Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 897 (Cy.117)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

26 Mawrth 2003

Yn dod i rym

7 Ebrill 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2):

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym —

(a)at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliadau 3(1), 5, 7(1), 8(1) ac 8(4) ar 1 Ebrill 2003,

(b)at ddibenion yr holl reoliadau eraill a'r rhannau o reoliadau, ar 7 Ebrill 2003.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992(3).

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio'r prif Reoliadau — terfynau cyfalaf

2.—(1Diwygir y prif Reoliadau yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 20 (terfyn cyfalaf) yn lle'r ffigur “£19,000” rhoddir y ffigur “£20,000”.

(3Yn rheoliad 28(1) (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf) yn lle'r ffigur “£11,750”, bob tro y mae'n ymddangos, rhoddir y ffigur “£12,250” ac yn lle'r ffigur “£19,000” rhoddir y ffigur “£20,000”.

Diwygio'r prif Reoliadau — dehongli

3.—(1Ym mharagraff (1) o reoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli)—

(a)mewnosodir y diffiniadau canlynol yn y man priodol:

“carer’s allowance” means a carer’s allowance under the Social Security Contributions and Benefits Act(4);;

“lone parent” has the same meaning as in the Income Support Regulations(5);;

(b)hepgorir y diffiniad o “invalid care allowance”

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 2 o'r prif Reoliadau, mewnosodir y diffiniadau canlynol yn y man priodol:

“child tax credit” means a child tax credit under the Tax Credits Act(6);;

“guardian’s allowance” means a guardian’s allowance under the Contributions and Benefits Act(7));;

“working tax credit” means a working tax credit under the Tax Credits Act 2002(8);.

Diwygio rheoliad 16 o'r prif Reoliadau

4.  Ar ôl paragraff (4) o reoliad 16 o'r prif Reoliadau (cyfalaf a gaiff ei drin fel incwm) mewnosodir y paragraff canlynol—

(5) Where an agreement or court order provides that payments shall be made to the resident in consequence of any personal injury to the resident and that such payments are to be made, wholly or partly, by way of periodical payments, any such payments received by the resident, to the extent that they are not a payment of income shall be treated as income.

Diwygio Atodiad 2 i'r prif Reoliadau

5.  Ym mharagraff 3(2)(a) o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau (symiau i'w hanwybyddu wrth gyfrifo enillion), yn lle'r geiriau “an invalid care allowance” mewnosodir y geiriau “ a carer’s allowance”.

Diwygio Atodlen 3 i'r prif Reoliadau — paragraffau 10 a 30

6.—(1Ym mharagraff 10 o Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (symiau i'w hanwybyddu wrth gyfrifo incwm heblaw enillion)—

(a)yn is-baragraff (1), yn lle'r geiriau “(charitable or voluntary payments) of any charitable or of any voluntary payment” rhoddir “(relevant payments) of any relevant payment”;

(b)yn is-baragraff (2) yn lle'r geiriau “charitable payment or voluntary payment” rhoddir y geiriau “relevant payment”;

(c)ar ôl is-baragraff (2), ychwanegir yr is-baragraff canlynol—

(3) In this paragraph, “relevant payment” means—

(a)a charitable payment;

(b)a voluntary payment;

(c)a payment (not falling within sub-paragraph (a) or (b)) from a trust whose funds are derived from a payment made in consequence of any personal injury to the resident;

(d)a payment under an annuity purchased—

(i)pursuant to any agreement or court order to make payments to the resident; or

(ii)from funds derived from a payment made,

in consequence of any personal injury to the resident; or

(e)a payment (not falling within sub-paragraphs (a) to (d)) received by virtue of any agreement or court order to make payments to the resident in consequence of any personal injury to the resident..

(2Ym mharagraff 30 o Atodlen 3 i'r prif Reoliadau—

(a)yn lle'r geiriau “charitable or voluntary payments” rhoddir y geiriau “relevant payments”; a

(b)ar y diwedd, ychwanegir yr is-baragraff canlynol—

(2) In this paragraph “relevant payment” has the same meaning as in paragraph 10(3)..

Diwygio Atodlen 3 — paragraffau 28D —F

7.—(1Yn Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (symiau i'w hanwybyddu wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion), ar ôl paragraff 28C, ychwanegir y paragraffau canlynol—

28D.  Any payment made by a local authority to or on behalf of the resident relating to welfare services in respect of which the National Assembly for Wales has paid a grant to the local authority under section 93(2) of the Local Government Act 2000(9), where the resident qualified for that payment.

28E.  Any payment made under the Community Care (Direct Payments) Act 1996(10) or under regulations made under section 57 of the Health and Social Care Act 2001(11) except where that payment is paid in relation to the provision of residential accommodation under the Act.

28F.  Any payment made under section 17A of the Children Act 1989(12)) except where that payment is paid in relation to the provision of residential accommodation under the Act..

(2Yn Atodlen 3 i'r prif Reoliadau ar ôl paragraff 28D, ychwanegir y paragraffau canlynol—

28G.  Any guardian’s allowance.

28H.  Any child tax credit..

Diwygio Atodlen 4 i'r prif Reoliadau

8.—(1Yn Atodlen 4 i'r prif Reoliadau (cyfalaf i'w anwybyddu) ar ôl paragraff 2, ychwanegir y paragraff canlynol—

2A.  Where a resident has ceased to occupy a dwelling, which was formerly occupied as the home, following his estrangement or divorce from his former partner, the value of the resident’s interest in that dwelling where it is still occupied as the home by the former partner who is a lone parent..

(2Ym mharagraff 6 o Atodlen 4 i'r prif Reoliadau—

(a)ar ôl y geiriau “(arrears of specified payments)” mewnosodir y geiriau “as in force immediately before the 7th April 2003”; a

(b) yn lle “, 9 or 9A” rhoddir “or 9”.

(3Yn atodlen 4 i'r prif Reoliadau, ar ôl paragraff 6, ychwanegir y paragraff canlynol—

6A.  Any arrears of, or any concessionary payment made to compensate for arrears due to the non-payment of —

(a)working families tax credit under section 128 of the Contributions and Benefits Act(13)

(b)disabled person’s tax credit under section 129 of the Contributions and Benefits Act(14)

(c)child tax credit, or

(d)working tax credit,

but only for a period of 52 weeks from the date of the receipt of the arrears or of the concessionary payment..

(4Yn Atodlen 4 i'r prif reoliadau ar ôl paragraff 21, ychwanegir y paragraffau canlynol—

22.  Any payment made by a local authority to or on behalf of the resident relating to welfare services in respect of which the National Assembly for Wales has paid a grant to the local authority under section 93(2) of the Local Government Act 2000, where the resident qualified for the payment.

23.  Any payment made under the Community Care (Direct Payments) Act 1996(15) or under regulations made under section 57 of the Health and Social Care Act 2001(16)) except where that payment is paid in relation to the provision of residential accommodation under the Act.

24.  Any payment made under section 17A of the Children Act 1989(17) except where that payment is paid in relation to the provision of residential accommodation under the Act..

9.  Dirymir Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2002(18))

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (19)

D. Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Mawrth 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y prif Reoliadau”).

Mae'r prif Reoliadau yn ymwneud ag asesu gallu person (“y preswylydd”) i dalu am lety sydd wedi'i drefnu gan awdurdodau lleol o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. Mae llety Rhan III yn cael ei drefnu ar gyfer personau 18 oed neu drosodd y mae arnynt, oherwydd oedran, salwch, anabledd neu unrhyw amgylchiadau eraill, angen gofal a sylw nad ydynt ar gael iddynt fel arall, ac ar gyfer mamau sy'n disgwyl plentyn a mamau sy'n magu ac sydd mewn angen tebyg.

Mae'r prif Reoliadau yn darparu bod rhaid asesu preswylydd fel un sy'n gallu talu am lety Rhan III yn ôl y gyfradd safonol os yw cyfalaf y preswylydd hwnnw, o'i gyfrifo yn unol â'r prif Reoliadau, yn fwy na therfyn cyfalaf uchaf o £19,000. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn cynyddu'r terfyn cyfalaf uchaf o £19,000 i £20,000. Mae'r prif Reoliadau yn darparu hefyd ar gyfer cyfrifo incwm preswylydd i gymryd i ystyriaeth gyfalaf sydd o fewn band rhwng y terfyn cyfalaf uchaf a'r terfyn cyfalaf isaf. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r terfynau cyfalaf uchaf ac isaf. Mae pob £250 neu ran o £250 o fewn y band hwn yn cael ei drin fel swm sy'n cyfateb i incwm wythnosol o £1.

Mae Rheoliad 4 yn diwygio'r prif Reoliadau gyda'r effaith y bydd yr holl daliadau cyfnodol a geir mewn setliad o hawliad am anaf personol, boed yn rhinwedd cytundeb neu orchymyn llys, i'r graddau nad ydynt yn incwm, yn cael eu trin fel incwm.

Mae Rheoliad 5 yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn rhoi yn lle'r cyfeiriad at “invalid care allowancey term “carer’s allowance”.

Mae Rheoliad 6 yn diwygio'r prif Reoliadau gyda'r effaith bod taliadau incwm naill ai, (a) a gafwyd o ymddiriedolaethau y mae eu cyllid yn deillio o setliadau anaf personol i'r preswylydd, neu (b) o flwydd-dal a brynwyd o gyllid o'r fath neu (c) yn rhinwedd unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau am anaf personol, yn cael eu hanwybyddu yn eu cyfanrwydd pan ydynt wedi'u bwriadu a'u defnyddio ar gyfer angen gan y preswylydd na chymerwyd i ystyriaeth wrth bennu cost (neu gyfradd safonol) y llety a ddarperir. Fel arall, anwybyddir £20 cyntaf incwm o'r fath.

Mae Rheoliadau 7 ac 8(4) yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn hepgor, wrth gyfrifo incwm neu gyfalaf, unrhyw daliadau a wneir i breswylwyr neu ar eu rhan ac sy'n ymwneud â gwasanaethau lles y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi rhoi grant mewn cysylltiad â hwy i'r awdurdod lleol o dan a.93(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Mae Rheoliad 7 hefyd yn hepgor lwfans gwarcheidwad a chredyd treth plant.

Mae Rheoliad 8(1) yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn hepgor, wrth gyfrifo cyfalaf preswylydd, werth buddiant y preswylydd mewn cartref a feddiannai gynt gyda phriod neu bartner nad yw bellach yn briod ag ef neu hi neu yn byw gydag ef neu hi, os yw'r cyn-briod neu'r cyn-bartner yn dal i feddiannu'r cartref fel rhiant unigol.

Mae Rheoliad 8(2) yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn cadw'r sefyllfa bresennol ynghylch trin ôl-ddyledion amrywiol fudd-daliadau nawdd cymdeithasol wrth asesu cyfalaf preswylydd ac mae'n tynnu oddi yno gyfeiriad at baragraff o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 a gafodd ei ddirymu.

Mae Rheoliad 8(3) yn darparu ar gyfer anwybyddu wrth gyfrifo cyfalaf unrhyw ôl-ddyledion neu unrhyw daliad consesiynol a wneir i ad-dalu ôl-ddyledion oherwydd na thalwyd credydau treth am gyfnod o 52 o wythnosau o ddyddiad eu talu.

(1)

1948 p.29; diwygiwyd adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 gan adran 39(1) o Ddeddf y Weinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1966 (p.20) a pharagraff 6 o Atodlen 6 iddi, gan adran 35(2) o Ddeddf Budd-daliadau Atodol 1976 (p.71) a pharagraff 3(b) o Atodlen 7 iddi, gan adran 20 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1980 (p.30) a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi, a chan adran 86 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1986 (p.50) a pharagraff 32 o Atodlen 10 iddi.

(2)

Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1992/2977; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1996/602 ac O.S. 2002/814 (Cy.94).

(4)

1992 p.4 Gweler adran 70 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1457.

(5)

O.S. 1987/1967 Gweler rheoliad 2.

(6)

2002 p.21 Gweler adran 8.

(7)

1992 p.4 Gweler adran 77 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Credydau Treth 2002 p. 21.

(8)

2002 p.21 Gweler adran 10.

(12)

1989 p.41.

(13)

1992 p.4 Gweler adran 128 fel y'i diwygir gan Ddeddf Ceisio Gwaith 1995 p.18 a Deddf Credydau Treth 1999 p.10

(14)

Gweler adran 129 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 p.14, Deddf Nawdd Cymdeithasol (Anallu i Weithio) 1994 p.18, Deddf Ceisio Gwaith 1995 p.18, Deddf Credydau Treth 1999 p.10 a Deddf Ad-drefnu Nawdd Cymdeithasol a Phensiynau 1999 p.30.

(15)

1996 p.30.

(16)

2001 p.15.

(17)

1989 p.41.

(19)

1998 p.38.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill