- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
21.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4(6), rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio tir ac adeiladau at ddibenion canolfan breswyl i deuluoedd oni bai —
(a)bod y tir a'r adeiladau'n addas at ddibenion cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben; a
(b)bod lleoliad y tir a'r adeiladau'n briodol ar gyfer anghenion y trigolion.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau —
(a)bod dyluniad a chynllun ffisegol y tir ac adeiladau sydd i'w ddefnyddio fel y ganolfan breswyl i deuluoedd yn diwallu anghenion y teuluoedd;
(b)bod yr adeiladau sydd i'w ddefnyddio fel y ganolfan breswyl i deuluoedd o adeiladwaith cadarn ac yn cael ei gadw mewn cyflwr da y tu allan a'r tu mewn;
(c)bod pob rhan o'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn cael eu cadw'n lân ac wedi'u haddurno'n rhesymol;
(ch)bod llety preifat a chyffredin digonol yn cael ei ddarparu ar gyfer y teuluoedd;
(d)bod maint a chynllun yr ystafelloedd a feddiennir neu a ddefnyddir gan deuluoedd yn addas at eu hanghenion a bod pob teulu yn cael o leiaf un ystafell i'w defnyddio ganddyn nhw yn unig;
(dd)bod cyfleusterau addas yn cael eu darparu i'r trigolion gyfarfod, yn breifat, ag unrhyw berson a awdurdodir gan swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;
(e)bod niferoedd digonol o doiledau, ac o fasnau ymolchi, baddonau a chawodydd wedi'u ffitio â chyflenwad dŵ r poeth ac oer, yn cael eu darparu mewn mannau priodol yn yr adeiladau;
(f)bod gan yr tir a'r adeiladau yr hyn sy'n rhesymol angenrheidiol, wedi'i addasu yn ôl yr angen, er mwyn diwallu'r anghenion sy'n codi yn sgil anabledd unrhyw drigolyn sy'n anabl;
(ff)bod cyfleusterau addas yn cael eu darparu ar gyfer astudio preifat ar gyfer unrhyw un o'r trigolion sydd yn gofyn amdanynt;
(g)bod tiroedd allanol sy'n addas ac yn ddiogel i'r trigolion eu defnyddio yn cael eu darparu a'u cynnal yn briodol;
(ng)bod awyru, gwresogi a goleuo digonol yn cael eu darparu ym mhob rhan o'r ganolfan breswyl i deuluoedd sy'n cael eu defnyddio gan drigolion.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu ar gyfer personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd —
(a)cyfleusterau a llety addas, heblaw llety cysgu, gan gynnwys —
(i)cyfleusterau ar gyfer newid;
(ii)cyfleusterau storio;
(b)llety ar gyfer cysgu, os oes ar bersonau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd angen darpariaeth llety o'r fath mewn cysylltiad â'u gwaith.
22.—(1) Ar ôl ymgynghori â'r awdurdod tân, rhaid i'r person cofrestredig —
(a)cymryd rhagofalon digonol rhag risg tân, gan gynnwys darparu offer tân addas,
(b)darparu dulliau dianc digonol,
(c)gwneud trefniadau digonol ar gyfer y canlynol—
(i)canfod, cyfyngu a diffodd tanau;
(ii)rhoi rhybuddion tân;
(iii)gwacâd yr holl bersonau sydd yn y ganolfan breswyl i deuluoedd a lleoli'r trigolion yn ddiogel, os digwydd tân;
(iv)cynnal a chadw'r holl offer tân; a
(v)adolygu'r rhagofalon tân, a phrofi'r offer tân, ar adegau addas;
(ch)gwneud trefniadau i'r personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd gael hyfforddiant addas mewn atal tân; a
(d)sicrhau, drwy gyfrwng ymarferion tân ar adegau addas, fod y personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd ac, i'r graddau y mae'n ymarferol, y trigolion, yn ymwybodol o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân, gan gynnwys y weithdrefn ar gyfer achub bywyd.
(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod tân” yw'r awdurdod sy'n cyflawni, yn yr ardal y mae canolfan breswyl i deuluoedd wedi'i lleoli ynddi, swyddogaeth awdurdod tân o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(1).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys