Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003

RHAN IVSAFLEOEDD

Ffitrwydd tir ac adeiladau

21.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 4(6), rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio tir ac adeiladau at ddibenion canolfan breswyl i deuluoedd oni bai —

(a)bod y tir a'r adeiladau'n addas at ddibenion cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben; a

(b)bod lleoliad y tir a'r adeiladau'n briodol ar gyfer anghenion y trigolion.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau —

(a)bod dyluniad a chynllun ffisegol y tir ac adeiladau sydd i'w ddefnyddio fel y ganolfan breswyl i deuluoedd yn diwallu anghenion y teuluoedd;

(b)bod yr adeiladau sydd i'w ddefnyddio fel y ganolfan breswyl i deuluoedd o adeiladwaith cadarn ac yn cael ei gadw mewn cyflwr da y tu allan a'r tu mewn;

(c)bod pob rhan o'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn cael eu cadw'n lân ac wedi'u haddurno'n rhesymol;

(ch)bod llety preifat a chyffredin digonol yn cael ei ddarparu ar gyfer y teuluoedd;

(d)bod maint a chynllun yr ystafelloedd a feddiennir neu a ddefnyddir gan deuluoedd yn addas at eu hanghenion a bod pob teulu yn cael o leiaf un ystafell i'w defnyddio ganddyn nhw yn unig;

(dd)bod cyfleusterau addas yn cael eu darparu i'r trigolion gyfarfod, yn breifat, ag unrhyw berson a awdurdodir gan swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;

(e)bod niferoedd digonol o doiledau, ac o fasnau ymolchi, baddonau a chawodydd wedi'u ffitio â chyflenwad dŵ r poeth ac oer, yn cael eu darparu mewn mannau priodol yn yr adeiladau;

(f)bod gan yr tir a'r adeiladau yr hyn sy'n rhesymol angenrheidiol, wedi'i addasu yn ôl yr angen, er mwyn diwallu'r anghenion sy'n codi yn sgil anabledd unrhyw drigolyn sy'n anabl;

(ff)bod cyfleusterau addas yn cael eu darparu ar gyfer astudio preifat ar gyfer unrhyw un o'r trigolion sydd yn gofyn amdanynt;

(g)bod tiroedd allanol sy'n addas ac yn ddiogel i'r trigolion eu defnyddio yn cael eu darparu a'u cynnal yn briodol;

(ng)bod awyru, gwresogi a goleuo digonol yn cael eu darparu ym mhob rhan o'r ganolfan breswyl i deuluoedd sy'n cael eu defnyddio gan drigolion.

(3Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu ar gyfer personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd —

(a)cyfleusterau a llety addas, heblaw llety cysgu, gan gynnwys —

(i)cyfleusterau ar gyfer newid;

(ii)cyfleusterau storio;

(b)llety ar gyfer cysgu, os oes ar bersonau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd angen darpariaeth llety o'r fath mewn cysylltiad â'u gwaith.

Rhagofalon Tân

22.—(1Ar ôl ymgynghori â'r awdurdod tân, rhaid i'r person cofrestredig —

(a)cymryd rhagofalon digonol rhag risg tân, gan gynnwys darparu offer tân addas,

(b)darparu dulliau dianc digonol,

(c)gwneud trefniadau digonol ar gyfer y canlynol—

(i)canfod, cyfyngu a diffodd tanau;

(ii)rhoi rhybuddion tân;

(iii)gwacâd yr holl bersonau sydd yn y ganolfan breswyl i deuluoedd a lleoli'r trigolion yn ddiogel, os digwydd tân;

(iv)cynnal a chadw'r holl offer tân; a

(v)adolygu'r rhagofalon tân, a phrofi'r offer tân, ar adegau addas;

(ch)gwneud trefniadau i'r personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd gael hyfforddiant addas mewn atal tân; a

(d)sicrhau, drwy gyfrwng ymarferion tân ar adegau addas, fod y personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd ac, i'r graddau y mae'n ymarferol, y trigolion, yn ymwybodol o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân, gan gynnwys y weithdrefn ar gyfer achub bywyd.

(2Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod tân” yw'r awdurdod sy'n cyflawni, yn yr ardal y mae canolfan breswyl i deuluoedd wedi'i lleoli ynddi, swyddogaeth awdurdod tân o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(1).