- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'i wneud
9 Gorffennaf 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216(3), (4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003.
2. Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn unig (ac eithrio mewn perthynas ag adrannau 139 a 197).
3. Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at Rannau, adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at Rannau ac adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
4. 1 Awst 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
5. 1 Medi 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
6. 1 Tachwedd 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Gorffennaf 2003
Erthyglau 4, 5 a 6
Y ddarpariaeth | Y pwnc |
---|---|
Adrannau 60 i 64 | Pwerau ymyrryd — Awdurdodau addysg lleol |
Adran 178(1) a (4) | Arolygiadau ardal |
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod | Diddymiadau |
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu — Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995(3), adran 28Q(12), Deddf Addysg 1996(4), adrannau 483(3A), 483A(7), 490, 497A(3), yn adran 580, y cofnodion sy'n ymwneud â “city academy”, “city college for the technology of the arts”, “city technology college”, Deddf Dysgu a Medrau 2000(5), Atodlen 8. | Diddymiadau |
Y ddarpariaeth | Y pwnc |
---|---|
Adran 19(6) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 1 isod | Cyrff llywodraethu |
Adrannau 27 a 28 | Pŵer corff llywodraethu i ddarparu cyfleusterau cymunedol |
Adran 29 | Swyddogaethau ychwanegol cyrff llywodraethu |
Adran 40 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 3 isod | Diwygiadau i Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 |
Adran 136 | Addysg bellach : darparu addysg |
Adran 137 | Penaethiaid sefydliadau addysg bellach |
Adran 138 | Hyfforddiant mewn darparu addysg bellach |
Adran 139 | Cymru : darparu addysg uwch |
Adran 140 | Addysg bellach : cyffredinol |
Adrannau 181 i 185 | Lwfansau ar gyfer addysg neu hyfforddiant |
Adran 197 | Cytundebau a datganiadau partneriaeth |
Adran 199 | Cludiant ar gyfer personau dros oedran ysgol gorfodol |
Adran 202 | Sefydliadau addysg bellach : cofnodion |
Adran 203 | Sefydliadau addysg bellach : deunydd peryglus, etc |
Adran 206 | Niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd addysg |
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod | Diddymiadau |
Atodlen 1, paragraff 3(1) (ac eithrio paragraff (a)) ac is-baragraffau (3) i (8) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r pŵer a roddir gan is-baragraff (1)(b) | Cyrff llywodraethu |
Atodlen 3, paragraffau 1 i 5 | Diwygiadau i Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 |
Atodlen 19 | Cludiant ar gyfer personau dros oedran ysgol gorfodol |
Atodlen 20 | Niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd addysgol |
Atodlen 21, | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Paragraff 4, | |
Paragraff 34 | |
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu | Diddymiadau |
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982(6), adran 40, | |
Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(7), yn Atodlen 8, paragraff 90, | |
Deddf Addysg 1996, adran 509(6), ac yn Atodlen 37, paragraff 55, | |
Deddf Addysg 1997(8), yn Atodlen 7, paragraff 9(3), | |
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(9)), yn Atodlen 30, paragraff 133(b). |
Y ddarpariaeth | Y pwnc |
---|---|
Adran 43 | Fforymau Ysgol |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Awst 2003, 1 Medi 2003 ac 1 Tachwedd 2003, y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn Rhannau I i III o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.
Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, mewn perthynas â Chymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru — gweler adran 211.
Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen —
Mae adrannau 60 i 64 yn ymwneud â phwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol) i gyfarwyddo AALl.
Mae adran 60 yn diwygio adran 497A o Ddeddf Addysg 1996 (Deddf 1996) fel bod modd i gyfarwyddyd gyfeirio at holl swyddogaethau AALl; fel bod modd gwneud cyfarwyddyd pellach pan ddaw un blaenorol i ben os caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei fodloni, pe na bai'n gwneud cyfarwyddyd pellach, na fyddai'r AALl yn cyflawni'r swyddogaeth o dan sylw i safon ddigonol; fel bod modd i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo AALl i gymryd camau mwy penodol; ac yn y fath fodd ag i alluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i gyfarwyddo bod swyddogaeth i'w harfer ganddo neu gan ei enwebai. Mae adran 61 yn mewnosod adran 497AA newydd o Ddeddf 1996 sy'n ei gwneud yn ofynnol i AALl gydweithredu â'r Cynulliad Cenedlaethol, neu ei enwebai, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried gwneud cyfarwyddyd. Mae adran 62 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adran 497B o Ddeddf 1996. Mae adrannau 63 a 64 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol o dan amgylchiadau penodol i gyfarwyddo AALl i gael cyngor oddi wrth berson penodedig.
Mae adran 178(1) a (4) yn diwygio Deddf Dysgu a Medrau 2000 i estyn ystod arolygiadau ardal at bersonau sydd dros 14 oed.
Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen —
Mae adran 27 yn galluogi corff llywodraethu ysgol a gynhelir i ddarparu cyfleusterau neu wasanaethau er budd y gymuned. Mae adran 28 yn gosod terfynau ar arfer y pŵer hwn. Mae adran 19(6) ac Atodlen 1, paragraff 3(1), (3) i (8), ac adran 40 ac Atodlen 3, paragraffau 1 i 5 yn gwneud darpariaeth sy'n dilyn fel canlyniad i gyflwyno'r pŵer hwn.
Mae adran 29 yn ailddeddfu, gyda diwygiadau, adran 39 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Deddf 1998). Roedd adran 39(1) o Ddeddf 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sefydlu gweithdrefn cwyno yn unol â rheoliadau, ond ni wnaethpwyd rheoliadau o dan yr adran honno. Mae adran 29(1) a (2) nawr yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu gael gweithdrefn cwyno fel y'i nodir yn yr adran ac yn unol â chyfarwyddyd. Mae adran 29(3) a (4) yn rhoi pŵer i gorff llywodraethu i'w gwneud yn ofynnol i ddisgyblion fynd i unrhyw le y tu allan i'r ysgol at ddibenion y cwricwlwm. Mae adran 29(5) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu a phennaeth gydymffurfio â chyfarwyddiadau AALl mewn perthynas â iechyd a diogelwch.
Mae adrannau 136 i 140 yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau ynglŷn â chymwysterau athrawon a phenaethiaid addysg bellach, mewn perthynas â chyrsiau sy'n arwain at gymwysterau o'r fath ac mewn perthynas â darparu cyrsiau addysg uwch mewn sefydliadau addysg bellach.
Mae adrannau 181 i 185 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n darparu ar gyfer talu lwfansau i bersonau cymwys dros oedran ysgol gorfodol sy'n cymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant nad yw'n addysg uwch.
Mae adran 197 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i AALl a chyrff llywodraethu wneud cytundebau partneriaeth, sy'n nodi sut y byddant yn cyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas ag ysgol.
Mae adran 199 ac Atodlen 19 yn diwygio darpariaethau Deddf 1996 ynglŷn â chludiant. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i AALl baratoi datganiad polisi sy'n nodi eu trefniadau ar gyfer darparu cludiant ar gyfer dysgwyr ôl-16 neu gefnogaeth ar gyfer cludiant o'r fath.
Mae adran 202 yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau ynglŷn â chofnodion addysgol sefydliadau addysg bellach.
Mae adran 203 yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau ynglŷn â defnyddio offer a deunyddiau peryglus mewn sefydliadau addysg bellach.
Mae adran 206 ac Atodlen 20 yn diwygio Deddf 1996 a Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i estyn y darpariaethau ynglŷn â niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd addysgol i ysgolion arbennig na chynhelir mohonynt, ysgolion annibynnol, safleoedd sy'n cael eu darparu gan AALl ar gyfer hyfforddiant mewn gweithgareddau sy'n ymwneud â chwaraeon, gweithgareddau adloniadol neu weithgareddau awyr agored ac i sefydliadau o fewn y sector addysg bellach.
Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen —
Mae adran 43 yn mewnosod adran 47A newydd o Ddeddf 1998, sy'n ei gwneud yn ofynnol i AALl sefydlu fforymau ysgol. Bydd y rhain yn cynrychioli cyrff llywodraethu a phenaethiaid ac yn cynghori'r AALl ar faterion sy'n ymwneud â'i gyllideb ysgolion.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 14 i 17 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 18(2) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 49 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 54 i 56 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 75 (yr rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 97 a 98 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 99(1) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 100 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301)) |
Adran 101 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 103 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 105 i 107 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 108 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 109 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 111 i 118 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 119 | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
Adran 120(1) a (3) i (5) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
Adran 121 | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
Adran 130 (yn rhannol) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
Adran 131 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 132 a 133 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 134 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 135 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 141 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 142 i 144 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 145 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 146 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 148 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 149 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 150 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 151(2) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 152 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 179 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 180 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 188 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 189 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 191 i 194 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 195 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn llawn) | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 196 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 200 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 201 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 215 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 5 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 10, paragraffau 1, 6, 11 a 15. | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 11 | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
Atodlen 12, paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 7 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Paragraff 12(1) a (2) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac 8 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 16, paragraffau 4 i 9 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 8 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Paragraff 8 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Paragraffau 13 i 15 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 18 | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 21 (yn rhannol) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
(yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 22 (yn rhannol) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
(yn rhannol) | 9 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018, O.S. 2002/2439, O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124 ac O.S. 2003/1115.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: