- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 19(1)(a)
1. Mewn perthynas â phob aelod o'r teulu —
(a)ei enw llawn a'i gyfeiriad cartref;
(b)unrhyw enw y mae wedi'i adnabod wrtho o'r blaen;
(c)ei ddyddiad geni a'i ryw;
(ch)ei argyhoeddiad crefyddol (os oes un); a
(d)disgrifiad o'i darddiad hiliol, ei gefndir diwylliannol ac ieithyddol.
2. Enw'r awdurdod lleoli, os oes un, ac enw, cyfeiriad a Rhif ffôn cynrychiolydd i'r awdurdod hwnnw.
3. Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn unrhyw weithiwr cymdeithasol sydd am y tro wedi'i ddyrannu i unrhyw aelod o'r teulu.
4. Telerau unrhyw orchymyn llys y mae'r teulu yn cael llety yn y ganolfan breswyl i deuluoedd odano.
5. Enw a chyfeiriad yr ymarferydd cyffredinol y mae aelodau'r teulu wedi'u cynnwys yn ei restr.
6. Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn unrhyw ysgol, coleg neu weithle y mae unrhyw aelod o'r teulu'n eu mynychu.
7. Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw ddigwyddiad difrifol sy'n cynnwys unrhyw aelod o'r teulu, a dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau disgyblu neu ataliad corfforol a ddefnyddiwyd ar unrhyw aelod o'r teulu.
8. Unrhyw anghenion arbennig o ran deiet, deintyddiaeth neu unrhyw rai eraill o ran iechyd, gan gynnwys manylion unrhyw alergeddau sydd gan unrhyw aelod o'r teulu.
9. Manylion unrhyw feddyginiaethau sy'n cael eu cadw ar gyfer unrhyw aelod o'r teulu yn y ganolfan breswyl i deuluoedd, a manylion unrhyw feddyginiaethau a roddir i unrhyw un o'r trigolion gan berson sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.
10. Manylion unrhyw ddamwain neu salwch difrifol a gaiff unrhyw aelod o'r teulu tra bo'n cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.
11. Y trefniadau ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd ac unrhyw berson perthnasol arall, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar y cysylltiadau, a manylion unrhyw orchmynion llys sy'n ymwneud â chysylltiadau unrhyw berson â'r plentyn.
12. Manylion am unrhyw gyfnod pryd y bu unrhyw aelod o'r teulu yn absennol o'r ganolfan breswyl i deuluoedd, ac a gafodd yr absenoldeb ei awdurdodi gan y person cofrestredig neu beidio.
13. Copi o'r cynllun lleoliad ac unrhyw adolygiad ohono.
14. Cofnod o unrhyw arian neu bethau gwerthfawr a adneuir gan unrhyw aelod o'r teulu i'w cadw'n ddiogel, ynghyd â'r dyddiad y cafodd yr arian hwnnw ei dynnu neu y cafodd unrhyw bethau gwerthfawr eu dychwelyd.
15. Y cyfeiriad, a'r math o sefydliad neu lety, y mae'r teulu'n mynd iddo wrth ymadael â'r ganolfan breswyl i deuluoedd.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys