Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2002

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “yr Atodlen” (“the Schedule”) yw'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000(1);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Datgymhwyso rhag maethu plentyn yn breifat

2.  At ddiben adran 68 o'r Ddeddf (personau sydd wedi'u datgymhwyso rhag bod yn rhieni maeth preifat) mae person wedi'i ddatgymhwyso rhag maethu plentyn yn breifat—

(a)os yw'r person wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd a bennir yn Rhan I o'r Atodlen; neu

(b)os yw'r person yn berson perthnasol a grybwyllir yn Rhan II o'r Atodlen.

Datgymhwyso rhag cofrestru ar gyfer gwarchod plant a darparu gofal dydd

3.—(1At ddiben paragraff 4 o Atodlen 9A i'r Ddeddf (datgymhwyso rhag cofrestru) mae person, yn ddarostyngedig i reoliad 4, wedi'i ddatgymhwyso rhag cofrestru o dan Ran XA o'r Ddeddf ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd—

(a)os yw'r person wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd a grybwyllir yn Rhan I o'r Atodlen; neu

(b)os yw'r person yn berson perthnasol a grybwyllir yn Rhannau II neu III o'r Atodlen; neu

(c)os yw'r person wedi'i ddatgymhwyso ar unrhyw bryd rhag maethu plentyn yn breifat.

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 4, mae person sy'n byw—

(a)ar yr un aelwyd â pherson sydd wedi'i ddatgymhwyso o dan baragraff (1); neu

(b)ar aelwyd lle mae unrhyw berson o'r fath yn cael ei gyflogi,

wedi'i ddatgymhwyso rhag cofrestru o dan Ran XA o'r Ddeddf ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd.

Hepgoriadau awdurdod lleol

4.  Rhaid peidio ag ystyried bod person wedi'i ddatgymhwyso o dan reoliad 3 os oedd y person, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym—

(a)wedi datgelu ffeithiau i awdurdod lleol priodol o dan baragraff 2 o Atodlen 9 i'r Ddeddf a fyddai'n datgymhwyso'r person o dan reoliad 3; a

(b)wedi sicrhau cydsyniad ysgrifenedig yr awdurdod lleol hwnnw.

Diddymu

5.  Mae Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant 1991(2) wedi'u diddymu i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

Rhodri Morgan

Prif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Mawrth 2002

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill