Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Clwy Affricanaidd y Moch (Cymru) 2003

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clwy Affricanaidd y Moch (Cymru) 2003 a daw i rym ar 15 Rhagfyr 2003.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn, os nad yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —

ystyr “abwyfa” (“knacker’s yard”) yw unrhyw safle a ddefnyddir mewn cysylltiad â lladd, blingo neu dorri anifeiliaid na fwriedir i'w cig gael ei fwyta gan bobl;

ystyr “carcas” (“carcase”) yw carcas mochyn ac mae'n cynnwys rhan o garcas;

ystyr “y clefyd” (“the disease”) yw clwy Affricanaidd y moch;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “daliad” (“holding”) yw unrhyw fan lle y mae unrhyw fochyn yn cael ei fridio neu ei gadw yn barhaol neu dros dro neu wedi cael eu cadw ar unrhyw adeg yn ystod y 56 diwrnod blaenorol, ond nid yw'n cynnwys lladd-dy, abwyfa, cyfrwng cludo nac ardal wedi ei ffensio lle y cedwir moch fferal y gellir eu hela;

ystyr “daliad a amheuir” (“suspected holding”) yw daliad y mae hysbysiad o dan erthygl 5 wedi cael ei gyflwyno ynglŷn ag ef;

ystyr “daliad heintiedig” (“infected holding”) yw daliad y mae'r Prif Swyddog Milfeddygol wedi cadarnhau bod y clefyd yn bresennol yno;

ystyr “fector” (“vector”) yw torogen o'r rhywogaeth Ornithodorus erraticus neu unrhyw dorogen o'r genws Ornithodorus sydd, ym marn y Prif Swyddog Milfeddygol, â'r gallu i drosglwyddo clwy Affricanaidd y moch;ystyr “y feirws” (“the virus”) yw feirws clwy Affricanaidd y moch;

ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw unrhyw adeilad, safle neu le arall (heblaw cyfleuster trafod anifeiliaid hela a ffermir) ar gyfer cigydda anifeiliaid y bwriedir eu cig i'w fwyta gan bobl, ac mae'n cynnwys unrhyw le sydd ar gael mewn cysylltiad ag ef lle cedwir anifeiliaid cyn eu cigydda;

ystyr “mochyn” (“pig”) yw anifail o dylwyth y suidae;

ystyr “mochyn fferal” (“feral pig”) yw mochyn nas cedwir na bridir ar ddaliad ac nad yw mewn lladd-dy, mewn abwyfa nac ar gyfrwng cludo;

ystyr “y Prif Swyddog Milfeddygol” (“the Chief Veterinary Officer”) yw Prif Swyddog Milfeddygol Prydain Fawr; ac

ystyr “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” (“Divisional Veterinary Manager”) yw'r person a benodir dros dro gan yr Ysgrifennydd Gwladol i gael gwybod am anifeiliaid a charcasau sydd wedi eu heintio neu yr amheuir eu bod wedi eu heintio ar gyfer yr ardal lle y mae'r anifeiliaid neu'r carcasau hynny.

(2At ddibenion y Gorchymyn hwn —

(i)amheuir bod mochyn neu garcas mochyn wedi ei heintio gan y clefyd os oes ganddo arwyddion clinigol neu namau post mortem sy'n cyd-fynd ag effeithiau'r feirws neu os yw canlyniadau prawf diagnostig yn dangos ei bod yn bosib bod y feirws yn bresennol yn yr anifail hwnnw neu'r carcas hwnnw;

(ii)mae mochyn neu garcas mochyn wedi ei heintio gan y clefyd os yw'r Prif Swyddog Milfeddygol yn penderfynu ei fod wedi'i heintio ar sail arwyddion clinigol, neu namau post mortem, neu ganlyniadau prawf diagnostig neu amgylchiadau epidemiolegol.

Eithriadau

3.  Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys pan fo'r feirws yn bresennol mewn amgylchiadau pan fydd trwydded wedi ei rhoi o dan erthygl 4 o Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998(1).

Hysbysu am y clefyd

4.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n amau bod y clefyd yn bresennol mewn unrhyw fochyn neu garcas—

(a)y mae'n berchen arno; neu

(b)sydd yn ei ofal; neu

(c)y mae yn ei archwilio,

hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol yn ddiymdroi.

(2Rhaid i unrhyw berson sy'n dadansoddi samplau a gymerir o unrhyw anifail neu garcas ac sy'n darganfod tystiolaeth o wrthgorffynnau neu antigenau i'r clefyd neu unrhyw frechiad i'r clefyd hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol yn ddiymdroi.

(3Ni chaiff neb symud yr un mochyn na charcas yr amheuir ei fod wedi ei heintio gan y clefyd, nac unrhyw gig, cynnyrch a wnaed o foch, semen, ofwm nac embryo mochyn, porthiant anifeiliaid, tail (tom) na biswail nac unrhyw offer, deunydd na gwastraff y maent yn debygol o drosglwyddo'r clefyd, o'r daliad nac o le arall lle y ceir hyd iddo, oni bai fod arolygydd milfeddygol wedi ymweld â'r daliad neu'r lle arall hwnnw a bod yr arolygydd hwnnw naill ai wedi gorfodi cyfyngiadau o dan erthygl 5 neu wedi hysbysu'r person hwnnw nad oes angen, yn ei farn ef, gwneud hynny.

Camau i'w cymryd tra ymchwilir i amheuaeth o'r clefyd

5.—(1Rhaid i arolygydd milfeddygol sy'n amau bod y clefyd yn bresennol ar unrhyw ddaliad, lladd-dy, abwyfa, lle arall neu gyfrwng cludo, neu y gallasai fod wedi bod yn bresennol yno yn y 56 diwrnod blaenorol, os yw hysbysiad wedi ei roi o dan erthygl 4 ai peidio —

(a)cyflwyno hysbysiad —

(i)i feddiannydd y daliad gan orfodi'r cyfyngiadau a'r gofynion a nodwyd ym mharagraffau (2) a (3); neu

(ii)i feddiannydd lladd-dy neu abwyfa neu i'r person sy'n ymddangos ei fod â gofal cyfrwng cludo yn nodi pa rai o'r cyfyngiadau a'r gofynion a nodir ym mharagraffau (2) a (3) isod sy'n ymddangos yn berthnasol i'r arolygydd milfeddygol; a

(b)gwneud archwiliad i gadarnhau bod y clefyd yn bresennol neu'n absennol.

(2Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff 1 rhaid i'r meddiannydd —

(a)paratoi, o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol, gofnod yn ôl y categorïau canlynol —

(i)sawl mochyn sydd;

(ii)sawl mochyn sydd, yn ôl eu golwg, heb y clefyd;

(iii)sawl mochyn sydd, yn ôl eu golwg, â'r clefyd arnynt;

(iv)sawl mochyn sydd wedi marw yn ystod y 56 diwrnod cyn dyddiad yr hysbysiad;

(b)sicrhau bod y cofnod yn cael ei ddiweddaru i gynnwys y moch sy'n cael eu geni a'r rhai sy'n marw yn ystod y cyfnod pan fo'r cyfyngiadau a'r gofynion o dan y paragraff hwn a pharagraff (3) mewn grym a chofnodi sawl mochyn sy'n mynd yn sâl a fu gynt, yn ôl eu golwg, heb y clefyd;

(c)dangos y cofnod i arolygydd ar ei gais;

(ch)sicrhau bod pob mochyn ar y safle yn cael ei gadw yn ei dwlc neu yn rhyw le arall a bennir yn yr hysbysiad;

(d)sicrhau, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arolygydd milfeddygol, bod dulliau priodol o ddiheintio yn cael eu rhoi wrth fynedfeydd ac allanfeydd y rhannau hynny o'r safle lle cedwir y moch a'r safle ei hunan.

(3Pan fydd hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan baragraff (1), ni chaiff neb —

(a)symud unrhyw fochyn i'r safle neu oddi yno os na wneir hynny yn unol â thrwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol a rhaid i'r meddiannydd sicrhau nad yw'r moch yn gallu crwydro o'r tir a'r adeiladau nac i mewn iddynt;

(b)symud unrhyw gig, carcas mochyn, cynnyrch a wnaed o foch, semen, ofwm nac embryo mochyn, nac unrhyw borthiant anifeiliaid, offer, deunydd na gwastraff nac unrhyw beth arall y maent yn debygol o drosglwyddo'r clefyd o'r safle, heblaw os yw hynny'n cael ei wneud yn unol â thrwydded a roddwyd gan arolygydd;

(c)dod i mewn i'r safle nac ohono os nad yw'n gwneud hynny yn unol â thrwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol;

(ch)symud unrhyw gerbyd i mewn i'r safle nac oddi yno os nad yw'n cael ei wneud yn unol â thrwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol.

(4Pan fydd gan arolygydd milfeddygol seiliau dros amau presenoldeb fectorau ar safle penodol yn sgil ei leoliad, ei sefyllfa ddaearyddol neu ei gysylltiadau â safle lle y gwyddir neu yr amheuir bod y clefyd yn bodoli (yng Nghymru neu rywle arall) caiff yr arolygydd milfeddygol hwnnw, neu arolygydd yn gweithio o dan ei gyfarwyddiadau, gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y safle penodol, ac o wneud hynny, caiff arolygydd milfeddygol, arolygydd neu swyddog arall y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol fynd ar y safle penodol.

Camau pellach i'w cymryd os yw hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan erthygl 5

6.  Os yw hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan erthygl 5, caiff arolygydd milfeddygol, drwy gyflwyno hysbysiad pellach i feddiannydd y daliad, lladd-dy, abwyfa neu unrhyw le arall neu i'r person y mae'n ymddangos iddo sydd â gofal y cyfrwng cludo —

(a)gwahardd symud unrhyw rywogaeth arall o anifail i mewn i'r safle neu oddi yno;

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd gymryd pob cam rhesymol i ddifa cnofilod a phryfed ar y safle;

(c)ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd neu'r person sy'n ymddangos ei fod â gofal y cyfrwng cludo lanhau a diheintio'r safle neu'r cyfrwng cludo a hynny ar ei draul ei hun neu ar draul yr Ysgrifennydd Gwladol mewn unrhyw fodd a bennir yn yr hysbysiad, ac o fewn unrhyw amser a bennir felly; ac

(ch)yn achos cyfrwng cludo, ei gwneud yn ofynnol ei fod—

(i)yn cael ei ddwyn i'r gyrchfan a bennir yn yr hysbysiad;

(ii)yn cael ei ddadlwytho, ei lanhau a'i ddiheintio ac, os oes angen, defnyddio gwiddonladdwr arno, fel a bennir yn yr hysbysiad; a

(iii)os pennir hynny, yn cael ei ddadlwytho, ei lanhau a'i ddiheintio a defnyddio gwiddonladdwr arno o dan oruchwyliaeth arolygydd milfeddygol.

Camau i'w cymryd os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol ar ddaliad

7.—(1Os yw'r Prif Swyddog Milfeddygol wedi cadarnhau bod y clefyd yn bresennol ar ddaliad, rhaid i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad o dan yr erthygl hon i feddiannydd y daliad hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau y cydymffurfir â'r cyfyngiadau a'r gofynion a geir yn erthygl 5 onid oes hysbysiad o'r fath o dan erthygl 5 wedi ei gyflwyno eisoes ac yn yr achos hwnnw fe fydd y cyfyngiadau a'r gofynion a gynhwysir ynddo yn parhau mewn grym hyd nes y byddant yn cael eu hamrywio neu eu disodli gan arolygydd milfeddygol.

(2Pan geir cadarnhad o'r fath caiff arolygydd milfeddygol ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, fod y camau hynny a nodir yn erthygl 6 yn cael ei roi ar waith hefyd neu fel y gwêl orau.

Camau i'w cymryd os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol mewn lladd-dy, abwyfa neu ar gyfrwng cludo

8.  Os yw'r Prif Swyddog Milfeddygol wedi cadarnhau bod y clefyd yn bresennol mewn lladd-dy, mewn abwyfa neu ar gyfrwng cludo, caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y lladd-dy, yr abwyfa neu i'r person y mae'r cyfrwng cludo yn ei ofal, yn ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau—

(a)yn achos lladd-dy neu abwyfa, bod pob adeilad, cyfarpar a cherbyd a bennir yn yr hysbysiad yn cael ei lanhau a'i ddiheintio ac, os oes angen, defnyddio gwiddonladdwr arno, yn unol â chyfarwyddiadau, ac o dan oruchwyliaeth arolygydd milfeddygol;

(b)yn achos cyfrwng cludo, ei fod yn cael ei gymryd i gyrchfan, ei ddadlwytho, ei lanhau a'i ddiheintio ac, os oes angen, defnyddio gwiddonladdwr arno, yn unol â chyfarwyddiadau, ac o dan oruchwyliaeth arolygydd milfeddygol;

(c)na ddeuir â'r un mochyn i mewn i'r lladd-dy, yr abwyfa na'r cyfrwng cludo nes bydd o leiaf 24 awr wedi mynd heibio ers cwblhau'r gwaith glanhau a diheintio ac, os gwnaed hynny, defnyddio gwiddonladdwr arno, yn unol ag is-baragraffau (a) a (b) uchod.

Camau i'w cymryd o ran daliadau y mae'n bosib y cafodd y clefyd ei drosglwyddo iddynt neu ohonynt

9.—(1Os, yn sgil ymchwiliad i epidemioleg y clefyd ar ddaliad, y mae arolygydd milfeddygol o'r farn bod y clefyd sydd ar ddaliad sydd wedi ei heintio neu ddaliad a amheuir efallai wedi cael ei drosglwyddo i safle arall, neu ohono, caiff gyflwyno hysbysiad o dan erthygl 5 i feddiannydd y safle arall hwnnw.

(2Os yw'r clefyd wedi ei ganfod ar anifeiliaid mewn lladd-dy, mewn abwyfa neu ar gyfrwng cludo, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad o dan erthygl 5 i feddiannydd unrhyw safle y mae'r anifeiliaid neu garcasau heintiedig sydd yn y lladd-dy hwnnw, yr abwyfa honno neu'r cyfrwng cludo hwnnw wedi dod ohono yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o fewn y 56 diwrnod blaenorol neu, yn achos cyfrwng cludo, unrhyw safle y mae'r cyfwng cludo hwnnw wedi teithio iddo ers hynny.

Parth Rheoli Dros Dro

10.—(1Yn sgil cyflwyno hysbysiad o dan erthygl 5, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn datganiadol, sefydlu parth a elwir “parth rheoli dros dro”.

(2Pan fydd parth rheoli dros dro wedi cael ei sefydlu yn Lloegr sy'n cyffwrdd â ffin Cymru caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel y barna'n angenrheidiol, sefydlu parth rheoli dros dro cysylltiedig yng Nghymru.

(3Rhaid i'r parth rheoli dros dro fod wedi ei leoli a bod o'r fath faint ag sydd ei angen, ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu.

(4Os yw parth rheoli dros dro wedi ei sefydlu, ni chaiff neb —

(a)symud yr un mochyn o unrhyw ddaliad, lladd-dy neu abwyfa yn y parth ac eithrio yn unol â thrwydded a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu'n unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol;

(b)symud unrhyw wartheg, defaid, geifr nac anifail cnoi cil arall o unrhyw ddaliad, lladd-dy neu abwyfa yn y parth y mae moch ynddi ac eithrio yn unol â thrwydded a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu'n unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol; nac

(c)symud yr un mochyn allan o'r parth.

(5Ni fydd y cyfyngiad ym mharagraff (4)(c) yn gymwys i foch sydd wedi eu llwytho ar gerbyd y tu allan i'r parth a'u cludo drwyddo heb i'r cerbyd gael ei lwytho na'i ddadlwytho.

(6Ystyrir bod unrhyw ddaliad, lladd-dy neu abwyfa sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth rheoli dros dro yn gyfan gwbl y tu mewn i'r parth hwnnw.

Parthau diogelu a goruchwylio

11.—(1Pan gadarnheir gan y Prif Swyddog Milfeddygol fod y clefyd yn bresennol, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn datganiadol, sefydlu ardal heintiedig ag iddi barth a elwir yn “barth diogelu” a pharth a elwir yn “barth goruchwylio”.

(2Mae'r parth diogelu i gwmpasu ardal sydd o leiaf tri chilometr ei radiws mewn parth goruchwylio sy'n cwmpasu ardal sydd o leiaf deg cilometr ei radiws, a'r daliad, y lladd-dy neu'r abwyfa y cadarnhawyd bod y clefyd yn bresennol yno fydd canolbwynt y ddau barth.

(3Mae Rhan I o Atodlen 1 yn gymwys i barth diogelu a Rhan II o Atodlen 1 yn gymwys i barth goruchwylio.

(4Os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol ar ddaliad, lladd-dy neu abwyfa yn Lloegr sydd o fewn 10 cilometr i'r ffin â Chymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn datganiadol, sefydlu ardal heintiedig yng Nghymru fel y bydd parth diogelu sydd o leiaf tri chilometr ei radiws wedi ei gynnwys mewn parth goruchwylio sydd o leiaf 10 cilometr ei radiws, a'r daliad yn Lloegr y cadarnhawyd bod y clefyd yn bresennol ynddo fydd canolbwynt y ddau.

(5Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymryd unrhyw gamau sydd, yn ei farn, eu hangen i sicrhau bod pob person mewn ardal heintiedig yn llwyr ymwybodol o'r cyfyngiadau sydd mewn grym, gan gynnwys drwy roi hysbysiadau neu arwyddion ar eiddo sydd o fewn yr ardal heintiedig.

(6Rhaid i unrhyw ddaliad, lladd-dy neu abwyfa sydd yn rhannol y tu mewn i barth goruchwylio neu barth diogelu ac yn rhannol y tu allan gael ei drin fel petai i gyd o fewn y parth hwnnw.

Glanhau a diheintio

12.—(1Wrth ddiheintio o dan y Gorchymyn hwn, rhaid defnyddio diheintydd sydd wedi ei gymeradwyo at y diben hwnnw o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978(2).

(2Rhaid i widdonladdwyr a ddefnyddir at ddibenion y Gorchymyn hwn fod wedi'u cofrestru o dan Reoliadau Rheoli Plaladdwyr 1986(3) neu wedi'u hawdurdodi o dan Reoliadau Cynhyrchion Bywleiddaidd 2002(4).

(3Rhaid i weithrediadau glanhau a diheintio ac, os yw'n bridol, defnyddio gwiddonladdwr ar safle gael eu gwneud o dan oruchwyliaeth arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.

Parth ymchwilio moch fferal

13.—(1Os oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru reswm i gredu bod y clefyd yn bresennol ymhlith moch fferal yng Nghymru neu os oes parth archwilio moch fferal wedi cael ei sefydlu yn Lloegr sy'n cyffwrdd â ffin Cymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn datganiadol, sefydlu parth ymchwilio moch fferal yng Nghymru y mae darpariaethau paragraff (3) yn gymwys iddo.

(2Rhaid i'r parth ymchwilio moch fferal gwmpasu'r ardal sydd, ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ei hangen er mwyn ei alluogi i wneud archwiliad i gadarnhau bod y clefyd yn bresennol neu'n absennol.

(3Rhaid i unrhyw berson sy'n saethu moch fferal neu sy'n cael hyd i garcas moch fferal mewn ardal ymchwilio moch fferal roi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol. Os yw'r person wedi saethu'r mochyn, rhaid iddo gadw'r carcas am 24 awr a sicrhau ei fod ar gael i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar gyfer unrhyw samplu neu brofion sydd, ym marn y Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol, yn briodol.

Camau i'w cymryd os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol mewn mochyn fferal

14.—(1Os cadarnheir bod y clefyd yn bresennol mewn mochyn fferal yng Nghymru, neu os datgenir ardal heintiedig yn Lloegr sy'n cyffwrdd â ffin Cymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy orchymyn datganiadol sefydlu ardal heintiedig a'i maint yn ddigon i gwmpasu'r ardal yr amheuir bod y clefyd yn bresennol ynddi.

(2Caiff y gorchymyn datganiadol ym mharagraff (1) osod unrhyw rai o gyfyngiadau a gofynion Atodiad 2, neu'r cyfan ohonynt, yn yr ardal heintiedig a chaiff hefyd atal hela a gwahardd bwydo moch fferal yn yr ardal honno.

(3Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymryd unrhyw gamau sydd, yn ei farn, eu hangen i sicrhau bod yr holl bersonau mewn ardal heintiedig yn llwyr ymwybodol o'r cyfyngiadau a'r gofynion sydd mewn grym mewn ardal heintiedig, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i feddiannwyr eiddo sydd o fewn yr ardal honno ddangos hysbysiadau neu arwyddion.

(4Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn datganiadol, osod gwaharddiad ar sefydlu daliadau newydd o fewn ardal heintiedig.

(5Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn datganiadol, osod gwaharddiad ar fridio moch o fewn ardal heintiedig, ac eithrio yn unol â thrwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol.

(6Bernir bod unrhyw ddaliad sydd yn rhannol y tu mewn i ardal heintiedig ac yn rhannol y tu allan i gyd o fewn y parth hwnnw.

Brechu

15.  Ni chaiff neb roi brechlyn at glwy Affricanaidd y moch i unrhyw fochyn.

Cydymffurfio

16.—(1Rhaid i unrhyw hysbysiad neu drwydded o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, a chaiff fod yn gyffredinol neu'n benodol, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg ac yn benodol gellir ei atal neu ei ddirymu os yw'r awdurdod dyroddi o'r farn resymol na chydymffurfir â darpariaethau'r Gorchymyn hwn.

(2Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn y Gorchymyn hwn neu ag unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd, neu ag unrhyw hysbysiad neu drwydded a gyflwynwyd o'i herwydd, caiff arolygydd, heb ymrwymiad i unrhyw achos sy'n ymwneud â thramgwydd a fo'n codi o ganlyniad i'r methiant hwnnw, gymryd unrhyw gamau sydd eu hangen i sicrhau y cydymffurfir â'r gofynion, y cyfarwyddyd, yr hysbysiad neu'r drwydded neu i sicrhau iddynt gael eu rhoi ar waith.

(3Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r awdurdod lleol adfer unrhyw dreuliau sy'n deillio o waith arolygydd o dan baragraff (2) fel dyled sifil oddi wrth y person sydd mewn diffyg talu.

Pwerau Arolygwyr ac Arolygwyr Milfeddygol

17.  Caiff arolygydd milfeddygol sy'n mynd ar safle o dan y Gorchymyn hwn —

(a)archwilio unrhyw anifail, garcas neu beth;

(b)gwneud unrhyw brofion a chymeryd unrhyw samplau (gan gynnwys samplau gwaed) o unrhyw anifail, carcas neu beth y mae'n ystyried yn angenrheidiol at ddibenion dadansoddi;

(c)marcio unrhyw anifail, carcas neu beth at ddibenion adnabod;

(ch)cadw golwg am bresenoldeb fectorau;

(d)gweithredu i reoli fectorau mewn unrhyw fodd y mae'n ystyried sy'n angenrheidiol;

(dd)ei gwneud yn ofynnol difa, claddu, gwaredu neu drin unrhyw beth;

(e)ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd, unrhyw filfeddyg sydd wedi mynd i weld unrhyw anifail ar y safle ac unrhyw berson sydd wedi bod â gofal neu mewn cysylltiad ag unrhyw anifail o'r fath i'w hysbysu o unrhyw anifail neu safle arall y gallai'r anifail hwnnw fod wedi dod i gysylltiad a hwy;

(f)ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd unrhyw safle ddangos yr hysbysiadau neu'r arwyddion y cyfeirir atynt yn erthygl 11(5).

(2Caiff arolygydd neu unrhyw swyddog y Cynulliad Cenedlaethol sy'n mynd i'r safle—

(a)mynd gydag ef neu hi —

(i)cerbyd (ar yr amod bod mynediad i gerbyd o'r fath yn rhesymol ymarferol);

(ii)y cyfarpar hwnnw y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol; a

(iii)unrhyw berson arall y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol at unrhyw ddiben mewn perthynas â gweithredu a gorfodi'r Gorchymyn hwn.

(b)ymgymryd â chadw golwg am bresenoldeb fectorau o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol; ac

(c)gweithredu unrhyw fesurau rheoli fectorau y mae arolygydd milfeddygol yn eu hystyried yn angenrheidiol.

Gorfodi

18.—(1Heblaw lle y darperir fel arall, yr awdurdod lleol fydd yn gweithredu a gorfodi darpariaethau'r Gorchymyn hwn.

(2Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo, o ran achosion o ddisgrifiad arbennig neu unrhyw achos penodol, fod y ddyletswydd orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan yr erthygl hon i'w chyflawni gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol ac nid gan awdurdod lleol.

Dirymu

19.  Dirymir drwy hyn i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru Orchymyn Clwy Affricanaidd y Moch 1980(5).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Rhagfyr 2003

Llofnodwyd

Ben Bradshaw

Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol

Adran yr Amgylchedd,

Bwyd a Materion Gwledig

13 Rhagfyr 2003

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill