- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS I DEITHWYR, CYMRU
Wedi'u gwneud
27 Mawrth 2003
Yn dod i rym
1 Mai 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 154(5) o Ddeddf Drafnidiaeth 2000(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Mai 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002(2).
3.—(1) Mewnosodir y canlynol yn rheoliad 2 o Reoliadau 2002 (dehongli) —
(a)o flaen diffiniad “gwasanaeth lleol” —
“ystyr “gwasanaeth coetsys domestig” (“domestic coach service”) yw gwasanaeth bysiau—
sy'n cludo teithwyr am brisiau tocyn unigol;
sy'n gweithredu rhwng dwy arosfan raglenedig (y mae rhaid i o leiaf un ohonynt fod yng Nghymru), p'un a yw'r gwasanaeth yn terfynu yn un o'r arosfannau hyn neu yn y ddwy ohonynt; ac
nad yw'n wasanaeth lleol;”;
(b)ar ôl diffiniad “person anabl” —
“ystyr “pris tocyn apex” (“apex fare”), mewn perthynas â thaith, yw pris tocyn sy'n daladwy wrth brynu tocyn ar gyfer y daith honno o leiaf saith diwrnod clir cyn y dyddiad teithio, ac sy'n bris tocyn nad yw'n fwy na 90% o'r pris tocyn llawn ar gyfer oedolyn a fyddai'n daladwy wrth brynu tocyn o'r fath ar y diwrnod teithio;
ar y diwedd —
“mae i “trwydded consesiwn teithio statudol” (“statutory travel concession permit”) yr un ystyr â “statutory travel concession permit” yn adran 145 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000.”.
4.—(1) Mae Rheoliad 3 o Reoliadau 2002 (cymhwyster i gael grant) yn cael ei ddiwygio yn unol â'r ddarpariaeth ym mharagraffau (2) a (3).
(2) Ar ddiwedd paragraff (1) mewnosodir —
“(ch)gwasanaeth coetsys domestig, i'r graddau y mae ei daith yng Nghymru ac y mae'r amodau a nodir ym mharagraff (5) yn cael eu bodloni mewn perthynas ag ef.”.
(3) Mewnosodir ar y diwedd—
“(5) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(ch) yw—
(a)bod y gwasanaeth yn darparu consesiynau teithio hanner-pris (ac eithrio i bersonau sy'n teithio drwy dalu pris tocyn apex) ar nid llai na 290 diwrnod y flwyddyn ac ar nid llai nag 21 diwrnod y mis (ac eithrio mis Rhagfyr) ac ar nid llai na 12 diwrnod ym mis Rhagfyr (neu nifer pro rata y diwrnodau hynny yn ôl eu trefn os yw'r gwasanaeth yn rhedeg am ran o flwyddyn neu fis yn unig; gan dalgrynnu'r nifer gofynnol i lawr, yn ôl yr angen, i'r nifer cyfan agosaf o ddiwrnodau), i'r canlynol—
(i)personau sydd wedi cyrraedd 60 oed; a
(ii)unrhyw berson y mae trwydded consesiwn teithio statudol gyfredol wedi'i dyroddi iddo, wrth i'r person hwnnw ddangos y drwydded, neu i unrhyw berson arall sy'n gallu dangos y byddai ganddo hawl i gael trwydded consesiwn teithio statudol oni bai am gytundeb o dan adran 145(6) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;
(b)bod y gwasanaeth yn rhedeg o leiaf unwaith yr wythnos am gyfnod heb fod yn llai na chwe wythnos yn olynol;
(c)bod y seddau sydd ar y cerbyd, a'r seddau hynny yn gyfrwng i ddarparu'r gwasanaeth, ar gael fel rheol i aelodau'r cyhoedd a bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan yr aelodau hynny;
(ch)bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol ag amserlen; a
(d)bod trefniadau yn cael eu gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau'r cyhoedd gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith a'r lleoedd y mae'n eu gwasanaethu.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
27 Mawrth 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn estyn cwmpas gwasanaethau bysiau cymwys at ddibenion adran 154 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (“Deddf 2000”), o'r un sydd wedi'i bennu gan Reoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2022) (Cy. 206), i gynnwys gwasanaethau coetsys penodol ar hyd lwybrau 15 milltir neu fwy a'r rheini'n wasanaethau sy'n gweithredu yn unol ag amserlen sefydlog, sydd i'w defnyddio gan y cyhoedd, ac sy'n darparu consesiynau tocynnau hanner-pris (ar delerau sydd wedi'u nodi ymhellach yn y Rheoliadau hyn) i bersonau sy'n 60 oed neu'n hŷn ac i bersonau y mae trwydded consesiwn teithio statudol wedi'i dyroddi iddynt (neu y gallai fod wedi'i dyroddi, oni bai am gytundeb amgen gydag awdurdod consesiynau teithio o dan adran 145(6) o Ddeddf 2000).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys