- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
18 Mawrth 2003
Yn dod i rym
1 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 41, 42 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol Cyffredinol) 1992(2) yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.
2. Diwygir paragraff 10A i Atodlen 2 (Cwynion) yn unol â'r paragraffau canlynol —
(a)ym mharagraff 7(b)(ii) yn lle'r gair “three”, rhodder y gair “two”; a
(b)ym mharagraph (7)(c) yn lle'r ffigur “10”, rhodder y ffigur “20”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D.Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
18 Mawrth 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol Cyffredinol) 1992 sy'n rheoleiddio'r telerau ynghylch darparu gwasanaethau fferyllol cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Mae Rheoliad 2 yn cynnwys darpariaethau sy'n diwygio'r cyfnod o amser sydd gan fferyllwyr i ymateb i gwynion a wneir gan neu ar ran unrhyw berson y maent wedi rhoi gwasanaeth fferyllol iddo. Caiff yr amser a ganiateir i fferyllwyr gydnabod cwynion yn ffurfiol ei leihau o dri diwrnod i ddau ddiwrnod (ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc), tra caiff yr amser a ganiateir i roi i achwynydd grynodeb ysgrifenedig o ymchwiliadau a chasgliadau ei gynyddu o 10 i 20 diwrnod gwaith (ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc).
1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p. 19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
Diwygiwyd adran 41 gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15) (“Deddf 2001”), adran 42(1).
Diwygiwyd adran 42 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygio) 1986 (p. 66), adran 3(1); gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), adran 2(1), Atodlen 1, paragraff 30(a)(i), (b)(i), (iii) a (c)(i), (iii) a (iv); Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(p.15) (“Deddf 2001”), adrannau 43(2), (3) a (4), 20(1) a (6)(a)(b)(c), 23(1) a (5)(a)(b), 67(2), Atodlen 6, Rhan 1; gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17 ) (“Deddf 2002”), adran 2(5), Atodlen 2, Rhan 1, paragraffau 1, 16(1), (3)(b) a (4)(b); O.S. 1987/2202, erthygl 4, a chan Ddeddf 1990, adran 12(3).
Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); gan Ddeddf Iechyd 1999(p.8), adran 65(1), Atodlen 4, paragraffau 4, 37(1) a 6; gan Ddeddf 2001, adran 67(1), Atodlen 5, Rhan 1, paragraffau 5(1) a 13(b) a chan Ddeddf 2002, adran 6(3)(c).
O ran Cymru, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 41 a 42 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo, O.S. 1999/672.
O.S. 1992/662, yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1996/698, sy'n mewnosod paragraffau 10A a B yn Atodlen 2 ac O.S. 1999/696 sy'n diwygio paragraff 10A.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: