- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
12.—(1) Ni chaiff neb symud anifail o unrhyw safle oni bai bod y symudiad yn cael ei wneud o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd.
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i unrhyw symudiad a awdurdodwyd drwy drwydded o dan erthygl 10 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(1) (trwyddedau'n ymwneud â moch anwes).
13.—(1) Pan fo trwydded gyffredinol wedi'i dyroddi o dan erthygl 12, caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi hysbysiad yn gwahardd—
(a)symud o dan awdurdod y drwydded honno unrhyw anifail o unrhyw safle a bennir yn yr hysbysiad; neu
(b)unrhyw berson a bennir yn yr hysbysiad rhag symud anifeiliaid o dan awdurdod y drwydded honno naill ai'n gyffredinol neu i unrhyw safle a bennir yn yr hysbysiad neu oddi yno.
(2) Ni chaiff hysbysiad ei ddyroddi o dan baragraff (13) ond ar gyngor arolygydd, y mae'n rhaid iddo fod o'r farn —
(a)nad yw'r person a bennir yn yr hysbysiad yn cydymffurfio neu nad yw wedi cydymffurfio â darpariaethau'r Gorchymyn hwn mewn perthynas ag anifeiliaid a symudwyd i'r safle o dan sylw neu oddi arno, neu mewn perthynas â symud unrhyw anifeiliaid eraill, os y person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo yw ceidwad yr anifeiliaid hynny neu os bu'n geidwad yr anifeiliaid hynny ar unrhyw adeg, a
(b)bod angen cyflwyno hysbysiad i atal y posibilrwydd y bydd clefydau yn lledaenu.
(3) Mae hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(a) i gael ei gyflwyno i feddianwyr pob un o'r safleoedd a bennir yn yr hysbysiad ac mewn unrhyw ffordd arall y gwêl y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn dda i ddwyn yr hysbysiad i sylw'r personau y mae'r hysbysiad yn effeithio arnynt.
(4) Mae hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(b) i gael ei gyflwyno i'r person sy'n cael ei wahardd gan yr hysbysiad rhag symud anifeiliaid ac i feddiannydd unrhyw safle a enwir yn benodol yn yr hysbysiad.
(5) Rhaid i hysbysiad fod yn ysgrifenedig, a chaiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaiff ei ddiwygio, ei atal dros dro, neu ei ddirymu ar unrhyw adeg gan hysbysiad arall gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.
14.—(1) O ran anifail a symudir o dan drwydded benodol—
(a)rhaid iddo gael ei symud ar hyd y llwybr mwyaf uniongyrchol sydd ar gael i'r gyrchfan a bennir yn y drwydded, a
(b)rhaid i'r drwydded fynd gydag ef ar hyd y daith.
(2) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw anifail a symudir o dan drwydded benodol, os myn cwnstabl neu arolygydd neu unrhyw un arall o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol, yr Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod lleol —
(a)dangos y drwydded;
(b)caniatáu i gopi ohoni neu o ddyfyniad ohoni gael ei gymryd; ac
(c)os gofynnir hynny iddo, roi ei enw a'i gyfeiriad.
(3) Rhaid i bob anifail sy'n cael ei symud o dan awdurdod trwydded o dan y Gorchymyn hwn gael ei gadw ar wahân i unrhyw anifail nad yw'n cael ei symud o dan awdurdod y drwydded honno, a hynny ar hyd y daith.
(4) Pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud o dan drwydded benodol, yna, onid yw'r drwydded yn darparu fel arall, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo—
(a)sicrhau y rhoddir y drwydded iddo ef neu i'w gynrychiolydd cyn caniatáu i'r anifeiliaid gael eu dadlwytho; a
(b)cadw'r drwydded am chwe mis ac yn ystod y cyfnod hwnnw ei dangos i arolygydd os gofynnir am ei gweld.
15. Pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud o dan drwydded gyffredinol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod gan y person sy'n symud yr anifeiliaid ddogfen symud, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo—
(a)sicrhau y rhoddir iddo ef neu i'w gynrychiolydd y copi uchaf o'r ddogfen symud cyn caniatáu dadlwytho'r anifeiliaid;
(b)llenwi'r copi uchaf i ddangos ei fod ef wedi cael yr anifeiliaid, llofnodi'r copi, a'i anfon i'r awdurdod lleol yn ddi-oed; ac
(c)ar ôl ei llenwi cadw copi o'r ddogfen am chwe mis ac yn ystod y cyfnod hwnnw ei ddangos i arolygydd os gofynnir am ei weld.
16. Pan fydd arolygydd awdurdod lleol yn dyroddi trwydded o dan erthygl 12(1), rhaid iddo gadw copi o'r drwydded am chwe mis.
17. Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â thrwydded, caniatâd, awdurdodiad neu hysbysiad a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn, caiff un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, neu arolygydd, drefnu y cydymffurfir ag ef a hynny ar draul y person sy'n methu â chydymffurfio.
18. Bydd trwydded a ddyroddir gan yr awdurdod cymwys yn yr Alban neu yn Lloegr at ddibenion symud anifeiliaid yn weithredol yng Nghymru fel pe buasai wedi'i dyroddi o dan y Gorchymyn hwn.
O.S. 2002/2303, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/170 (Cy.30).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys