Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003

RHAN VRHEOLI

Adolygu ansawdd y gofal

23.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu a chynnal system ar gyfer —

(a)adolygu ar adegau priodol, a

(b)gwella,

ansawdd y gofal a ddarperir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

(2Rhaid i'r person cofrestredig roi adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw adolygiad a gynhelir ganddo at ddibenion paragraff (1), a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael i'r trigolion.

(3Rhaid i'r system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) ddarparu ar gyfer ymgynghori â thrigolion.

Y sefyllfa ariannol

24.—(1Rhaid i'r person cofrestredig redeg y ganolfan breswyl i deuluoedd mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd y ganolfan breswyl i deuluoedd yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.

(2Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth a dogfennau y gall ofyn amdanynt er mwyn ystyried hyfywedd ariannol y ganolfan breswyl i deuluoedd, gan gynnwys —

(a)cyfrifon blynyddol y ganolfan breswyl i deuluoedd, wedi'u hardystio gan gyfrifydd;

(b)tystlythyr gan fanc yn mynegi barn am sefyllfa ariannol y darparydd cofrestredig;

(c)gwybodaeth am ariannu'r ganolfan breswyl i deuluoedd a'i hadnoddau ariannol;

(ch)os cwmni yw'r darparydd cofrestredig, gwybodaeth am unrhyw un o'i gwmnïau cysylltiedig;

(d)tystysgrif yswiriant i'r darparydd cofrestredig mewn perthynas â'r rhwymedigaeth y gallai ei thynnu mewn perthynas â'r ganolfan breswyl i deuluoedd ynghylch marwolaeth, niwed, rhwymedigaeth gyhoeddus, difrod neu golled arall.

(3Yn y rheoliad hwn mae cwmni yn gwmni cysylltiedig ag un arall os oes gan un ohonynt reolaeth ar y llall neu os yw'r ddau o dan reolaeth yr un person.

Ymweliadau gan y darparydd cofrestredig

25.—(1Os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, ond nad yw â gofal y ganolfan breswyl i deuluoedd o ddydd i ddydd, rhaid iddo ymweld â'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Os corff yw'r darparydd cofrestredig, rhaid i'r canlynol ymweld â'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn unol â'r rheoliad hwn —

(a)yr unigolyn cyfrifol;

(b)un arall o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff; neu

(c)cyflogai i'r corff nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd.

(3Rhaid i ymweliadau o dan baragraff (1) neu (2) ddigwydd o leiaf unwaith y mis a gallant fod yn ddirybudd.

(4Rhaid i'r person sy'n ymweld —

(a)cyfweld, gyda'u cydsyniad ac yn breifat, ag unrhyw un o'r trigolion a'r personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd y mae'n ymddangos iddo ei bod yn angenrheidiol er mwyn ffurfio barn am safon y gofal sy'n cael ei ddarparu yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;

(b)archwilio tir ac adeiladau'r ganolfan breswyl i deuluoedd, ei chofnod dyddiol o ddigwyddiadau a'i chofnodion o unrhyw gŵynion; ac

(c)paratoi adroddiad ysgrifenedig ynghylch sut mae'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn cael ei rhedeg.

(5Rhaid i'r darparydd cofrestredig roi copi o'r adroddiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff (4)(c) —

(a)i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)i'r rheolwr cofrestredig; ac

(c)yn achos ymweliad o dan baragraff (2), i bob un o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff.