Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) a (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 139 (Cy.11)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) a (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

28 Ionawr 2003

Yn dod i rym

1 Chwefror 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29, 41, 42, 43 a 126(4) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) a (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2003.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

“y Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol” (“the Pharmaceutical Services Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992(2);

“y Rheoliadau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol” (“the General Medical Services Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992(3).

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Atodiad 2 y Rheoliadau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol

2.—(1Caiff Atodlen 2 y Rheoliadau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Telerau Gwasanaeth i Feddygon) ei diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Ym mharagraff 43 (rhagnodi)—

(a)yn lle geiriau cyntaf is-baragraff (3), rhowch—

(3) Where a doctor orders drugs specified in Schedules 2 to 5 to the Misuse of Drugs Regulations 2001(4) (controlled drugs to which regulations, 14, 15, 16, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 26 and 27 of those Regulations apply) for supply by instalments for treating addiction to any drug specified in those Schedules, he shall—;

(b)yn is-baragraff (5) (b) yn lle “other than a drug which is for the time being specified in Schedule 5 to the Misuse of Drugs Regulations 1985(5));” rhowch “other than a drug which is for the time being specified in Schedules 4 or 5 to the Misuse of Drugs Regulations 2001;”;

(c)yn is-baragraff (6) (a), yn lle “other than a drug which is for the time being specified in Schedule 5 to the Misuse of Drugs Regulations 1985” rhowch “other than a drug which is for the time being specified in Schedules 4 or 5 to the Misuse of Drugs Regulations 2001;”.

Diwygio Atodlen 2 y Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol

3.—(1Caiff Rhan II o Atodlen 2 y Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol (Telerau Gwasanaeth i Fferyllyddion) ei diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Ym mharagraff 3 (darparu gwasanaethau fferyllol)—

(a)yn is-baragraff (4), yn lle “the Misuse of Drugs Regulations 1985” rhowch “the Misuse of Drugs Regulations 2001”;

(b)yn is-baragraff (6), yn lle “the Misuse of Drugs Regulations 1985”, rhowch “the Misuse of Drugs Regulations 2001”;

(c)yn is-baragraff (9) (b), yn lle “other than a drug which is for the time being specified in Schedule 4 or 5 to the Misuse of Drugs Regulations 1985”, rhowch “other than a drug which is for the time being specified in Schedules 4 or 5 to the Misuse of Drugs Regulations 2001;”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Ionawr 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 (“y Rheoliadau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol”), sy'n rheoleiddio'r telerau y mae meddygon yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol odanynt yn ôl Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (“Deddf 1977”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 (“y Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol”), sydd yn rheoli'r ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol o dan Ddeddf 1977.

Mae rheoliad 2 yn diwygio paragraff 43 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Telerau Gwasanaeth i Feddygon) i ganiatáu meddygon i ragnodi fesul dyraniad y cyffuriau hynny a restrir yn Atodlenni 2 hyd 5 o Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001 ar gyfer trin y cyflwr o fod yn gaeth i unrhyw un o'r cyffuriau a restrir yn yr Atodlenni hynny. Yr oedd Rheoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001 yn dirymu Rheoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 1985 a'u hailddeddfu gyda diwygiadau.

Y mae hefyd yn cywiro rhywbeth a hepgorwyd o is-baragraffau 43(5) a (6).

Mae rheoliad 3 yn gwneud diwygiadau i Atodlen 2 i'r Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol (Telerau Gwasanaeth i Fferyllyddion) sydd yn canlyn ar ôl i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001 ddod i rym.

(1)

1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i), a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999), Atodlen 4, paragraff 38(2)(b), am ddiffiniadau “prescribed” a “regulations”.

Cafodd adran 29 ei hestyn gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 2, paragraff 16(a); gan O.S.1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 18 a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), Atodlen 2, paragraff 8.

Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf 1999 , Atodlen 4, paragraff 37(6).

Diwygiwyd adran 41 gan Ddeddf 1980, adrannau 1 ac 20(1) ac Atodlen 1, paragraff 53 ac Atodlen 7; gan OS 1985/39, erthygl 7(13); gan Ddeddf 1990, Atodlen 9, paragraff 18(1) ac Atodlen 10; gan Ddeddf Cynhyrchion Meddyginiaethol: Rhagnodi gan Nyrsys etc 1992 (p.28), adran 2; gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 29 a chan Ddeddf 1997, Atodlen 2, paragraff 13.

Cafodd adran 42 ei hamnewid gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygio) 1986 (p.66), adran 3(1); ei hestyn gan Ddeddf 1988, adran 17 a'i diwygio gan OS 1987/2202, erthygl 4; gan Ddeddf 1990, adran 12(3) a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 30.

Diwygiwyd adran 43 gan Ddeddf 1980, Atodlen 9, paragraff 18(2); gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 31; a chan Ddeddf 1997, adran 29(1) ac Atodlen 2, paragraff 14.

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5).

(2)

OS 1992/662; 1993/2451 yw'r offeryn diwygio perthnasol.

(3)

O.S.1992/635 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.

(4)

OS 2001/3998, a ddirymodd ddarpariaethau Rheoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 1985 (OS 1985/2066), a'u hailddeddfu gyda diwygiadau.

(5)

OS 1985/2066; a gafodd ei ddirymu a'i ailddeddfu gyda diwygiadau gan OS 2001/3998.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill