Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN IIPERSONAU COFRESTREDIG

Ffitrwydd y darparydd cofrestredig

5.—(1Rhaid i berson beidio â rhedeg canolfan breswyl i deuluoedd oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

(2Nid yw person yn ffit i redeg canolfan breswyl i deuluoedd oni bai fod y person —

(a)yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu

(b)yn gorff ac —

(i)bod y corff wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a swydd unigolyn (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol” yn y corff sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y ganolfan breswyl i deuluoedd; a

(ii)bod yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).

(3Dyma'r gofynion —

(a)bod yr unigolyn yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i redeg y ganolfan breswyl i deuluoedd;

(b)bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg y ganolfan breswyl i deuluoedd; ac

(c)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r unigolyn.

(i)mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2:

(ii)os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2;

(iii)ac ymhellach, os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn adroddiad ysgrifenedig ar wiriad ar y rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(1) a rheoliadau a wneir o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(2).

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys os oes unigolyn wedi gwneud cais am y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i rhoi.

(5Nid yw person yn ffit i redeg canolfan breswyl i deuluoedd —

(a)os yw'r person hwnnw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystad ac (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddiddymu nac wedi'i ddileu; neu

(b)os yw wedi cyfamodi neu wedi trefnu gyda'i gredydwyr, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.

Penodi rheolwr

6.—(1Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i redeg canolfan breswyl i deuluoedd —

(a)os nad oes rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r ganolfan breswyl i deuluoedd; a

(b)os yw'r darparydd cofrestredig —

(i)yn gorff;

(ii)heb fod yn berson ffit i reoli canolfan breswyl i deuluoedd; neu

(iii)yn berson nad yw'r ganolfan breswyl i deuluoedd o dan ei ofal amser llawn o ddydd i ddydd neu nad yw'r bwriad iddo fod o dan ei ofal felly.

(2Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd, rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith —

(a)o enw'r person a benodwyd felly; a

(b)o'r dyddiad y mae'r penodiad i fod yn effeithiol.

Ffitrwydd y rheolwr

7.—(1Rhaid i berson beidio â rheoli canolfan breswyl i deuluoedd oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

(2Nid yw person yn ffit i reoli canolfan breswyl i deuluoedd oni bai —

(a)bod y person yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i reoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd;

(b)o roi sylw i faint y ganolfan breswyl i deuluoedd, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y trigolion —

(i)bod gan y person y cymwysterau, y medrau a'r profiad y mae eu hangen i reoli'r ganolfan; a

(ii)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud hynny;

(c)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r person —

(i)mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;

(ii)os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2;

(iii)ac ymhellach, os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn adroddiad ysgrifenedig ar wiriad ar y rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(3) a rheoliadau a wneir o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(4).

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys os oes unigolyn wedi gwneud cais am y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i rhoi.

Y person cofrestredig — gofynion cyffredinol

8.—(1Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw i faint y ganolfan breswyl i deuluoedd, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y trigolion redeg y ganolfan neu ei rheoli (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol.

(2Os yw'r darparydd cofrestredig —

(a)yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu

(b)os yw'n gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,

o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau y mae eu hangen i redeg y ganolfan breswyl i deuluoedd.

(3Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r medrau y mae eu hangen i reoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

Hysbysu tramgwyddau

9.  Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith —

(a)o ddyddiad a man y collfarniad;

(b)o'r tramgwydd y cafodd ei gollfarnu o'i herwydd; ac

(c)o'r gosb a osodwyd mewn perthynas â'r tramgwydd.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill