Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 503 (Cy.71)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2003

Wedi'u gwneud

4 Mawrth 2003

Yn dod i rym

31 Mawrth 2003

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), a pharagraff 9 o Atodlen 1 a pharagraffau 1(4) a 4 o Atodlen 2 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.

2.  Caiff Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001(3) eu diwygio fel a ganlyn.

3.  Caiff rheoliad 2 ei ddiwygio drwy—

(a)fewnosod y diffiniad canlynol ar ôl y diffiniad o “achos disgyblu” ym mharagraff (1)—

mae i “asiant” (“agent”) yr ystyr a roddir gan adran 15A o Ddeddf 1998(4); a

(b) amnewid y geiriau “rheoliad 8” yn lle'r geiriau “rheoliadau 8 a 28” ym mharagraff (5).

4.  Diwygir rheoliad 8 drwy—

(a) mewnosod y geiriau “Yn ddarostyngedig i baragraff (1A)” ar ddechrau paragraff (1);

(b)fewnosod y paragraff canlynol ar ôl paragraff (1):

(1A) Rhaid i Bwyllgor sy'n delio ag achos yn erbyn person sy'n aelod o'r Cyngor gynnwys un neu fwy aelod lleyg ac un neu fwy aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig, ond ni ddylai gynnwys aelod o'r Cyngor.;

(c)mewnosod y geiriau “Yn ddarostyngedig i baragraff (3A)” ar ddechrau paragraff (3); a

(ch)mewnosod y paragraff canlynol ar ôl paragraff (3):

(3A) Y cworwm ar gyfer cyfarfod o Bwyllgor sy'n delio ag achos yn erbyn person sy'n aelod o'r Cyngor fydd tri aelod, gan gynnwys un aelod lleyg ac un aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig..

5.  Diwygir rheoliad 9 drwy—

(a)amnewid y paragraff canlynol yn lle paragraff (1)(b)—

(b)bod y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn dymuno ystyried yr achos gyda'r bwriad o arfer ei bwerau o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002(5)

(i)ar y seiliau bod person yn anaddas i weithio â phlant, neu

(ii)ar seiliau sy'n ymwneud â chamymddygiad neu iechyd person,

oherwydd bod y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried bod yr achos yn ymwneud â diogelwch a lles person dan 18 oed.; a

(b)amnewid y geiriau “rheoliad 5 neu 7 o Reoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003(6)” yn lle'r geiriau “rheoliad 28” ym mharagraff (2) (b).

6.  Diwygir Rheoliad 18 drwy—

(a)amnewid y paragraff canlynol yn lle paragraff (3)—

(3) Rhaid i orchymyn atal, yn ychwanegol at yr eitemau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1), bennu—

(a)unrhyw amodau y dylai'r athro neu'r athrawes gydymffurfio â hwy cyn y gall fod yn gymwys unwaith eto ar gyfer cofrestru; a

(b)y cyfnod (nad yw'n fwy na dwy flynedd) pan ddaw'r athro neu'r athrawes unwaith eto yn gymwys ar gyfer cofrestru ar ei ddiwedd (yn ddarostyngedig i gydymffurfio ag unrhyw amodau);

(b) ym mharagraff (6) hepgor yr “a” ar ddiwedd is-baragraff (a)(v) a mewnosod y canlynol ar ei ôl—

(va)os gorchymyn atal sy'n pennu amodau yw'r gorchymyn, esboniad o hawl y person i wneud cais am amrywio neu ddiddymu amod a bennwyd yn y gorchymyn a'r dull ar gyfer gwneud cais o'r fath, a; ac

(c)mewnosod ym mharagraff (6)(b) ar ôl y geiriau “gyflogwr presennol neu ddiwethaf” y geiriau “a, lle bo hynny'n berthnasol, asiant”.

7.  Ar ôl rheoliad 21 mewnosodir y rheoliad canlynol—

Cais i amrywio neu neilltuo amod mewn gorchymyn atal

21A.(1) Gall person y mae gorchymyn atal wedi'i wneud mewn perthynas ag ef wneud cais i'r Cyngor i amrywio neu ddiddymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn.

(2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) gael ei wneud yn ysgrifenedig a phennu ar ba sail y mae'r person yn gofyn amrywio neu ddiddymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn, a chyda'r cais rhaid anfon pob dogfen y dibynnir arni i ategu'r cais.

(3) Os cafodd gorchymyn atal y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn.

(4) Os cafodd gorchymyn atal y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Mawrth 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001 ('Rheoliadau 2001'). Mae Rheoliadau 2001 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau disgyblu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, sef corff corfforaethol a sefydlwyd o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 gyda'r nodau o gyfrannu tuag at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu a chynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymysg athrawon er budd y cyhoedd.

Mae rheoliad 8 o Reoliadau 2001 yn cael ei ddiwygio er mwyn darparu bod rhaid i'r Pwyllgor a fydd yn delio ag achos yn erbyn aelod o'r Cyngor beidio â chynnwys aelod arall o'r Cyngor ac i ddarparu ar gyfer y cworwm ar gyfer cyfarfod Pwyllgor o'r fath.

Mae rheoliad 9 o Reoliadau 2001 yn cael ei ddiwygio er mwyn cyfeirio at y pwerau newydd i roi cyfarwyddyd yn Neddf Addysg 2002 ac er mwyn cyfeirio at Reoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003.

Mae Deddf Addysg 2002 yn cyflwyno pwer i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru osod amodau ar unrhyw orchmynion atal y mae'n eu gwneud yn dilyn achos disgyblu yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2001 er mwyn ei gwneud hi'n ofynnol i orchymyn atal gofnodi unrhyw amodau y mae angen i athro neu athrawes gydymffurfio â hwy, ac i'w gwneud hi'n ofynnol i Bwyllgor gynnwys yn yr hysbysiad o'r gorchymyn disgyblu a gyflwynwyd i athro neu athrawes esboniad o'r hawl i wneud cais i amrywio neu ddiddymu amod, a sut i wneud hynny. Gwneir darpariaeth hefyd mewn perthynas â'r dull o wneud cais i amrywio neu ddiddymu amod, a sut yr eir ati i ddelio â cheisiadau o'r fath.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn ychwanegu asiantaeth gyflenwi lle bo hynny'n berthnasol at y rhai y mae'n ofynnol cyflwyno hysbysiad o orchymyn disgyblu iddynt.

(1)

1998 p.30. Mae Adran 6 ac Atodlenni 1 a 2 yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru trwy rinwedd adrannau 8 a 9 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911) o 30 Rhagfyr 1998 ymlaen yn achos Atodlen 1, a 1 Medi 2000 yn achos gweddill y darpariaethau. Diwygir paragraff 1(4) o Atodlen 2, ac amnewidir paragraff 4 o Atodlen 2, gan baragraff 86(2) o Atodlen 21, a pharagraff 12 o Atodlen 12, i Ddeddf Addysg 2002 (p.32), yn eu trefn. Am ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 43(1).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.

(4)

Mewnosodwyd adran 15A gan baragraff 83 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill