- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
29 Ionawr 2003
Yn dod i rym
10 Chwefror 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 10 Chwefror 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2.—(1) Diwygir Atodlen 3 i Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001(2) fel a ganlyn:
(a)ychwanegir y canlynol at y tabl o Swyddogaethau nad ydynt i fod yn Gyfrifoldeb i Weithrediaeth Awdurdod yn Unig:
Cynlluniau a Strategaethau | Cyfeiriad |
---|---|
Strategaeth Iechyd a Llesiant | Adran 24 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 |
(b)diddymir y cofnod “Cynllun Gwasanaethau Plant” yng ngholofn (1) a'r cyfeiriad cysylltiedig yng ngholofn (2).
(c)diddymir y cofnod “Cynllun Gofal Cymunedol” yng ngholofn (1) a'r cyfeiriad cysylltiedig yng ngholofn (2).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Ionawr 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan weithrediaeth i'r awdurdod onid yw'r swyddogaethau hynny wedi'u pennu yn swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod.
Mae Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 yn pennu swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath i raddau cyfyngedig yn unig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig.
Mae paragraffau (1) i (3) o Reoliad 4 o Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 yn dyrannu'r cyfrifoldeb dros amrywiol agweddau ar swyddogaethau sy'n ymwneud â llunio a pharatoi cynlluniau a strategaethau, o'r disgrifiadau a bennir yn Atodlen 3, rhwng awdurdod a'i weithrediaeth.
Mae Adran 24 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 yn darparu ei bod yn un o ddyletswyddau awdurdodau lleol yng Nghymru i lunio a gweithredu ar y cyd strategaeth, a elwir “strategaeth iechyd a llesiant”, ar gyfer iechyd a llesiant aelodau o'r cyhoedd yn ardal pob awdurdod lleol.
Mae Rheoliad 2 yn gwneud diwygiad i Atodlen 3 i Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001. Mae'r diwygiad hwn yn sicrhau bod y cyfrifoldeb dros fabwysiadu strategaeth iechyd a llesiant yn swyddogaeth na chaniateir iddi fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod yn unig.
Yn ychwanegol, mae'r cyfrifoldebau dros fabwysiadu Cynllun Gwasanaethau Plant a Chynllun Gofal Cymunedol yn cael eu dileu o Atodlen 3 i Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001.
O.S. 2001/2291 (Cy.179) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2002, O.S 2002/783 (Cy. 84).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys