- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr ag y sydd i “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “Cyfarwyddeb 95/2/EC” (“Directive 95/2/EC”) yw Cyfarwyddeb 95/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd heblaw lliwiau a melysyddion(1);
ystyr “cynnyrch dynodedig” (“designated product”), yn ddarostyngedig i baragraff (2), yw unrhyw fwyd a bennir yng Ngholofn 2 o Atodlen 1;
ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu heblaw am y canlynol —
at ddibenion ailwerthu;
at ddibenion sefydliad arlwyo; neu
at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.
ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), o ran unrhyw gynnyrch dynodedig yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw yng Ngholofn 1 o Atodlen 1;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sydd yn Barti Contractio i'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd(2) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992, fel y'i haddaswyd gan y Protocol(3) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;
ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(4)); ac
ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) os yw bwyd, wrth gynnal busnes, yn cael ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb baratoi pellach.
(2) Er gwaethaf y ffaith bod bwyd yn cael ei bennu yng Ngholofn 2 o Atodlen 1, caiff ei drin fel “cynnyrch dynodedig” ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn dim ond —
(a)os cafodd ei baratoi o unrhyw ddeunydd ffrwythau a ddisgrifir yn Atodlen 2 a hynny naill ai gyda neu heb unrhyw ddeunydd crai arall a restrir yn yr Atodlen honno;
(b)os yw'n cynnwys unrhyw gynhwysyn ychwanegol, os yw'r cynhwysyn hwnnw wedi'i awdurdodi ar gyfer y bwyd dan sylw gan Atodlen 3;
(c)ac yntau'n fwyd ac iddo'r disgrifiad neilltuedig “sudd ffrwythau”, “sudd ffrwythau dwysedig”, “sudd ffrwythau o ddwysfwyd”, neu “sudd ffrwythau dadhydradedig neu sudd powdr”, os nad yw wedi'i baratoi drwy ychwanegu ato—
(i)siwgrau a sudd lemon ill dau (boed ddwysedig neu beidio), neu
(ii)siwgrau a chyfryngau asideiddio ill dau fel a ganiateir gan Gyfarwyddeb 95/2/EC,
(ch)os y'i paratowyd drwy ddefnyddio unrhyw driniaeth neu sylwedd ychwanegol, os yw'r driniaeth neu'r sylwedd wedi'u pennu yn Atodlen 4; a
(d)ac yntau'n fwyd ac iddo'r disgrifiad neilltuedig “neithdar ffrwythau”, os yw'n cynnwys yr isafswm o sudd neu biwrî a bennir yn Atodlen 5 ynghyd â'r Nodyn i'r Atodlen honno.
OJ Rhif L61, 18.3.1995, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 98/72/EC (OJ Rhif L295, 4.11.1998, t.18).
OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.
OJ Rhif L1, 3.1.94, t.571.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: