credit rating” means, in relation to a money market fund, that it has the highest possible rating—
“money market fund” means a collective investment scheme which—
in accordance with the Council Directive of 20th December 1985 on the co-ordination of laws, regulations and administrative provisions relating to undertakings for collective investments in transferable securities as amended (7), is an undertaking for collective investment in transferable securities subject to that Directive;
has been given the highest possible credit rating; and
is either a unit trust scheme authorised under section 243 of the Financial Services and Markets Act 2000(8) or a collective investment scheme recognised under section 264 of that Act;”.
(3) Yn rheoliad 2(1) (buddsoddiadau a gymeradwywyd)—
(a)yn is-baragraff (b), ar ôl “deposit-taker”, ychwanegwch “, the Treasury”; a
(b)ar ôl is-baragraff (b), mewnosodwch yr is-baragraff canlynol—
“(bb)any investment in a money market fund;”;
(4) Yn rheoliad 3 (amodau ar gyfer cymeradwyo buddsoddiadau), ym mharagraffau (1)(c) a (4)(a), ar ôl “regulation 2” mewnosodwch “(1)”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997 (9) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 62(b) (gwaredu buddsoddiadau),—
(a)yn lle “2(b) or (c)”, rhowch “2(1)(b), (bb) or (c)”;
(b)yn is-baragraff (i), yn lle “institution” ym mha le bynnag yr ymddengys, rhowch “deposit-taker”;
(c)yn is-baragraff (ii),—
(i)ar ôl “2”, mewnosodwch “(1)”; a
(ii)ar y diwedd, ychwanegwch “; or”; ac
(ch)ar ôl is-baragraff (ii), ychwanegwch—
““(iii)where the investment was made with a money market fund, that fund has ceased to be a money market fund within the meaning given to that expression in regulation 1(2) of the 1990 Regulations.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10)
Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mawrth 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) 1990 yn cynnwys rhestr o fuddsoddiadau a gymeradwywyd at ddibenion Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1990 drwy ychwanegu buddsoddiadau mewn cronfeydd marchnadoedd arian ac adneuon yn y Trysorlys at y rhestr o fuddsoddiadau a gymeradwywyd.
Hefyd, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1990/426; offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1991/501 ac O.S. 2001/3731 (Cy.308).
Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr rhif 01916239.
Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr rhif 01950192.
Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr rhif 01316230.
85/611/EEC (OJNL375, 31.12.1985) a ddiwygiwyd gan 88/220/EEC (OJNL100, 19.4.1988) a 95/26/EC (OJNL168, 18.7.1995).
O.S. 1997/319 a ddiwygiwyd ond nid yw'r diwygiadau yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys