Search Legislation

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 3Trwyddedau

Y gofyniad am drwydded i symud anifeiliaid

12.—(1Ni chaiff neb symud anifail o unrhyw safle oni bai bod y symudiad yn cael ei wneud o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd.

(2Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i unrhyw symudiad a awdurdodwyd drwy drwydded o dan erthygl 10 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(1) (trwyddedau'n ymwneud â moch anwes).

Hysbysiadau sy'n gwahardd symud o dan drwydded gyffredinol

13.—(1Pan fo trwydded gyffredinol wedi'i dyroddi o dan erthygl 12, caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi hysbysiad yn gwahardd—

(a)symud o dan awdurdod y drwydded honno unrhyw anifail o unrhyw safle a bennir yn yr hysbysiad; neu

(b)unrhyw berson a bennir yn yr hysbysiad rhag symud anifeiliaid o dan awdurdod y drwydded honno naill ai'n gyffredinol neu i unrhyw safle a bennir yn yr hysbysiad neu oddi yno.

(2Ni chaiff hysbysiad ei ddyroddi o dan baragraff (13) ond ar gyngor arolygydd, y mae'n rhaid iddo fod o'r farn —

(a)nad yw'r person a bennir yn yr hysbysiad yn cydymffurfio neu nad yw wedi cydymffurfio â darpariaethau'r Gorchymyn hwn mewn perthynas ag anifeiliaid a symudwyd i'r safle o dan sylw neu oddi arno, neu mewn perthynas â symud unrhyw anifeiliaid eraill, os y person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo yw ceidwad yr anifeiliaid hynny neu os bu'n geidwad yr anifeiliaid hynny ar unrhyw adeg, a

(b)bod angen cyflwyno hysbysiad i atal y posibilrwydd y bydd clefydau yn lledaenu.

(3Mae hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(a) i gael ei gyflwyno i feddianwyr pob un o'r safleoedd a bennir yn yr hysbysiad ac mewn unrhyw ffordd arall y gwêl y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn dda i ddwyn yr hysbysiad i sylw'r personau y mae'r hysbysiad yn effeithio arnynt.

(4Mae hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(b) i gael ei gyflwyno i'r person sy'n cael ei wahardd gan yr hysbysiad rhag symud anifeiliaid ac i feddiannydd unrhyw safle a enwir yn benodol yn yr hysbysiad.

(5Rhaid i hysbysiad fod yn ysgrifenedig, a chaiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaiff ei ddiwygio, ei atal dros dro, neu ei ddirymu ar unrhyw adeg gan hysbysiad arall gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.

Trwyddedau penodol

14.—(1O ran anifail a symudir o dan drwydded benodol—

(a)rhaid iddo gael ei symud ar hyd y llwybr mwyaf uniongyrchol sydd ar gael i'r gyrchfan a bennir yn y drwydded, a

(b)rhaid i'r drwydded fynd gydag ef ar hyd y daith.

(2Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw anifail a symudir o dan drwydded benodol, os myn cwnstabl neu arolygydd neu unrhyw un arall o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol, yr Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod lleol —

(a)dangos y drwydded;

(b)caniatáu i gopi ohoni neu o ddyfyniad ohoni gael ei gymryd; ac

(c)os gofynnir hynny iddo, roi ei enw a'i gyfeiriad.

(3Rhaid i bob anifail sy'n cael ei symud o dan awdurdod trwydded o dan y Gorchymyn hwn gael ei gadw ar wahân i unrhyw anifail nad yw'n cael ei symud o dan awdurdod y drwydded honno, a hynny ar hyd y daith.

(4Pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud o dan drwydded benodol, yna, onid yw'r drwydded yn darparu fel arall, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo—

(a)sicrhau y rhoddir y drwydded iddo ef neu i'w gynrychiolydd cyn caniatáu i'r anifeiliaid gael eu dadlwytho; a

(b)cadw'r drwydded am chwe mis ac yn ystod y cyfnod hwnnw ei dangos i arolygydd os gofynnir am ei gweld.

Trwyddedau cyffredinol

15.  Pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud o dan drwydded gyffredinol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod gan y person sy'n symud yr anifeiliaid ddogfen symud, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo—

(a)sicrhau y rhoddir iddo ef neu i'w gynrychiolydd y copi uchaf o'r ddogfen symud cyn caniatáu dadlwytho'r anifeiliaid;

(b)llenwi'r copi uchaf i ddangos ei fod ef wedi cael yr anifeiliaid, llofnodi'r copi, a'i anfon i'r awdurdod lleol yn ddi-oed; ac

(c)ar ôl ei llenwi cadw copi o'r ddogfen am chwe mis ac yn ystod y cyfnod hwnnw ei ddangos i arolygydd os gofynnir am ei weld.

Copïau o drwyddedau

16.  Pan fydd arolygydd awdurdod lleol yn dyroddi trwydded o dan erthygl 12(1), rhaid iddo gadw copi o'r drwydded am chwe mis.

Cydymffurfio â thrwyddedau, etc

17.  Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â thrwydded, caniatâd, awdurdodiad neu hysbysiad a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn, caiff un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, neu arolygydd, drefnu y cydymffurfir ag ef a hynny ar draul y person sy'n methu â chydymffurfio.

Trwyddedau a ddyroddir yn yr Alban neu yn Lloegr

18.  Bydd trwydded a ddyroddir gan yr awdurdod cymwys yn yr Alban neu yn Lloegr at ddibenion symud anifeiliaid yn weithredol yng Nghymru fel pe buasai wedi'i dyroddi o dan y Gorchymyn hwn.

(1)

O.S. 2002/2303, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/170 (Cy.30).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources