- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) ac maent yn gymwys mewn perthynas â chanolfannau preswyl i deuluoedd yng Nghymru. Mae Rhannau I a II o'r Ddeddf yn darparu mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd yn cofrestru ac yn arolygu sefydliadau ac asiantaethau mewn perthynas â Chymru. Mae'r Ddeddf yn darparu hefyd i'r Cynulliad wneud rheoliadau sy'n llywodraethu y ffordd y mae sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu rhedeg mewn perthynas â Chymru.
Mae rheoliad 3 yn eithrio sefydliadau penodol o'r diffiniad o ganolfan breswyl i deuluoedd o dan adran 1 o'r Ddeddf. Mae'r rhain yn cynnwys unrhyw sefydliad sy'n ysbyty yn y gwasanaeth iechyd, yn ysbyty annibynnol, yn glinig annibynnol, yn gartref gofal, yn hostel neu'n lloches rhag trais domestig.
O dan reoliad 4, rhaid i bob canolfan breswyl i deuluoedd gael datganiad o ddiben sy'n cynnwys y materion a nodir yn atodlen 1, ac arweiniad i'r ganolfan ar gyfer y trigolion. Rhaid i'r ganolfan breswyl i deuluoedd gael ei rhedeg mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.
Mae Rhan II yn gwneud darpariaeth ynghylch y personau sy'n rhedeg neu'n rheoli'r cartref, ac mae yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth boddhaol ar gael mewn perthynas â'r materion a ragnodir yn Atodlen 2. Os corff yw'r darparydd, rhaid iddo enwebu unigolyn cyfrifol y mae'n rhaid i'r wybodaeth hon fod ar gael mewn perthynas â hwy (rheoliad 5). Mae rheoliad 6 yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid penodi rheolwr ar gyfer y ganolfan breswyl i deuluoedd, ac mae rheoliad 8 yn gosod gofynion cyffredinol mewn perthynas â rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd yn iawn, a'r angen am hyfforddiant priodol.
Mae Rhan III yn gwneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae canolfannau preswyl i deuluoedd yn cael eu rhedeg, yn enwedig ynghylch iechyd a lles trigolion, amddiffyn plant a llunio cynlluniau lleoliad. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ynghylch staffio canolfannau preswyl i deuluoedd, a ffitrwydd y gweithwyr, ac ynghylch cwynion a chadw cofnodion.
Mae Rhan IV yn gwneud darpariaeth ynghylch addasrwydd tir ac adeiladau, ac ynghylch y rhagofalon tân sydd i'w cymryd. Mae Rhan V yn ymdrin â rheoli canolfannau preswyl i deuluoedd. Mae rheoliad 23 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig adolygu ansawdd y gofal a ddarperir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd. Mae rheoliad 24 yn gosod gofynion mewn perthynas â sefyllfa ariannol y ganolfan breswyl i deuluoedd. Mae rheoliad 25 yn ei gwneud yn ofynnol i'r darparydd cofrestredig ymweld â'r ganolfan breswyl i deuluoedd fel a ragnodir.
Mae Rhan VI yn ymdrin â materion amrywiol sy'n cynnwys rhoi hysbysiadau i'r Cynulliad. Mae rheoliad 31 yn darparu ar gyfer tramgwyddau, gellir cael bod torri'r rheoliadau a bennir yn rheoliad 31 yn dramgwydd ar ran y person cofrestredig. Mae rheoliad 33 yn diwygio Rheoliadau Rheoleiddio Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002 drwy ragnodi'r ffi flynyddol mewn perthynas â chofrestru canolfannau preswyl i deuluoedd.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys