Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

  • mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr ag y sydd i “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 95/2/EC” (“Directive 95/2/EC”) yw Cyfarwyddeb 95/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd heblaw lliwiau a melysyddion(1);

  • ystyr “cynnyrch dynodedig” (“designated product”), yn ddarostyngedig i baragraff (2), yw unrhyw fwyd a bennir yng Ngholofn 2 o Atodlen 1;

  • ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu heblaw am y canlynol —

    (a)

    at ddibenion ailwerthu;

    (b)

    at ddibenion sefydliad arlwyo; neu

    (c)

    at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.

  • ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), o ran unrhyw gynnyrch dynodedig yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw yng Ngholofn 1 o Atodlen 1;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sydd yn Barti Contractio i'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd(2) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992, fel y'i haddaswyd gan y Protocol(3) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;

  • ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(4)); ac

  • ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) os yw bwyd, wrth gynnal busnes, yn cael ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb baratoi pellach.

(2Er gwaethaf y ffaith bod bwyd yn cael ei bennu yng Ngholofn 2 o Atodlen 1, caiff ei drin fel “cynnyrch dynodedig” ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn dim ond —

(a)os cafodd ei baratoi o unrhyw ddeunydd ffrwythau a ddisgrifir yn Atodlen 2 a hynny naill ai gyda neu heb unrhyw ddeunydd crai arall a restrir yn yr Atodlen honno;

(b)os yw'n cynnwys unrhyw gynhwysyn ychwanegol, os yw'r cynhwysyn hwnnw wedi'i awdurdodi ar gyfer y bwyd dan sylw gan Atodlen 3;

(c)ac yntau'n fwyd ac iddo'r disgrifiad neilltuedig “sudd ffrwythau”, “sudd ffrwythau dwysedig”, “sudd ffrwythau o ddwysfwyd”, neu “sudd ffrwythau dadhydradedig neu sudd powdr”, os nad yw wedi'i baratoi drwy ychwanegu ato—

(i)siwgrau a sudd lemon ill dau (boed ddwysedig neu beidio), neu

(ii)siwgrau a chyfryngau asideiddio ill dau fel a ganiateir gan Gyfarwyddeb 95/2/EC,

(ch)os y'i paratowyd drwy ddefnyddio unrhyw driniaeth neu sylwedd ychwanegol, os yw'r driniaeth neu'r sylwedd wedi'u pennu yn Atodlen 4; a

(d)ac yntau'n fwyd ac iddo'r disgrifiad neilltuedig “neithdar ffrwythau”, os yw'n cynnwys yr isafswm o sudd neu biwrî a bennir yn Atodlen 5 ynghyd â'r Nodyn i'r Atodlen honno.

(1)

OJ Rhif L61, 18.3.1995, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 98/72/EC (OJ Rhif L295, 4.11.1998, t.18).

(2)

OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.

(3)

OJ Rhif L1, 3.1.94, t.571.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill