Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 13 Gorffennaf 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Enwi, cymhwyso a chychwynLL+C

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003; deuant i rym ar 1 Awst 2005 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

F1...

F2...

[F3ystyr “Cyfarwyddeb 2002/46” (“Directive 2002/46”) yw Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1170/2009 sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y rhestrau o fitamin a mwynau a'r ffurfiau arnynt y caniateir eu hychwanegu at fwydydd, gan gynnwys ychwanegion bwyd;”.]

ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio —

(a)

at ddibenion ailwerthu;

(b)

at ddibenion sefydliad arlwyo; neu

(c)

at ddibenion busnes gweithgynhyrchu;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “ffurf dogn” (“dose form”) yw ffurf megis capsiwlau, pastiliau, tabledi, pils, a ffurfiau tebyg eraill, sachets powdr, ampylau hylifau, poteli sy'n dosbarthu diferion, a ffurfiau tebyg eraill ar hylifau neu bowdrau sydd wedi'u dylunio i gael eu cymryd mewn meintiau unedol bach sydd wedi'u mesur;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu gyda'r bwriad o werthu a chynnig, amlygu neu hysbysebu gyda'r bwriad o werthu;

mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar brosesu neu drin;

[F4ystyr “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011” (“Regulation (EU) No 1169/2011”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;]

ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) os yw bwyd, wrth gynnal busnes, yn cael ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb baratoi pellach; ac

ystyr “ychwanegyn bwyd” (“food supplement”) yw unrhyw fwyd sydd wedi'i fwriadu i ychwanegu at ddeiet normal ac sydd —

(a)

yn ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol, ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad; a

(b)

yn cael ei werthu ar ffurf dogn.

(2Rhaid ystyried bod ychwanegyn bwyd wedi'i ragbacio at ddibenion y Rheoliadau hyn —

(a)os yw'n barod i'w werthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo, a

(b)os yw wedi'i roi mewn pecyn cyn cael ei gynnig i'w werthu yn y fath fodd ag i beidio â chaniatáu newid yr ychwanegyn bwyd heb agor neu newid y pecyn.

F5(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F5(4. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cwmpas y RheoliadauLL+C

3.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ychwanegion bwyd sy'n cael eu gwerthu fel bwyd a'u cyflwyno fel y cyfryw.

[F6(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion meddyginiaethol [F7fel y’u diffinnir gan reoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012] .]

Cyfyngiad ar y ffurf a ddefnyddir i werthu ychwanegion bwyd i'r defnyddiwr olafLL+C

4.  Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd i'r defnyddiwr olaf oni bai ei fod wedi'i ragbacio.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1

Gwaharddiadau gwerthu sy'n ymwneud â chyfansoddiad ychwanegion bwydLL+C

5.—(1F8..., ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd y mae fitamin neu fwyn wedi'i ddefnyddio wrth ei gynhyrchu oni bai bod y fitamin neu'r mwyn hwnnw—

(a)wedi'i restru [F9yn [F10Atodlen 1 i Reoliadau Maethiad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019]]; a

(b)ar ffurf sydd

(i)wedi'i rhestru yn [F11Atodlen 2 i Reoliadau Maethiad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019], a

(ii)yn bodloni'r meini prawf purdeb perthnasol.

(2Y meini prawf purdeb perthnasol at ddibenion paragraff (1)(b)(ii) yw —

[F12(a)y meini prawf purdeb, os oes rhai, a bennir [F13mewn cyfraith a gymathwyd] neu mewn rheoliadau sy’n gymwys o ran Cymru ac a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3 o Reoliadau Maethiad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019; neu]

(b)yn absenoldeb meini prawf purdeb o'r fath, y meini prawf purdeb sy'n dderbyniol yn gyffredinol ar gyfer y sylwedd o dan sylw ac sy'n cael eu hargymell gan gyrff rhyngwladol.

F14(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cyfyngiadau ar werthu sy'n ymwneud â labelu etc ychwanegion bwydLL+C

6.—(1Ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r enw y mae'n cael ei werthu odano yn “ychwanegyn bwyd”.

(2Heb ragfarnu [F15Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011], ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo oni bai ei fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol —

(a)enw categori unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n nodweddu'r cynnyrch neu fynegiant o natur y fitamin neu'r mwyn neu'r sylwedd arall;

(b)y gyfran o'r cynnyrch yr argymhellir ei bwyta'n ddyddiol;

(c)rhybudd i beidio â chymryd mwy na'r dogn dyddiol penodedig a argymhellir;

(ch)datganiad i'r perwyl na ddylid defnyddio ychwanegion bwyd yn lle deiet amrywiol;

(d)datganiad i'r perwyl y dylid storio'r cynnyrch y tu allan i gyrraedd plant bach; ac

(dd)faint o unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n bresennol yn y cynnyrch.

(3Rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(dd) —

(a)cael ei rhoi ar ffurf Rhif au;

[F16(b)cael ei rhoi, yn achos fitamin neu fwyn a restrir yn [F17Atodlen 1 i Reoliadau Maethiad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019] , drwy ddefnyddio'r uned berthnasol a bennir mewn cromfachau ar ôl enw'r fitamin neu'r mwyn hwnnw;]

(c)datgan y swm fesul cyfran o'r cynnyrch fel yr argymhellir ei fwyta'n ddyddiol ar label y cynnyrch;

(ch)bod yn faint cyfartalog ar sail dadansoddiad y gweithgynhyrchydd o'r cynnyrch; a

[F18(d)cael ei mynegi hefyd, yn achos fitamin neu fwyn a restrir [F19ym mhwynt 1 o Ran A o Atodiad XIII i Reoliad (EU) Rhif 1169/2011] , fel canran (y caniateir ei rhoi hefyd ar ffurf graff) o'r [F20gwerth cyfeirio perthnasol a bennir yn y pwynt hwnnw] .]

(4Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw dull ei labelu, ei gyflwyno neu ei hysbysu yn cynnwys sôn, naill ai'n ddiamwys neu'n ymhlyg, na all deiet cytbwys ac amrywiol ddarparu meintiau priodol o fitaminau neu fwynau yn gyffredinol.

Dull marcio neu labeluLL+C

7.—(1Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sydd

(a)yn barod i'w ddanfon i'r defnyddiwr olaf, neu

(b)yn barod i'w ddanfon i sefydliad arlwyo ac wedi'i ragbacio,

os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol ei farcio neu ei labelu â hwy o dan reoliad 6 (2) yn ymddangos —

(i)ar y pecyn;

(ii)ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn; neu

(iii)ar label sydd i'w weld yn glir drwy'r pecyn,

ac eithrio pan werthir i unrhyw un heblaw'r defnyddiwr olaf, y caiff y manylion hyn fel arall ymddangos ar y dogfennau masnachol ynglyn â'r ychwanegyn bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau hynny, sy'n cynnwys y manylion hyn i gyd, naill ai gyda'r ychwanegyn bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn i'r ychwanegyn bwyd gael ei anfon, neu'r un pryd â hynny ac ar yr amod bod y manylion sy'n ofynnol o dan [F21bwyntiau (a), (f), (g) ac (h) o Erthygl 9(1) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011] wedi'u marcio neu wedi'u labelu hefyd ar y pecyn allanol y mae'r ychwanegyn bwyd hwnnw wedi'i werthu gydag ef.

(2Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon i sefydliad arlwyo ac nad yw wedi'i ragbacio os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol eu marcio neu eu labelu â hwy o dan reoliad 6(2) yn ymddangos —

(a)ar label sydd ynghlwm wrth yr ychwanegyn bwyd;

(b)ar docyn neu hysbysiad y mae'n hawdd i ddarpar brynwr ei ddirnad yn y man lle mae'n dewis yr ychwanegyn bwyd hwnnw; neu

(c)mewn dogfennau masnachol sy'n ymwneud â'r ychwanegyn bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau yn naill ai gyda'r ychwanegyn bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn hynny, neu'r un pryd ag anfon yr ychwanegyn bwyd hwnnw.

(3Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu ychwanegyn bwyd â hwy o dan reoliad 6(2) yn hawdd i'w deall, yn hollol ddarllenadwy, yn annileadwy a, phan fydd bwyd yn cael ei werthu i'r defnyddiwr olaf, rhaid i'r manylion hynny gael eu marcio mewn man amlwg mewn ffordd sy'n eu gwneud yn hawdd i'w gweld.

(4Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu'r ychwanegyn bwyd â hwy yn rhinwedd rheoliad 6(2) wedi'u cuddio neu wedi'u tywyllu mewn unrhyw ffordd neu os ymyrryd mewn unrhyw ffordd â'r manylion hynny ag unrhyw fater ysgrifenedig neu ddarluniadol arall.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1

GorfodiLL+C

8.  Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1

Tramgwyddau a chosbauLL+C

9.  Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 4, 5, 6 neu 7 yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1

Amddiffyniad mewn perthynas ag allforionLL+C

F2210.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1

Cymhwyso amryw o ddarpariaethau'r DdeddfLL+C

11.  Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y bydd unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael eu dehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);

(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15;

(d)adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi wrth gynnal busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(f)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofynion o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;

(ff)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;

(g)adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (f) uchod;

(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 1.8.2005, gweler rhl. 1

[F23Darpariaeth drosiannolLL+C

12.[F24(1)] Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan reoliad 9 sy'n ymwneud â thorri rheoliad 6 neu 7 drwy fynd yn groes i reoliad 6(3)(d) neu fethu â chydymffurfio ag ef, bydd profi'r canlynol yn amddiffyniad—

(a)bod yr ychwanegiad bwyd o dan sylw wedi ei werthu cyn 31 Hydref 2012; a

(b)na fyddai'r materion sy'n dramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hynny pe na fyddai'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 2(2) a (6)(b) o Reoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 wedi bod yn weithredol pan werthwyd y bwyd.]

[F25(2) Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan reoliad 9 sy’n ymwneud â thorri rheoliad 6 neu 7 drwy fynd yn groes i reoliad 6(3)(b) neu fethu â chydymffurfio ag ef, bydd profi’r canlynol yn amddiffyniad—

(a)bod zinc wedi’i ddefnyddio wrth weithgynhyrchu’r ychwanegyn bwyd a bod yr ychwanegyn bwyd wedi’i farcio neu wedi’i labelu cyn 10 Chwefror 2023; a

(b)na fyddai’r materion sy’n dramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn 10 Chwefror 2023.]

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Gorffennaf 2003

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill