- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Instrument yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol.
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
Rhagolygol
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 9 Ionawr 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 9.1.2004, gweler rhl. 1(1)
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
ystyr “y person perthnasol” (“the relevant person”) —
o ran disgybl a oedd yn 10 oed neu'n iau ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y cafodd y disgybl hwnnw ei wahardd, yw un o'i rieni;
o ran disgybl o oedran ysgol gorfodol a oedd yn 11 oed neu'n hŷn ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y cafodd y disgybl hwnnw ei wahardd, yw'r disgybl hwnnw ac un o'i rieni;
o ran disgybl sy'n hŷn nag oedran ysgol gorfodol, yw'r disgybl ei hun;
ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003(1).
(2) Mae unrhyw waharddiad am gyfnod penodedig yn ystod y cyfnod rhwng sesiwn y bore a sesiwn y prynhawn mewn ysgol ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn i'w cymryd yn gyfystyr â chwarter diwrnod ysgol.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 9.1.2004, gweler rhl. 1(1)
3. At ddibenion adran 52(5) o Ddeddf 2002 rhagnodir yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal uned cyfeirio disgyblion(2) fel y corff cyfrifol mewn perthynas â gwaharddiad am gyfnod penodedig o'r uned cyfeirio disgyblion honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 9.1.2004, gweler rhl. 1(1)
4. Ni chaiff athro neu athrawes â gofal arfer y pŵer o dan adran 52(2) o Ddeddf 2002 er mwyn gwahardd disgybl o'r uned cyfeirio disgyblion am gyfnod neu gyfnodau penodedig, os bydd hynny'n golygu y byddai'r plentyn yn cael ei wahardd am fwy na 45 diwrnod ysgol mewn unrhyw flwyddyn ysgol unigol.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 9.1.2004, gweler rhl. 1(1)
5.—(1) Os bydd athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl am gyfnod penodedig, rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal yn ddi-oed gymryd camau rhesymol i hysbysu'r person perthnasol o'r materion canlynol —
(a)cyfnod y gwaharddiad;
(b)y rhesymau dros y gwaharddiad;
(c)y caiff roi sylwadau am y gwaharddiad i'r awdurdod addysg lleol a chaiff y disgybl sydd wedi'i wahardd roi sylwadau hefyd am y gwaharddiad i'r awdurdod addysg lleol os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw; ac
(ch)drwy ba ddull y caniateir i'r sylwadau hynny gael eu rhoi.
(2) Os bydd athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl am gyfnod penodedig mewn amgylchiadau y byddai'r disgybl, yn sgil y gwaharddiad —
(a)yn cael ei wahardd o'r uned cyfeirio disgyblion am gyfanswm o fwy na phum diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu
(b)yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus,
rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal hysbysu'r awdurdod addysg lleol yn ddi-oed o gyfnod y gwaharddiad a'r rheswm drosto.
(3) Os bydd athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd unrhyw ddisgybl yn barhaol neu'n penderfynu y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig yn waharddiad parhaol, rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal yn ddi-oed —
(a)cymryd camau rhesymol i hysbysu'r person perthnasol a'r awdurdod addysg lleol o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto; a
(b)yn ychwanegol roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person perthnasol o'r penderfyniad gan ddatgan y materion canlynol —
(i)y rhesymau dros y penderfyniad,
(ii)ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad,
(iii)y person y dylai roi unrhyw hysbysiad apêl iddo,
(iv)bod yn rhaid i unrhyw hysbysiad apêl gynnwys seiliau'r apêl, a
(v)y dyddiad olaf y ceir gwneud yr apêl.
(4) Ceir rhoi'r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b) naill ai —
(a)drwy ei draddodi â llaw i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol, neu
(b)drwy ei anfon drwy bost dosbarth cyntaf mewn amlen sydd wedi'i chyfeirio'n briodol ac y mae wedi talu ymlaen llaw amdani i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol.
(5) Ym mhob tymor rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal hysbysu'r awdurdod addysg lleol o unrhyw waharddiadau na ddônt o fewn paragraffau (2) neu (3) ac yn achos pob gwaharddiad o'r fath rhaid darparu manylion am gyfnod y gwaharddiad a'r rheswm drosto.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 9.1.2004, gweler rhl. 1(1)
6.—(1) Yn ystod pob tymor rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal ddarparu'r wybodaeth ganlynol am bob gwaharddiad i'r awdurdod addysg lleol —
(a)enw, oedran, rhyw a grŵp ethnig y disgybl sydd wedi'i wahardd;
(b)a oes gan y disgybl sydd wedi'i wahardd ddatganiad o anghenion addysgol arbennig sy'n cael ei gadw gan awdurdod addysg lleol o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996(3), a yw'n cael ei asesu ar gyfer datganiad o'r fath neu a yw'n cael cymorth ar ffurf Gweithredu gan yr Ysgol neu Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru(4)” a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf Addysg 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002;
(c)a yw'r disgybl sydd wedi'i wahardd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol;
(ch)cyfnod y gwaharddiad; a
(d)y rheswm dros y gwaharddiad.
(2) Rhaid i awdurdod addysg lleol ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, os bydd yn gofyn amdani, unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod hwnnw wedi'i chael oddi wrth athro neu athrawes â gofal o dan reoliad 5(5) a 6(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 9.1.2004, gweler rhl. 1(1)
7.—(1) Mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys pan hysbysir awdurdod addysg lleol o dan reoliad 5(2) o waharddiad unrhyw ddisgybl am gyfnod penodedig, a bod yr amgylchiadau yn golygu y byddai'r disgybl, yn sgil y gwaharddiad —
(a)yn cael ei wahardd o'r uned cyfeirio disgyblion am gyfanswm o fwy na phymtheg diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu
(b)yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus.
(2) Ym mhob achos o'r fath rhaid i'r awdurdod addysg lleol —
(a)ystyried o dan ba amgylchiadau y cafodd y disgybl ei wahardd;
(b)ystyried unrhyw sylwadau ynghylch y gwaharddiad sy'n cael eu rhoi i'r awdurdod addysg lleol —
(i)gan y person perthnasol yn unol â rheoliad 5(1)(c),
(ii)gan y disgybl sydd wedi'i wahardd yn unol â rheoliad 5(1)(c) os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw, a
(iii)gan yr athro neu'r athrawes sydd â gofal yr uned cyfeirio disgyblion;
(c)caniatáu i bob un o'r canlynol, sef —
(i)y person perthnasol, a
(ii)y disgybl sydd wedi'i wahardd os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw, a
(iii)yr athro neu'r athrawes sydd â gofal yr uned cyfeirio disgyblion,
fynd i gyfarfod â'r awdurdod addysg lleol a rhoi sylwadau llafar am y gwaharddiad; ac
(ch)ystyried unrhyw sylwadau llafar sy'n cael eu rhoi felly.
(3) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried a ddylid derbyn y disgybl yn ôl neu beidio, ac os yw'n ystyried y dylid derbyn y disgybl yn ôl, rhaid iddo'n ychwanegol ystyried a ddylid ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu a ddylid ei dderbyn yn ôl erbyn dyddiad penodol.
(4) Os bydd yr awdurdod addysg lleol yn penderfynu y dylid derbyn disgybl yn ôl, rhaid iddo yn ddi-oed —
(a)rhoi'r cyfarwyddyd priodol i'r athro neu'r athrawes â gofal, a
(b)hysbysu'r person perthnasol o'i benderfyniad.
(5) Rhaid i'r athro neu'r athrawes â gofal gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd gan yr awdurdod addysg lleol i dderbyn disgybl a gafodd ei wahardd yn ôl i'r uned cyfeirio disgyblion.
(6) Os bydd yr awdurdod addysg lleol yn penderfynu na ddylid derbyn disgybl yn ôl, rhaid iddo hysbysu'r person perthnasol a'r athro neu'r athrawes â gofal yn ddi-oed am ei benderfyniad a'r rhesymau drosto.
(7) Os digwydd y canlynol —
(a)bod yr athro neu'r athrawes sydd â gofal uned cyfeirio disgyblion yn gwahardd disgybl am gyfnod penodedig mewn achos nad yw paragraffau (2) i (6) yn gymwys iddo; a
(b)bod yr awdurdod addysg lleol yn cael unrhyw sylwadau sydd wedi'u gwneud yn unol â rheoliad 5(1)(c) gan y person perthnasol ynghylch y gwaharddiad,
rhaid iddo ystyried y sylwadau hynny.
(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i'r awdurdod addysg lleol gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) —
(a)dim cynharach na chwe diwrnod ysgol; a
(b)dim hwyrach na 15 diwrnod ysgol, yn achos gwaharddiad am gyfnod penodedig o fwy na 15 diwrnod ysgol; neu
(c)dim hwyrach na 50 diwrnod ysgol, yn achos gwaharddiad am gyfnod penodedig o 15 diwrnod ysgol neu lai;
ar ôl y dyddiad yr hysbyswyd ef o'r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 5(2).
(9) Os gwaharddwyd disgybl am gyfnod penodedig mewn amgylchiadau lle y byddai, yn sgil y gwaharddiad, yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, rhaid i'r awdurdod addysg lleol (i'r graddau y mae'n ymarferol iddo wneud hynny) gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) cyn y dyddiad y mae'r disgybl i sefyll yr arholiad a beth bynnag dim hwyrach na'r hyn sy'n ofynnol ym mharagraff (8).
(10) Nid yw'r corff llywodraethu i gael ei ryddhau o'r ddyletswydd i gymryd unrhyw gam y cyfeirir ato ym mharagraff (2) am na chafodd ei gymryd o fewn y cyfnodau a bennir ym mharagraffau (8) a (9).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 9.1.2004, gweler rhl. 1(1)
8.—(1) Rhaid i awdurdod addysg lleol wneud trefniadau i alluogi'r person perthnasol i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan yr athro neu'r athrawes â gofal o dan adran 52(2) i wahardd disgybl yn barhaol o uned cyfeirio disgyblion a gynhelir gan yr awdurdod.
(2) Mae'r Atodlen i Reoliadau 2003 yn effeithiol, gyda'r addasiadau a ragnodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, mewn perthynas â gwneud a gwrando ar apelau yn unol â'r trefniadau a wnaed o dan baragraff (1); ac ym mharagraffau (3) i (5) ystyr “panel apêl” yw panel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen i Reoliadau 2003 fel y'u haddaswyd.
(3) Nid yw panel apêl i benderfynu bod disgybl i'w dderbyn yn ôl ddim ond oherwydd i unrhyw berson fethu cydymffurfio ag unrhyw ofynion gweithdrefnol a osodwyd gan neu o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r penderfyniad o dan adran 52(2) o Ddeddf 2002 y mae'r apêl yn cael ei dwyn yn ei herbyn.
(4) Bydd penderfyniad panel apelau ar apêl yn unol â threfniadau a wnaed o dan baragraff (1) yn rhwymol ar y person perthnasol, yr athro neu'r athrawes â gofal a'r awdurdod addysg lleol.
(5) Ar apêl o'r fath caiff y panel apêl —
(a)cadarnhau'r gwaharddiad;
(b)cyfarwyddo bod y disgybl i gael ei dderbyn yn ôl (naill ai ar unwaith neu erbyn dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd), neu
(c)penderfynu oherwydd amgylchiadau eithriadol neu am resymau eraill nad yw'n ymarferol i roi cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i'w dderbyn yn ôl, ond y byddai fel arall wedi bod yn briodol i roi cyfarwyddyd o'r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 9.1.2004, gweler rhl. 1(1)
9. Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw swyddogaethau —
(a)yr athro neu'r athrawes sydd â gofal uned cyfeirio disgyblion,
(b)awdurdod addysg lleol, neu
(c)panel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen i Reoliadau 2003 fel y'u haddaswyd,
o dan adran 52(2) o Ddeddf 2002 neu o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth o'r fath, rhaid i'r cyfryw berson neu gorff roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 9.1.2004, gweler rhl. 1(1)
10.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) dirymir Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 2003(5).
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) i effeithio ar gymhwysiad parhaol y Rheoliadau hynny yn rhinwedd rheoliad 7 o Reoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Rhif 2) (Cymru) 2003(6) (disgyblion sydd wedi'u gwahardd cyn 9 Ionawr 2004).
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 9.1.2004, gweler rhl. 1(1)
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Rhagfyr 2003
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys