- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
DŴ R, CYMRU
Wedi'u gwneud
16 Gorffennaf 2003
Yn dod i rym
31 Gorffennaf 2003
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Diwygio) (Cymru) 2003; maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 31 Gorffennaf 2003.
2.—(1) Mae Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Lloegr a Chymru) 1998(3) (“Rheoliadau 1998”) yn cael eu diwygio fel y maent yn gymwys i Gymru yn unol â'r paragraffau canlynol—
(2) Yn rheoliad 2(dehongli) yn y diffiniad o “nitrate vulnerable zones” mewnosodir y geiriau “or 3B” yn union ar ôl “regulation 3”.
(3) Yn rheoliad 8(1) (tramgwyddau) —
(i)yn lle “level 5 on the standard scale” rhoddir “the statutory maximum”; a
(ii)hepgorir y geiriau “not exceeding the statutory maximum” yn union ar ôl y gair “fine” lle mae'n ymddangos yr ail dro.
(4) Yn yr Atodlen
(i)ym mharagraff 9, ar ôl is-baragraff (2), mewnosodir y canlynol —
“(3) Subparagraph (2)(b)(i) shall have effect in relation to all nitrate vulnerable zones in Wales except Dyserth and Trelech as if “2006” were substituted for “2002””;
(ii) yn lle paragraff 15 rhoddir —
“15. Any record of an event made for the purposes of paragraph 14 shall be retained for a period of 5 years after that event.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Lloegr a Chymru) 1998.
Yn benodol, mewn perthynas â'r ardaloedd pellach hynny a ddynodwyd yn barthau perygl nitradau yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Dŵ r Rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002, maent yn darparu bod y dyddiad ar gyfer y lluosydd 210kg sydd wedi'i nodi ym mharagraff 9(2)(b)(i) o'r Atodlen yn cael ei estyn i 19 Rhagfyr 2006. Mewn perthynas â'r ardaloedd hynny a ddynodwyd yn barthau perygl nitradau cyn Rheoliadau 2002, 19 Rhagfyr 2002 yw'r dyddiad perthnasol o hyd.
Mae'r Rheoliadau hefyd
(a)yn diwygio'r diffiniad o “nitrate vulnerable zones”;
(b)yn diwygio rheoliad 8 i ddarparu, o gollfarnu'n ddiannod, ar gyfer dirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol ac, o gollfarnu ar dditiad, ar gyfer dirwy ddigyfyngiad; ac
(c)yn rhoi paragraff 15 newydd yn lle paragraff 15 o'r Atodlen.
Gweler Erthygl 3 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 2) 2001 (OS 2001/2555) ac Atodlen 2, paragraff 2 iddo.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys