- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Erthygl 14
1. Rhaid i feddiannydd daliad o fewn yr ardal heintiedig baratoi, o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol, cofnod yn ôl y categorïau o foch a gedwir ar y daliad a rhaid iddo sicrhau bod y cofnod yn cael ei ddiweddaru a'i ddangos i arolygydd ar ei gais. Yn achos daliadau lle na chedwir moch y tu mewn, ceir gwneud y cofnod drwy amcangyfrif.
2. Rhaid i'r meddiannydd sicrhau —
(a)bod pob mochyn ar y daliad yn cael eu cyfyngu i'r man lle y cedwir hwy neu i fan arall ar y daliad lle y gellid eu cadw ar wahân i foch fferal; a
(b)bod moch fferal yn cael eu rhwystro rhag mynd at unrhyw ddeunydd y gallai'r moch ar y daliad fynd ato.
3. Ni chaiff neb symud mochyn i mewn i'r daliad nac ohono os nad oes trwydded wedi ei rhoi i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.
4. Rhaid i'r meddiannydd sicrhau bod dull priodol o ddiheintio yn cael ei ddarparu a'i ddefnyddio wrth y mynedfeydd a'r allanfeydd yn y mannau hynny o'r daliad y cedwir moch ynddynt ac wrth fynedfeydd ac allanfeydd y daliad ei hunan.
5. Rhaid i'r meddiannydd sicrhau ei fod yn rhoi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol am unrhyw foch fferal sy'n marw ar y daliad a rhaid iddo gadw carcasau'r moch hynny ar y daliad nes bydd arolygydd milfeddygol wedi rhoi gwybod iddo nad oes angen gwneud hynny rhagor.
6. Ni chaiff neb ddod —
(a)â charcas nac unrhyw ran o fochyn fferal; na
(b)ag unrhyw ddeunydd na chyfarpar y gallai moch fferal yn yr ardal heintiedig fod wedi mynd atynt, i mewn i ddaliad yn yr ardal heintiedig.
7. Ni chaiff neb symud yr un mochyn nac unrhyw semen, ofwm nac embryo o'r ardal heintiedig at ddibenion eu hallforio i Aelod-wladwriaeth arall.
8. Rhaid i unrhyw berson sy'n dod i gysylltiad â mochyn fferal yn yr ardal heintiedig cymryd camau i sicrhau nad yw'n lledaenu'r clefyd.
9. Rhaid i unrhyw berson sy'n saethu mochyn fferal neu'n cael hyd i garcas mochyn fferal roi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol. Os y person hwnnw a saethodd y mochyn, rhaid iddo gadw'r carcas am 24 awr ar ôl rhoi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol a sicrhau ei fod ar gael i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol fel y gallai wneud unrhyw samplu neu brofion sydd, ym marn y Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol, yn briodol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys