Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 4(1)

ATODLEN 1YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN

1.  Datganiad o nodau ac amcanion y ganolfan breswyl i deuluoedd.

2.  Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau, gan gynnwys manylion y math o lety, sydd i'w darparu gan y ganolfan breswyl i deuluoedd.

3.  Enw a chyfeiriad y darparydd cofrestredig ac enw a chyfeiriad unrhyw reolwr cofrestredig.

4.  Cymwysterau a phrofiad perthnasol y darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig.

5.  Niferoedd y personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd, eu cymwysterau a'u profiad perthnasol.

6.  Strwythur trefniadol y ganolfan breswyl i deuluoedd.

7.  Ffioedd a thaliadau'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

8.  Y meini prawf ar gyfer derbyniadau i'r ganolfan breswyl i deuluoedd, gan gynnwys, fel y bo'n gymwys, oedran isaf ac uchaf y rhieni a'r plant a dderbynnir (os oes oedran isaf ac uchaf).

9.  Disgrifiad o ethos ac athroniaeth sylfaenol y ganolfan breswyl i deuluoedd, ac os yw'r rhain wedi'u seilio ar unrhyw fodel damcaniaethol neu therapiwtig, disgrifiad o'r model hwnnw.

10.  Disgrifiad o unrhyw dechnegau penodol ar gyfer asesu, monitro neu therapi sydd i'w defnyddio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd ac o'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.

11.  Disgrifiad o'r cyngor, y canllawiau a'r cwnsela a ddarperir, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer goruchwyliaeth broffesiynol.

12.  Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys sy'n gysylltiedig â hwy yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

13.  Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion.

14.  Y rheolau ac amodau sy'n gymwys i drigolion, ac o dan ba amgylchiadau y gall lleoliadau gael eu terfynu.

15.  Y trefniadau ar gyfer parchu preifatrwydd ac urddas y trigolion.

16.  Y polisi ynghylch defnyddio cyffuriau ac alcohol yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

17.  Polisi cyfrinachedd y ganolfan breswyl i deuluoedd.

18.  Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant.

Rheoliadau 5, 7, 16

ATODLEN 2YR WYBODAETH Y MAE EI HANGEN MEWN PERTHYNAS Å PHERSONAU SY'N CEISIO RHEDEG NEU REOLI CANOLFAN BRESWYL I DEULUOEDD NEU WEITHIO MEWN UN

1.  Prawf adnabod cadarnhaol.

2.  Naill ai —

(a)os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) o Ddeddf yr Heddlu 1997(1), tystysgrif record droseddol fanwl wedi'i rhoi o dan adran 115 o'r Ddeddf honno; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif record droseddol wedi'i rhoi o dan adran 113 o'r Ddeddf honno,

gan gynnwys yn y naill achos a'r llall, ganlyniad gwiriadau sydd wedi'u cynnal yn unol, yn ôl fel y digwydd, ag adran 113(3A) neu 115(6A) o'r Ddeddf honno.

3.  Dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys tystlythyr oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un.

4.  Pan fo person wedi bod yn gweithio gynt mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau'n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.

5.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

6.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

7.  Gwiriad heddlu, sef adroddiad a gynhyrchir gan neu ar ran prif swyddog heddlu o fewn ystyr Deddf yr Heddlu 1996 sy'n cofnodi, fel y maent adeg cynhyrchu'r adroddiad, yr holl dramgwyddau troseddol —

(a)yr oedd y person wedi'i euogfarnu ohonynt gan gynnwys euogfarnau sydd wedi'u disbyddu fewn ystyr Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974(2) ac y caniateir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(3); neu

(b)y mae'r person wedi'i rybuddio amdanynt ac wedi'u cyfaddef adeg cael y rhybudd.

Rheoliad 19(1)(a)

ATODLEN 3YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN COFNODION ACHOSION

1.  Mewn perthynas â phob aelod o'r teulu —

(a)ei enw llawn a'i gyfeiriad cartref;

(b)unrhyw enw y mae wedi'i adnabod wrtho o'r blaen;

(c)ei ddyddiad geni a'i ryw;

(ch)ei argyhoeddiad crefyddol (os oes un); a

(d)disgrifiad o'i darddiad hiliol, ei gefndir diwylliannol ac ieithyddol.

2.  Enw'r awdurdod lleoli, os oes un, ac enw, cyfeiriad a Rhif ffôn cynrychiolydd i'r awdurdod hwnnw.

3.  Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn unrhyw weithiwr cymdeithasol sydd am y tro wedi'i ddyrannu i unrhyw aelod o'r teulu.

4.  Telerau unrhyw orchymyn llys y mae'r teulu yn cael llety yn y ganolfan breswyl i deuluoedd odano.

5.  Enw a chyfeiriad yr ymarferydd cyffredinol y mae aelodau'r teulu wedi'u cynnwys yn ei restr.

6.  Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn unrhyw ysgol, coleg neu weithle y mae unrhyw aelod o'r teulu'n eu mynychu.

7.  Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw ddigwyddiad difrifol sy'n cynnwys unrhyw aelod o'r teulu, a dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau disgyblu neu ataliad corfforol a ddefnyddiwyd ar unrhyw aelod o'r teulu.

8.  Unrhyw anghenion arbennig o ran deiet, deintyddiaeth neu unrhyw rai eraill o ran iechyd, gan gynnwys manylion unrhyw alergeddau sydd gan unrhyw aelod o'r teulu.

9.  Manylion unrhyw feddyginiaethau sy'n cael eu cadw ar gyfer unrhyw aelod o'r teulu yn y ganolfan breswyl i deuluoedd, a manylion unrhyw feddyginiaethau a roddir i unrhyw un o'r trigolion gan berson sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

10.  Manylion unrhyw ddamwain neu salwch difrifol a gaiff unrhyw aelod o'r teulu tra bo'n cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

11.  Y trefniadau ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd ac unrhyw berson perthnasol arall, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar y cysylltiadau, a manylion unrhyw orchmynion llys sy'n ymwneud â chysylltiadau unrhyw berson â'r plentyn.

12.  Manylion am unrhyw gyfnod pryd y bu unrhyw aelod o'r teulu yn absennol o'r ganolfan breswyl i deuluoedd, ac a gafodd yr absenoldeb ei awdurdodi gan y person cofrestredig neu beidio.

13.  Copi o'r cynllun lleoliad ac unrhyw adolygiad ohono.

14.  Cofnod o unrhyw arian neu bethau gwerthfawr a adneuir gan unrhyw aelod o'r teulu i'w cadw'n ddiogel, ynghyd â'r dyddiad y cafodd yr arian hwnnw ei dynnu neu y cafodd unrhyw bethau gwerthfawr eu dychwelyd.

15.  Y cyfeiriad, a'r math o sefydliad neu lety, y mae'r teulu'n mynd iddo wrth ymadael â'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

Rheoliad 19(3)

ATODLEN 4COFNODION ERAILL MEWN PERTHYNAS Å CHANOLFANNAU PRESWYL I DEULUOEDD

1.  Copi o'r datganiad o ddiben.

2.  Cofnod ar ffurf cofrestr sy'n dangos —

(a)enw, cyfeiriad, dyddiad geni a statws priodasol pob aelod o bob teulu;

(b)y dyddiad y dechreuodd breswylio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;

(c)y dyddiad y peidiodd â chael ei letya yno, a'r rheswm pam;

(ch)enw'r person neu'r corff sy'n gyfrifol am drefnu i'r teulu aros yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;

(d)enw a chyfeiriad ymarferydd cyffredinol a gweithiwr cymdeithasol, os oes un, pob aelod o'r teulu;

(dd)yn achos plentyn, unrhyw orchymyn llys y mae'n dod odano;

(g)yn achos plentyn sy'n destun gorchymyn gofal, enw, cyfeiriad a Rhif ffôn yr awdurdod lleol dynodedig a swyddog yr awdurdod sy'n gyfrifol am achos y plentyn.

3.  Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd damweiniau neu os aiff un o'r trigolion ar goll.

4.  Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os ceir tân.

5.  Cofnod o bob ymarfer tân, dril neu brawf ar offer tân (gan gynnwys larymau tân) a gynhelir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd a chofnod o unrhyw gamau a gymerir i gywiro diffygion yn yr offer tân.

6.  Cofnod dyddiol o'r digwyddiadau yn y ganolfan breswyl i deuluoedd y bydd yn rhaid iddynt gynnwys manylion unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol a fydd yn effeithio ar drigolion —

(a)unrhyw ddamwain;

(b)unrhyw ddigwyddiad sy'n niweidiol i iechyd neu les trigolyn, gan gynnwys brigiad clefyd heintus;

(c)unrhyw anaf neu salwch a gaiff unrhyw drigolyn;

(ch)unrhyw dân;

(d)unrhyw ladrad neu fyrgleriaeth.

7.  Cofnod sy'n dangos mewn perthynas â phob person a gyflogir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd —

(a)enw llawn;

(b)rhyw;

(c)dyddiad geni;

(d)cyfeiriad cartref;

(e)cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n cynnwys plant a'i brofiad o waith o'r fath;

(f)y swydd y mae'r person hwnnw yn ei dal, a faint o oriau y bydd yn gweithio bob wythnos, ar gyfartaledd.

8.  Copi o unrhyw adroddiad a wneir o dan reoliad 25.

9.  Cofnod o bob cwyn a wneir gan y trigolion neu gan bersonau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd am sut mae'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn gweithredu, a'r camau a gymerwyd gan y person cofrestredig mewn perthynas ag unrhyw gŵ yn o'r fath.

10.  Cofnod o'r taliadau a godir, a'r ffioedd a delir, gan bob teulu neu mewn perthynas â hwy, gan gynnwys unrhyw symiau ychwanegol sy'n daladwy am wasanaethau nad yw'r taliadau hynny'n eu cynnwys, a'r symiau a delir gan bob un o'r trigolion neu mewn perthynas â hwy.

11.  Copi o roster dyletswyddau staff y personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd, a chofnod o'r rosteri a gafodd eu gweithio mewn gwirionedd.

12.  Cofnod o bob ymwelydd â'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

13.  Cofnod o bob cyfrif a gedwir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

(1)

1997 p.50. Mae swydd yn dod o fewn adran 115(3) os yw'n cynnwys gofalu yn rheolaidd am bersonau o dan 18 oed, eu hyfforddi, eu goruchwylio neu fod y daliwr â gofal drostynt ar ei ben ei hun.

(3)

O.S. 1975/1023. Mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud gan O.S. 1986/1249, O.S. 1986/2268 ac O.S. 2001/1192.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill